Hide Articles List

2 articles on this Page

AT EIN QOHEBWYR

News
Cite
Share

AT EIN QOHEBWYR TELYNOR.- Mr Edward Jones, Henblas, Llandderfel, Meirion, telynor Tywysog Cymru, George Augustus Frederick, oedd awdwr y llyfr y soniwch am dano — Gweddillion Barddoniasth a Cherddoriaeth yr hen Feirdd Cymreig. Yn y flwyddyn 1784 y cyhoeddwyd ef gan yr awdwr, yn Llun- dain, ac y mae yn gyflwynedig i Dywysog Cymru, ac yn mhlith y tanysgrifwyr y mae enwau y Teulu Brenhinol a phrif bendefigion Prydain Fawr, ac ar y wyneb-ddalen y mae y llinellau canlynol o waith Goronwy Owen :— Trwy'r dydd taro'r delyn, Oni bo'r i&s yn y bryn; 0 gywair dant! a gyr di Awr orhoen i Eryri." Nid ydymyn gwybod am un ail-argraphiad o'r llyfr, ond credwn mai prin iawn yw y copiau. RIGADOON.-Nid yw y gair yn golygu na mwy na llai na hen ddawns Ffrengig fywiog yn yr amser triphlyg, ond dawns Ysgotaidd ydyw y Reel, a Gwyddelig ydyw y Jig. UN o DDIFRIF.-OS ydych yn canlyn dwy eneth, ac yn meddwl priodi un ohonynt, byddai yn well i chwi newid eich meddwl, a phriodi y llall. Mae hwn yn gynghor er eich lies, os mynwch fod yn gall; os un o'r ddwy briodech chwi, chwi fynech gael y llall. UN o FEIBION LLAFUR.—Byddai yn dda i chwi gymeryd golwg eangach ar y cwestiwn. Y mae yn bosibl i feibion llafur fwrw yn nghyd eiriau caledion yn erbyn peiriannau, ac yn nghylch dyfeisiau celfyddgar i leihau llafur, ond y maent yn gwneyd hyny am nad ydynt wedi iawn ystyned y mater. Onibai am beiriannau i leihau llafur dwylaw dyn, agerbeiriannau, ac agerlongau, a cherbyd- resi, a'r peiriannau ereill sydd wedi rhwydd- hau y ffordd i aredig a llyfnu, medi a dyrnu, i gludo dros diroedd a moroedd, byddai gwledydd fel Cymru a Lloegr, a gwledydd ereill y ddaear nad ydynt yn gallucodi digon o yd i ddiwallu eu trigolion mewn sefyllfa druenus o angenoctyd a newyn. Drwy ddarganfyddiadau dynion o feddwl y mae cnwd y maes yn yr helaethrwydd ohono yn dvfod o fewn cyrhaedd pawb, a natur yn dyfod bob dydd yn fwy-fwy darostyngedig i ddyn, a'r gallu meddyliol yn dyfod yn enill mawr i'r byd. Y mae YSPRYD YR OES hefyd yn dyweyd ei feddwl, ac yn dal na ddylai y ddyfais sydd yn llesoli y llafurwr gau allan y dyn o feddwl; y dyfeisydd, y masnachydd antur- iaethus, a chyLllunwyr y llinellau o ager- longau, &c., yr oil o ba rai-er yn helpu eu hunain, wrth gwrs—yn helpu mwy nag y gall iaith fynegu ar y gweithiwr hefyd drwy'r byd cyfan. Mae'n debyg," meddai, fod terfyn naturiol i'r gwelliantau hyn, yn gystal ag i gynnyrch y tir, fe ddichon; ac y mae y cwestiwn mawr o borthi poblogaeth gynnyddol y byd mewn cant neu ddau o flynyddoedd i ddyfod yn debig o brofi gallu- oedd meddyliol ein holafiaid." Allwn ni ddim, er hyny, ddigaloni nad all dyfais ddynol a chynnydd gwybodaeth gyfarfod a'r anhawsderau. YMCHWILGAR. Nid Bedwen Mai na Changhen Ha', na Phawl Mai ychwaith ydyw yr hyn y cyfeiriwch ato, ond yn' hytrach Pawl Gauaf, neu efallai yn fwy priodol Pawl yr Adar, am ei fod yn cynnal i fyny ysgub yr adar. Hen arferiad ganmol- adwy yn mhlith y werin yn Norway ydyw dodi ysgub o wenith neu ryw rawn arall ar ben polyn hir, a'i osod ar gyfer drws y bwthyn amser y Nadolig, pan fo'r eira gwyn yn gorchuddio'r tir, er porthi yr adar yn ystod y tywydd caled. Y mae yn weithred deilwng, ac y mae cadw yr arferiad yn fyw drwy'r blynyddoedd yn fwy canmoladwy fyth ar gyfrif y wers o elusen a ddyru i'r ieuenctyd, gan ddwyn ar got iddynt y dylai y Nadolig fod yn dymhor o elusengarwch yn gystal ag o lawenydd. UN HOFF o HANES.—Y mae Ynys Robin- son Crusoe, fel y gelwir hi, yn ymgodi o fynwes y Mor Tawel (Pacific Ocean), mor- daith o tua tri diwrnod o Valparaiso, yn Chili, ac yn agos i'r un lledred a'r porthladd pwysig hwnw, ar du gorllewinol Deheudir America. Juan Fernandes ydyw gwir enw yr ynys, lie y bu Alexander Selkirk fe alltud unig am bedair blynedd; ac oddiar hanes y gwr hwnw y casglodd Daniel Defoe ddefnyddiau y llyfr poblogaidd hwnw, Hanes Robinson Crusoe." Y mae gan PLATO HUSHES un sylw rhagorol yn ei ohebiaeth am yr wythnos hon, sef fod diaconiaid capel neillduol, heb fod yn mhell o Grug y Babell, fel wyau—yn rhy lawn ohonynt eu hunain i gynnwys dim byd arall. Y mae yn eithaf gwir," meddai, eu bod hwy yn ystyried eu hunain yn llawer gwell na phobl ereill, ond digon prin y gallant brofi hyn i foddlonrwydd y pobl ereill hyny." UN HOFF 0'1 WAlTH. Dywedodd yr awdwr ei hun, sef Syr Arthur Sullivan, iddo gyfansoddi cerddoriaeth y "Lost Chord,' un noswaith ar ol bod yn gwylio am oriau wrth wely angau brawd iddo. Wrth eistedd i lawr wrth yr organ oedd yn digwydd bod mewn ystafell o'r tuallan, canfyddai y geiriau o'i flaen. Y canlyniad ydyw yr alaw enaid-gynhyrfiol sydd wedi aufarwoli enw yr awdwr.

Advertising