Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CHWAREU'R BOBL ALLAN

News
Cite
Share

CHWAREU'R BOBL ALLAN Y mae organydd enwog o'r Almaen yn arfer ymweled a Llangrediniol bob deohreu haf. Dydd Sul diweddaf, aeth i'r eglwys yno gyda cliyfaill iddo o'r ardal, ag sydd yn aelod o'r cor. Aeth yn sibrwd yn mhlith y cantorion, ac yr oeddynt yn awyddus am gael ei glywed yn chwareu. Sibrydodd y cantwr yn nghlust yr hen Andrew y byddai raid iddo adael i'r gwr dyeithr chwareu y voluntary yr arferir ei chwareu pan fyddo'r gynnulleidfa yn myned allan, neu chwareu y bobl allan, fel y dywedir. Trodd yr hen Andrew ei drwyn yn ysgornllyd wrth glywed hyny; ondy mae y cymhelliad yn dyfod yn rhy gryf, nes y mae o'r diwedd yn caniatau, a'1' boneddwr dyeithr yn eistedd i lawr wrth yr organ. Yr oedd y gynnulleidfa wedi cyfodi ifyned allan, ac wedi myned hanner y ffordd tua'r drws. Ond clywch! Pa swn newydd yw hwnyna? Yr oedd rhyw gemciau newydd yn dyfod o'r organ. Yr oedd rhyw gordiau na chlywyd mohonynt o'r blaen yn crynu'r awyr. Arhosodd y gynnulleidfa yn synedig i wrando, gan edrych ar eu gilydd yn syn. edig. Yr oedd hyd yn nod yr hen ficer wedi aros ar y grisiau hanner y ffordd i lawr o'v pwlpud, wedi ei swyno. Gwelodd yr hen Andrew sub yr oedd pethau yn bod. Yr oedd y gynnulleidfa fel pe wedi ymgaregu, ac yn methu symad tua'r drws. "Pw," meddai, "dyna beth sy'n dwad o ymyraeth! Fedrwch ohwi ddim chwareu'r 1" N allan Gadewch i mi ddangos i chwi sut y mae gwneyd." A chyda gwth ddi- seremoni i'r boneddwr dyeithr, eisteddodd i lawr, a chwareuodd un o'i hen bethau eihun. Aeth y bobl allan yn benisel; ac wedi gwagu'r eglwys, cyfododd yr hen Andrew i fyny yn fuddugoliaethus, ac aeth allan ar eu holau.

PARADWYS l?mOG

HYNODION A NODWEDDION AELOOAU…

Advertising