Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

EXCELSIOR I

News
Cite
Share

EXCELSIOR I [EFELYCHIAD 0 LONGFELLOW GAN HENLLYS."] 'Roedd duon gysgodau y nos yn ymledu, A'r ddaear dan gwrlid o eira yn cysgu, Pan welid gwr ieuanc yn hwylio ei gamrau Trwy bentref mynyddig wrth odreu yr Alpau, A'i law, er yr oerfel, ymafiai yn wrol Mewn banner, ac arni'r gair cysswyn dy- eithriol- Excelsior I Ei ael oedd yn athrist, ond tan penderfyn- iad Ymfflachiai, fel mellten, o ganwyll ei lygad; A seiniai trwy'r awyr, fel udgorn o arian, Acenion dyeithriol gair cysswyn ei luman — (Yr hwn oedd motto ei fywyd ei hunan) Excelsior Fe welai breswylwyr y pentref mor dded- wydd, A'r tan a wresogai eu tawel aelwydydd Fry, megis ysprydion, disgleiriai'r rhew- fryniau, A syrthiodd ochenaid oddiar ei wefusau- Excelsior! 51 Na chynnyg y Bwlch," medd henafgwr twym-galon, Mae'r storom sy'n nesu yn drom o fygyth- ion; Dwfn, llydan, a gwyllt yw'r rhyferthwy croch-ruol," A'r llais glir atebai mewn seiniau pell- dreiddiol- Excelsior! "0 aios a gorphwys," medd hawddgar forwynig, Dy ben ar fy nwyfron, blin wyt a lludd- edig;" A deigryn tryloew a gododd i'w lygad, Ond eto ochenaid sibrydodd atebiad, Excelsior! Crin ydyw canghonau'r binwydden, gofala; Ofnadwy beryglus yw'r mynydd o eira," Oedd olaf anerchiad y bugail profiadol; Ond llais a atebodd o'r uchder aruthrol- Excelsior I Gweddiau mynachod Sant Bernard, fel arfer, Esgynent ar edyn y wawr i'r uchelder; Ac yn y distawrwydd plygeiniol, llais eglur, Ond dyeithr ei nodau, gynhyrfodd yr awyr, Excelsior! Yn foreu darganfu ci ffyddlawn, caredig, Dan orchudd o eira, gorph teithiwr tranc- edig; A'i law oer, rewedig, dynwasgai yn wrol Y faner, ac arni'r arwyddair dyeithriol, Excelsior Ac yno ar lasiad y boreu oer hwnw, Gorweddai'r gwr ieuanc mor brydferth, ond marw! Ac allau o'r uchder digwmwl a. llachar, Llais syrthiodd, fel syrthiad taran-follt i'r ddaear, Excelsior I

Y WLAD.

[No title]

PUMMED RESTR 0 WOBRWYON

GWOBRAU MISOL.

TELERAU.