Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

HUNANCOFIANT HOGYN

News
Cite
Share

pobpeth yn teimlo wrth fy modd, ac mi fasan dda gin i 'tasa Pwllheli gin bellad dair gwaith ag oedd o. Ond dyma ni yn cyredd yno yn rhy fuan o'r hanar. Gida'n bod ni wedi rowndio Careg yr Imbill a dwad i olwg yr harbwr yn iawn mi welwn fod y lan yn ddu o bobol, a mi glywn swn brass band yn dwad efo'r awal. Chwara Pull for the shore, sailor," yr oeddan nhw; rhei iawn am chwara tona Sanki ydi bands Pwllheli-mi clowis i nhw'n chwara un o'r tona rheini am noson gyfa heb gym'ryd eu gwynt ddim un waith dest iawn. Dyna i chi! 'Roedd y llonga yn yr harbwr wedi eu gwisgo efo baneri; strings o faneri ar y lan cannoedd, os nad miloedd, o bobol ar y lan yn disgwl Bob a fina yn ol; y bands yn chwthu yn gynddeiriog, a phawb wedi cym'ryd diwrnod o wyl; a'r cwpwl i gid o achos fod Bob a fina wedi digwdd troi yn beirats a myn'd at long miawn distres. Wel, wel, 'tasa'r 'rhen Ddafydd Hughes y bleunor yn y fan yma 'rwan be fasa fo'n ddeud, tybad 1 I I Gwagedd, oh wagedd — ne rwbath i'r un cyfeiriad. Fel 'roedd ein cwch ni yn dwad at y lan, a'r rhwyfwrs yn pwyso mwy na'r eyffredin ar y rhwyfa er mwyn ei yru fo reit i fyny yn uchal ar y traeth, dyma'r bands yn trawo See the konkring hero," a'r holl bobol yn tori allan i floeddio yr hwre fwya dychryn- llyd glowis i 'rioed. Be andros ydi'r matar ar bobol Pwllheli heiddiw, deudweh?" ebrwn wrth y dyn oedd wrth y llyw. Wedi dwad yma i'ch cyfarfod chi'ch dau mae nhw," ebra hwnw. Hen ddyn sychlyd ofnadwy oedd y dyn hwnw oedd wrth y llyw. 'Ro'n i wedi gofyn iddo lawar gwaith ar y ffordd o'r ynys am jou o faco, ond 'toedd gyno fo ddim, ebra fo, er ei fod o yn poeri sig baoo drost ochor y cwch ddigon i wenwyno morfil Jonah ys talwm, 'tasa hwnw yn digwdd dwad yno. I be oedd y dyn yn deud celwdd, ynte ? Os oedd o yn fy ngwel'd i yn hogyn rhy ifanc i gnoi baco pa'm na fasa fo yn deud hyny yn blaen yn lie deud nad oedd gyno fo ddim baco, a fina yn gwel'd fod gyno fo gwmpas hanar pwys yn ochor ei geg ? 'Roedd fy maco fi wedi darlod, ac 'roedd arna i eisio jou ne smoc yn ofnadwy. Ond 'toedd dim iws—'roedd pawb oedd yn yr hen gweh hwnw 'run fath a thasa nhw'n perthyn i bicnic rhwBand of Hope yn union. Gida'n bod ni wedi rhedag y cwch i fyny a* y lan dyma tia dwsin o ddynion mawr, eryfion, nobl, yn rhedeg ato fo ac yn gofyn i'r hen biwritan syghlyd oedd wrth y llyw lie 'roedd y ddau hogyn oedd wedi gwneyd y iafch wrhydri y noson gynt. Dyma nhw'r ddau hen gena bach," ebra'r hen biwritan, mae'r mwya ohonyn nhw wedi bod yn begio baco ar bob sowl sy'n y ewch yma ac wedi bod yn rhoid tafod drwg i ni i gid ar hyd y ffordd o Studwals yma am na fasa ni wedi dwad a stoc o faco i'w cwarfod nhw i'r ynys. Eisio ei chwipio'n reit dda [sy ar y ddau hogyn yma, ac nid eisio gneyd peth fel hyn iddyn nhw." Oh, wel, hogia ydi hogia, wyddoch," ebra un o'r dynion, a dyma nhw'n cipio ni ein dau-Bob a fina-ar eu cefna, ac yn ein cario at rw blatfform bach o goed oedd wedi ei godi ar y lan. Ar y platfform hwnw 'roedd y capten, ei wraig a'r hogen, a hefyd rhw ddyn go fawr miawn dillad reit neis, ac 'roedd hwnw yn dal papur hir yn ei law. 0 gwmpas y platfform 'roedd y bands yn chwthu fel coblynod, ddigon a byddaru un, ac o'u cwmpas nhw am filldiroedd-ne o'r hyn lleia am lawar o ffordd—'roedd pobol Pwll- heli yn dorf fawr yn gweiddi hwre ac ysgwd eu hancedsi poced. Mor o wyneba oedd yno yn mhob man. Gida bod y dynion rheini wedi bwrw Bob a fina ar ein hyd ar y platfform, ac i'r bands orffan chwythu eu hunen allan o wynt, dyna'r dyn mawr a'r papur yn dechra deud rhwbath. 'Roedd o fel p'tase yn siarad wrth Bob a fina, ond wyddwn i ddim ar y cynta be oedd o yn cyboli yn ei gylch, achos 'ro'n i'n edrach faint o hogenod bach neis oedd yno yn spio arnon ni, ac 'roedd yno lot ohonyn nhw, hefyd. Gweithredoedd fel hyn sy'n gneyd cenedl yn fawr," ebra fo tia diwedd ei bregeth, a'r holl dorf fawr yn ddistaw fel y bedd yn gwrando arno fo efo'u cega, ac yn spio ar Bob a fina efo'u llygid. Gweithredoedd fel hyn sy'n dwyn gogoniant i wlad ae er nad ydi y rhei sy wedi cyflawni y gwrhydri yma neithiwr ond dau fachgen ieuanc, y maent yn adlewyrchu clod artaom ni fel Cymry, ac y maent yn haeddu y derbymad tywysogaidd yma heddyw." A chida ei fod o wedi gorffan dyma'r hwre fwya 'chryslon glywsoch chi 'rioed, a phawb yn edrach at Bob a fina fel p'tase nhw'n disgwl i ni neyd speech. Ond fedrwn i ddim gneyd speech, a'r cwbwl ddeudis i wrth y dyn mawr hwnw 'rol iddo orffan eijbregeth oedd gofyn iddo: — Oes gynoch chi ddim ffasiwn beth a blewyn o faco geiff Bob a fina ? Yn nghanol y chwerthin a'r cynhwrf gym'rodd le 'rol hyny—mae'n debyg mai yr achos fod y bobol yn chwerthin cymint oedd eu bod nhw'n gwel'd nad oedd gin y fath ddyn swel a hwnw ddim cymint ag un jou bacho faco yn ei boced, achos roddodd o ddim i Bob na fina-dyma fi'n rhoid wine ar Bob, ac i lawr & ni oddiar y platfform fel melltan ac i ganol y bobol cin i neb fedru ein stopio ni, a ffwrdd a ni trw'r growd tia'r dre', gan feddwl myn'd i si)p y toys i brynu pistols, a chleddyfa, a'r petha erill angen- rheidiol ar gyfar 'mosod ar ffarmwrs Lleyn, ac erbyn fod y bobol yn dwad i fyny i'r dre o lan y mor—peth rhyfadd eu bod nhw wedi medru aros ar y lan am gymint o amsar, yn nghanol y fath ddrewdod ofnadwy ag sy yno yn dwad i fyny o'r harbwr nes poisnio pob man o'i gwmpas—'roeddan nhw'n dwad i fy nghyfarfod i a Bob, ond fedra 'run ohonyn nhw mo'n 'nabod ni, achos 'roedd Bob a fina wedi peintio ein gwneba 'run fath a Bed Indians, a wedi rhoid plu yn ein capia a chotia racsiog gynddeiriog am danom, a dyna lie 'roeddan ni yn rhedag ar draws y bobol ac yn bygwth eu lladd nhw efo'r cledda pren oeddan ni wedi brynu. Gellwch feddwl mor debig i Red Indians o ganol Ffrainc ne'r 'Mericia oeddan ni, achos mi basiodd 'rhen ferch, modryb Bob, reit yn ein hymyl ni, a ddaru hi ddim ei 'nabod o. "Ga i roid lab iddi draws ei chefn efo'r cledda yma, Bob ? gofynis iddo, ond chawn i ddim gneud—'roedd Bob yn no lew o ffond o'r hen ferch, wedi'r cwbwl, mae'n 'mddangos. Felly mi barchis ei deimlada fo drw beidio lladd 'rhen ferch. Toe, dyma Bob a fina yn troi yn ol tia'r dre hefo'r bobol, ac wrth gerddad tu nol i dri ne bedwar ohonyn nhw mi ddalltis dipin o be oeddan nhw'n ddeud. "I b'le ddengodd y ddau hogyn mor slei, tybad? ebra un. Wn i ddim," medda un arall, piti iddyn nhw gym'ryd y goes felna, a phawb yn disgwl clowad lot yn 'chwanag o hanas neithiwr. 'Roeddan nhw'n wirion iawn ar eu lies eu hunen ddengyd felna," medda fo, achos mae'r Capten Hughes am neyd 11awar yn eu ffordd nhw. Capten Hughes oedd pia'r Hong fawr aeth yn rec neithiwr, a fo oedd ei chapten hi y voiej yma, ac 'roedd ei wraig a'i hogen efo fo. Wedi bod yn Jamaica yn nol rum a siwgr 'roeddan nhw." Diawst i, tybad fod yna gasgia rum hyd y lan yna 'rwan, dwad?" medda'r llall; 'toes gen i 'run gwrthwynebiad i gario tipin bach o broc y mor adra efo mi, 'nenw- edig y siort yna o broc." Yn mh'le mae'r Capten Hughes yn rhoid i fyny heiddiw ? gofynodd un o'r criw. Yn yr Eifl." Clyw, Bob," meddwn wrth fy lifftenant, mi awn i chwilio am dano fo 'rol i ni hel criw iawn i gychwyn allan i'r wlad heno i robio'r ffarmwrs. Mi geiff y criw fod o gwmpas y drws yn watsiorhag i'r un ohonyn 0 y nhw ddengid allan o'r hotel, a mi af ina i fiawn i roid yr amoda. i lawr i Capten Hughes-