Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
PWY SY'N aWNEYD Y GWAITH?
News
Cite
Share
PWY SY'N aWNEYD Y GWAITH? "Wyt ti'n gwel'd yrwan," meddai'r Fellten, "mai myfi ydyw gogoniant yr ystorm ? Myfi sydd yn dyfod gyntaf. Y mae yr hen dderwen, brenhines y goedwig, yn crynu. Mae'r hen do gwellt yn ffaglu. Y mae'r creaduriaid yn ffoi am eu bywyd i ryw gysgod, a dynion yn ofni ac yn chwilio am ryw loohes dywell; oherwydd pwy all sefyll yn nhanbeidrwydd fy nisgleirdeb?" "0 ie," meddai'r Daran yn groch, "tydi yn malehder dy galon sydd yn myned yn gyntaf, ond goddef i mi ddyweyd wrthyt mai fy llais i sydd yn llenwi'r galon ag arswvd, a'r creigiau crog a braw, a'm taran- folltau i sy'n rhwygo'r cedrwydd, yn difa'r gwellt, ac yn rhoi llethrau'r mynyddoedd ar dan." "Y ewbl ydw i yn wybod ar y mater ydvw hyn," meddai r Gwlaw, "y byddai rhyw druenus iawn ar betliau lie yr ydych chwi yn tramwy onibai n. 'Does gen i ddim ilisgleirdeb gogoneddus nac arswyd i ymffrostio ynddynt, ond yr wyf yn dyfod rhjngoch chwi a'r trychineb; ac er eich bod ehwi yn gwneyd lies drwy glirio yr awyr, gofynwch chwi i'r Ddaear ai nid myfi Wedir cwbl yw y rhan oreu o'r Ystorm i"
YR HEN, HEN GWESTIWN
News
Cite
Share
YR HEN, HEN GWESTIWN "Mr Jones," meddai dynes ieuanc, ddi. *iwed, fel yr oedd y ddau yn cerdded drwy heol ddistaw ar eu ffordd i'r cglwys, a allaf E6 er nad oes ond ychydig o adnabyddiaeth genym y naill o'r lIaIl, ofyn ewestiwn i ekwi 1 "Wel gellwch, Miss Morgan," meddai Mr Bones, gan ymliwio dipyn. "Yr hen, hen gwestiwn ydyw, Mr Jones." Ond yr eedd wedi dod amo braidd yn sfdyn. Nid oedd yn teimlo yn barod i'w ateb. Yn mhen amser wed'yn cofiodd y modd yr oedd ei llais yn crynu, a'r modd yr oedd y llaw a orphwysai ar ei fraich yn ysgwyd gan mor nervous y teimlai wrth ofyn y ewestiwn. Nid yn hir wedi hyny, pan gauai ei lygaid gwelai y darlun o'r ferch ieuane yn ym- awydda. am ofyn y ewestiwn iddo, ac 0, fel yr ymawyddai am iddi wneyd drachefn; ond nid oedd yn leicio myned mor hyf a gofyn iddi. O'r diwedd gwelodd hi, a mentrodd ddyweyd. wrthi Gellwch, Miss Morgan, wrth gwrs fe ellwch os ydych yn meddwl y rhaid i chwi." "Yna, Mr Jones," meddai, gan stopio o dan lamp yn yr heol, a chan edrych yn myw Lygaid y dyn ieuanc, a fyddweh chwi eystal a'lU. hysbysu a yw fy het am fy mhen yn
ARABEDD GWR MEWN ADFYD
News
Cite
Share
ARABEDD GWR MEWN ADFYD Daeth dinesydd Americanaidd drosodd i'r wlad hon ar yr addewid o gael swydd enill- fawr oncl wedi cyrhaedd y lie, er ei syndod a'i siomedigaeth, yr oedd un arall yn llenwi y swydd, a gorfu iddo yntau fyned o gwmpaa i gardota. Un diwrnod, dywedodd ei gwyn wrth hen wr boneddig, yr hwn wedi gwrando arno yn amyneddgar a roes iddo chwe'cheiniog, gan ofyn iddo pa fodd yr oedd yn meddwl myned yn ol. Wei," meddai'r Americaniad cymhenllyd, "yr ydw i'n meddwl mai aros i'r mor rewi fydda ore i mi, ac ysglefrio drosodd."
BUSNES DA
News
Cite
Share
BUSNES DA AETH boneddwr i siop yn Nghaerdydd y dydd o'r blaen, a phrynodd yno nwydd, pan nad oedd y perchenog yn bresennol. Yr oedd y boneddwr yn gwsmer rheolaidd, a rhoddodd ei enw i'r dyn yn y siop, ond methodd hwnw a'i ddeall yn iawn. Pan ddaeth y perchenog i mewn, aeth y cynnorthwydd ato i ddyweyd am y digwyddiad. Penderfynwyd rhoddi y nwydd i lawr yn erbyn pob cwsmer er cael allan pwy ydoedd y cwsmer gwirioneddol. Daeth yr arian i mewn oddiwrth un ar ol y llall, ac nid oedd neb yn dywedyd dim yn erbyn ei fil, ac felly, cafodd y masnachwr ei dalu lawer gwaith drosodd am y nwydd gan ei gwsmeriaid, y rhai nad oeddynt yn trafferthu yn nghylch eu dyledion.
CHWEDL AM ARDD EDEN
News
Cite
Share
CHWEDL AM ARDD EDEN Yn ol y Talmud yr oedd yn Mharadwys unwaitli deml erwych wedi ei hadeiladu yn gvfangwb! o feini gwertlifawr. Ni feiddiai. dyn son am ei rhwysgfawredd. Draw yn mhell yn nghanol palmwydd Eden y safai y deml, wed- ei hadeiladu yn gysegrfa ysplenydd gan angylion glan y goleuni. 0 dan gysgodion tawel ei chynteddau y canai em rhieni cyntaf eu hwyrganiadau. Yr oedd yno golofnau, cynteddau, a chlasordai enfawr o wyrddfeini a pherlau, lie 'roedd dyfroedd gloewon aroglher yn ymsaethu i'r uchelion drwy y dawel nawn, a threinrodfeydd bwaog yn ymestyn i'r pclideroedd lie yr oedd y par dedwydd yn rhodiana law-law yn mhryd. ferthweh eu diniweidrwydd. Yr oedd yno binoglau a bwaau o saphir a sardin yn dis- gleirio fel aur teddedig yn nisgleirdeb haul canol dydd, a chan lewyrch ser y nos. Ac o gyntedd i rodfa yr oedd ffrydiau bywiol tryloewon yn ymdywallt allan i oeri llwyni taleidion o ashphodel y cysgodion. Oher- wydd yr oedd safle y deml draw yn mhell yn nghanol oncilion cyfriniol dyffryn Eden, lie yr oedd y pedair afon yn rhedeg tua'r dwyt'ftin. Pa fodd bJ nag, fel y mae yn alarus coffa, y dydd y cwympodd. Adda syrthiodd y deml ogoneddus lion i'r llawr yn filiwn o ddarnau, a gwasgarwyd ei meini gwerthfawr fel man raian y gro dros yr holl ddaear. Y darnau hyn ydym yn eu casglu yr awrhon yn berlau, yn wyrddfeini, gemau, a diamwnt gyda llawer o draul a gofal. Ond nid ydynt er hyny i gyd ond ysglodioll. y palas cynoesol' hwnw. Nid yw coronau brenhinoedd, a'r disgleirdeb hwnw yn gymhlethedig a gwallt euraidd merch and llwch costus y gysegrfa hono—cof galarus am Eden golledig.
" Y MAE YN CYFFWRDD A'R LLECYN."
News
Cite
Share
Y MAE YN CYFFWRDD A'R LLECYN." Ie dyna y mae HOMOCEA yn wneyd. Ac yn fuan hefyd-pa un ai y ddannodd ai y neuralgia, gyda'u holl boenau enbyd, neu eczema, g'yda'r holl boenau annioddefol-neu y piles, sydd yn gwneyd miloedd o fywydau yn druenus. Y mae y crydcymalau yn y cymalau neu'r cyhyrau wedi cael ei wella er iddo fod ar ddyn am flynyddoedd-tra at doriadau, llosgiadau, &c., y mae ddigon o flaen pob enaint sydd wedi bod erioed o flaen y wlad. Dywed ARGLWYDD CARRICK fod HOMOCEA wedi ei wella ef o biles gwaedlyd pan yr oedd pobpeth arall wedi methu ei fod wedi rhoi peth i lafurwr, yr hwn oedd yn gloff o achos i gareg gwympo arno, ae iddo ei wella. Yr oedd gan ddynes boen yn ei phen- elin, ac nis gallai ei blygu am ilwyddyn, a gwellhaodd hi; a defnyddiodd un arall ef at scurvy ar ei choes, ac yr oedd yn gwneyd lies iddiy mae un llythyr oddiwrtho yn terfynu gyda'r geiriau-I I Dyma'r peth goreu y daethum erioed ar ei draws." Dywed ARGLWYDD COMBERMERE fod HOMOCEA wedi gwneyd mwy o les iddo na dim arall mae wedi ei ddefnyddio at grydcymalau.
TYSTIOLAETH ODDIWRTH Y DARGANFYDDWR…
News
Cite
Share
TYSTIOLAETH ODDIWRTH Y DARGANFYDDWR AFFRI- CANAIDD ENWOG, HENRY M. STANLEY. Whitehall, Llundain. Anwyl Syr,—Cafwyd eich enaint a elwir HOMO- CEA, y feddyginiaeth fwyaf esmwythaol ac effeithiol a allwn gael byth at fy aelod drylliedig, am ei fod yn ymddangos yn cadw yn ^hirach na dim arall, y sylwedd olewaidd mor angenrheidiol at hyny. Y bai ar dwymwlychiadar, yn gyffredin, yw eu bod yn caledu ac fod arnynt eisieu cvnhesrwvdd tra. v moo eich un chwi, heblaw bod yn aroglhau, mor esmwyth ag olew, ac ar unwaith yn meddalhau mewn achosion o enyniad difrifol.—Yr eiddoch yn tfyddlawr, HENRY M. STANLEY." Cofiwch fod HOMOCEA yn gostwng enyniad ac yn esmwythau Ilid mor fuan bron ag y cymhwysir ef canys o J < Mae pob tai cyfanwerthol yn ystorio HOMOCEA. Gellir ei gael gan ifeiyllwyr ac ercill am Is Ucneu 2 2s 9c y bocs, neu anfonir of drwy'r llythyrdy am Is 3c a 3s oddiwrth y goruchwyliwr cyfanwerthol, 21. Hamilton Square, Birkenhead.
Advertising
Advertising
Cite
Share
BREAKFAST-SUPPER. E P P S S GRATEFUL-COMFORTING. Ao%k AO%L 0-% Ao% K u 6 rA COCOA BOILING WATER OR MlfcKd