Hide Articles List

1 article on this Page

FFYDDLONDEB AR BRAWF

News
Cite
Share

FFYDDLONDEB AR BRAWF ISTEDDAI dau ddyn mewn parlwr bychan cysurus yn urn o brif heol- ydd Caerdydd. Yr oedd Herbert Oliver, meistr y ty, yn ddyn ieuanc pryd- ferth anarferol. Yr oedd yr ymwelydd, Fred Wilson, o bryd mwy tywyll, ac yn un y buasai yn bur anhawdd penderfynu ei oed. Yr oedd y ddau o ymddangosiad boneddig- aidd, ond yr oedd gofid fel pe wedi ei arddelwi ar wedd yr ymwelydd, a dangosai goleuni gwanaidd y llusern oedd ar y bwrdd olion siomedigaeth chwerw. Paham na fuaswn i wedi priodi, Herbert ? ebe Fred. Wel, mi ddywedaf wrthych. Cymerodd rhywbath le oddeutu pedair blynedd yn ol. Yr oeddych chwi ymaith ar y Cyfaudir y pryd hyny, ond efallai eich bod wedi clywed am fethiant y gymdeithas adeiladu pan gollis fy holl eiddo. Yr wyf yn dyweyd yr oil am fy mod o dan ymrwymiad i briodi y pryd hyny a geneth brydferth ddeunaw oed, ac yr oedd ei cholli hi y pryd hwnw yn fwy yn fy ngolwg na cholli fy ffortiwn i gyd. Aethum i edrych am dani mor fuan ag y clywais am fy ngholled gyda chalon ffyddiog ei bod yn fy ngharu yn ffyddlon, ac y gwnai lynu wrthyf drwy bob rhwystrau. Paentiais fy amgylchiadau iddi yn y lliwiau tywyllaf, gan gelu oddiwrthi y ifaifch fod genyf ffortiwn fechan yn ddyogel yn yr ariandy, sef y swm a gawswn ar ol fy mam. Nis gallaf byth anghofio ei gwedd pan ddywedodd wrthyf mewn ton rewllyd ddi- deimlad, 'Mr Wilson, y mae y cyfan drosodd rhyngom ein dau. Peidiwch dyfod yma byth mwyacb,' ac aeth allan o'r ystafell heb ddyweyd gymaint a Nos da.' Yr ellylles," ebe Herbert yn sydyn. "Yn y gwrthwyneb, fy nghyfaill," ebe Fred, "yr oedd ganddi wyneb angel, ac edrychai yn hawddgar a phrydferth. Na, Herbert, meidrol yw pob merch, ie, hyd yn nod lodes ddeunaw oed." Nid wyf yn credu hyna, Fred, oblegid yr wyf yn hollol sicr pe yr awn at fy nyweddi heno, a dyweyd wrthi, Fy anwylyd, yr wyf wedi colli fy eiddo oil. Yr wyf yn ddyn t!awd digartref a digeiniog,' y gwnai lynu wrthyf yn ffyddlonach nag erioed a'm caru yn fwy anwyl." Peidiwch a threio y cynllun, Herbert," ebe Fred yn dawel. Yr wyf wedi dyweyd wrthych mai meidrol yw pob merch." "Wel," ebe Herbert, "gan eich bod wedi awgrymu y peth, y mae awydd arnaf am dreio y cynllun heno er mwyn dangos i chwi nad yw pob merch mor dwyllodrus ac yr ydych chwi yn eu portreadu. Af yno heno, a dywedaf wrthi, Fy anwylyd, y mae fy holl anturiaethau wedi troi yn fethiant. Yr wyf wedi fy andwyo.' Ac yna, fy nghyfaill anwyl, profaf i chwi pan ddof yn ol fod yr eneth yn berl anmhrisiadwy, oblegid yr wyf yn berffaith sicr na wna Alice Smith gefnu arnaf." Cyffrodd Fred pan glywodd yr enw Alice Smith," ac fel pe yn ddamweiniol trodd y goleu allan. "Y fath gamgymeriad," ebe efe, yr oeddwn wedi meddwl gwneyd i'r llusern oleuo yn well, ond yn lie hyny diffoddais hi." Na hidiwch," ebe Herbert, ac yn awr yr wyf yn myned at Alice. Aroswch yma hyd nes y dof yn ol." Cyfododd Fred ar ei draed, a chan osod ei law yn dyner ar ysgwydd Herbert, dywed- odd, gyda llais erfyniol, "Er mwyn eich cysur dyfodol, peidiwch gwneyd hyn, ni wyddoch —— Yr ydych yn ymddangos wedi cynhyrfu yn rhyfedd, fy nghyfaill," ebe Herbert, gan chwerthin yn llawen. A oes ryw ffordd y gallaf eich rhwystro i roi eich cynllun mewn gweithrediad ? ebe Fred, gyda llais cynhyrfus. Yr ydych yn fy adwaen yn dda, Fred. Pan y byddaf wedi gwneyd fy meddwl i fyny yn nghylch unrhyw beth, nis gall dim ei newid, hyd yn nod eich dylanwad chwi, fy anwyl gyfaill. Deuwcb, deuwch. Ar ol bod cyhyd heb weled ein gilydd, peidiwn dechreu cweryla." "Wel, ynte, nid oes dim a bar i chwi newid eich meddwl ?" Dim," ebe Herbert. "Ffarwel ynte," ebe Fred yn ofidus. Ffarwel ddywedasoch ?" ebe Herbert yn llawen. "Nos da oeddych yn feddwl, gyfaill." Cydiai Fred yn nwylaw ei gyfaill, gan daer erfyn arno newid ei feddwl, ond myned a wnaeth, ac edrychai Fred yn hiraethus ar ei ol. Mor fuan ag yr aeth Herbert allan, eisteddodd Fred ac ysgrifenodd y nodyn canlynol at Herbert:- Anwyl gyfaill,-Nis gallaf aros i weled eich gofid. Y mae eich tynghed wedi ei selio. Y mae ein bywydau wedi eu dinystrio gan yr un ferch, Alice Smith. Ond cofiwch ei bod yn hawddach i chwi i ddioddef yr ergyd yn awr nag yn mhen blynyddau eto. Buaswn yn foddlon rhoddi gwaed fy nghalon pe buaswn wedi gallu rhwystro i'r digwydd- iad hwn gymeryd lie. Yr wyf yn myned ymaith i Lundain heno.-FRED WILSON." Pan oedd yr awrlais yn taro deg, yr oed Fred ar ei ffordd i'r orsaf. Yn mhen ychydig ar ol ei ymadawiad, dychwelodd Herbert a'i wyneb yn welw, a'i holl gorph yncrynu gan bryder a siomiant. Pwysodd ei ben ar y bwrdd, ac wylodd ddagrau heilltion. Yr oedd pethau wedi troi allan yn gywir fel ag yr oedd Fred wedi rhag- ddyweyd. Nid oedd angyles ei galon ond creadur meidrol ar ol y cyfan. Yr oedd ei holl obeithion wedi chwalu, ac edrychai bywyd mwyach yn rhy ddiwerth i fyw. Cofiodd yn sydyn am Fred, a syrthiodd ei lygaid ar y llythyr agored ar y bwrdd. Darllenodd ef drosodd a throsodd drachefn, ac yna taflodd ef i'r tan, yr hwn oedd bron llosgi allan yn llwyr. Sychodd ei ddagrau yn frysiog, a dywedodd, "Fel ag y gwnaeth y llythyr yma fywhau y tan, felly y caiff yr amgylchiad chwerw hwnw fod yn foddion i'm bywyd fod yn ddisgleiriach nag erioed." Ymledodd y newydd fel tan gwyllt trwy yr ardal dranoeth fod Herbert Oliver wedi colli ei holl eiddo trwy anturiaethau gwyllt- ion, a'i fod ef wedi myned ymaith o'r wlad. Siaredid llawer yn nghylch y peth, ond yn mhen ychydig daeth newydd arall fod pethau wedi troi allan yn wahanol iawn, a bod yr anturiaethau wedi troi allan yn anarferol o lwyddiannus, a bod Herbert Oliver yn werth ffortiwn fawr iawn. Daeth Herbert yn ol i Gaerdydd gyda gwyneb llawen a chalon ysgafn yn mhen oddeutu dwy flynedd. Chwarddodd yn ddistaw pan yn mysg ei lythyrau un boreu yr oedd llythyr oddiwrth Alice Smith yn deisyf arno i ddyfod yn ol ati, a'i bod allan o'i synwyrau cyn ei bod erioed wedi ei wrthod, gan ei bod yn ei garu yn anwyl. Yr oedd ei atebiad fel y canlyn :— Fy anwyl Miss Smith,-Gan fy mod yn brysur yn gwneyd paratoadau gogyfer a'm priodas agoshaol, ni fyddai yn deg i mi i anghofio fy mhriodasferch brydferth a phlygu eto o flaen calon wag. Yr wyf yn anfon gyda'r llythyr hwn wahoddiad i chwi, a gobeithiaf y cawn y pleser o'ch gweled yn mysg ein cyfeillion ar y dydd dedwydd. Fy mhriodasferch ydyw Edith Robinson, yr hon a ymddiriedodd ynof pan yr oeddwn wedi meddwl fy mod yn dlawd. Dywedais wrthi fel y dywedais wrthych chwithau un. waith am gariad mewn bwthyn, ac er mor hynod, cydsyniodd i fod yn wraig i mi. Fy ngwas priodas ydyw Fred Wilson, hen gyfaill i chwi, fel y deallaf, yr hwn hefyd, gyda Haw, sydd yn bwriadu priodi aeres gyfoethog a phrydferth yn fuan. Diangen- rhaid ydyw i mi eich hysbysu fy mod y dyn dedwyddaf ar y ddaear, ac yr wyf yn sicr y cawn eich dymuniadau goreu.—Yr eiddoch, HERBERT.