Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DEDDFAU ANHYSBYS

GWRTHBWYSO HACRWCH

CHWAREU'R CRWTH I DDOFI BLEIDDIAIP

News
Cite
Share

CHWAREU'R CRWTH I DDOFI BLEIDDIAIP DYWED Hall, yn ei nodiadau ar Daleithau Gorllewinol America, yr ystori a ganlyn:— Yr oedd John Cuff yn myned drwy y coed, heb gwmni neb ond ei grwth, pan y canfu fod haid o fleiddiaid yn ei ddilyn. Dilynent ef yn bur ochelgar, ond yn awr ac eilwaith, deuai rhai ohonynt yn nes ato a chwyrnent yn enbydus, ac yna syrthient yn ol. Gan fod ganddo amryw filldiroedd i fyned, daeth arno ofn. Weithiau safai, gwaeddai, a gwnai bob ymdrech i gadw ei ddilynwyr draw. "Ymhyfhai y bleiddiaid, ac o bosibl y buasent wedi ymosod arno onibai iddo ganfod hen gaban heb neb yn byw ynddo gerllaw. Trodd i mewn iddo, ac heb aros i gau y drws, dringodd i ben yr adeilad, ac eisteddodd ar un o'r trawstiau. Rhuthrodd y bleiddiaid i mewn ar ei ol, ac yr oeddynt erbyn hyn yn rheibus, neidient a chwyrnent, a cheisient drwy bob modd gyrhaedd ato. Yr oedd y lleuad erbyn hyn yn taflu ei oleuni, a gallai Cuff drwy ei gynnortbwy weled pa beth oedd ganddo i'w gyfarfod. Wedi canfod fod y caban yn llawn ohonynt, ymgripiodd ar hyd y trawstiau, a chauodd y drws, a chan dynu rhai o'r planciau o nen y caban, Iluchiodd hwy at y bleiddiaid oedd y tuallan gan ladd rhai a dychryn y lleill ymaith. Yr oedd ganddo yn awr nifer mawr o garcharorion dan ei ofal hyd y boreu, a chan gymeryd ei grwth, chwareuodd amryw o alawon iddynt yn ystod y nos, ac fel y tybiai, bu y crwth yn offeryn i liniaru eu cynddaredd. Boreu dranoeth, daeth amryw o'r cymydogion yn nghyd, a lladdwyd yr holl halid."

TENNYSON A'R YSGADAN

[No title]

Advertising