Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DEDDFAU ANHYSBYS

GWRTHBWYSO HACRWCH

News
Cite
Share

GWRTHBWYSO HACRWCH Y MAB Zabulon Dafydd yn cael llawer o bleser wrth adrodd y stori fechan hon i drigolion Pwllygro a Llangrediniol:— Yr oedd tad i hen ferch sydd yn byw heb fod yn mhell o'r ardal hon wedi gwneyd ei ewyllys fod ei holl eiddo i fyned i gynnal sefydliadau cyhoeddus yr ardal. Pan oedd y tad ar ei wely angau, aeth ei housekeeper ato, a gofynodd iddo pa faint oedd wedi ei adael i Mary Ann ei ferch. Dywedodd yntau ei fod wedi gadael iddi fil o bunnau, yr hyn a wnai y tro yn iawn iddi, na fyddai Mary Ann fawr o dro yn pigo i fyny gymhar bywyd. Bendith arnoch chi, syr meddai yr housekeeper, pa fath ddyn, tybed, fydd yn debyg o'i chymeryd hi gyda'r ffasiwn drwyn ag sydd ganddi?" W el, y mae hyny yn deilwng o ystyr- iaeth," meddai y gwr oedd ar farw, ond fldaru i mi ddim meddwl am ei thrwyn hi;" ac heb golli amser, anfonodd am y tystion, a gwnaeth yn ei lythyr cymun ychwaneg- iad o gant a hanner o bunnau yn y flwyddyn 1 Mary Ann, fel math o set-off gogyfer ag anferthwch ei thrwyn. Y mae un gwr gweddw anturiaethus o'r ardal wedi clywed hyny, ac yn benderfynol -Imeddai Zabulon Dafydd-o ffirio oamgylch ei glanau hi, hyd yn n6d pe byddai ei thrwyn hi gymaint a thrwyn y Gogarth.

CHWAREU'R CRWTH I DDOFI BLEIDDIAIP

TENNYSON A'R YSGADAN

[No title]

Advertising