Hide Articles List

3 articles on this Page

Y PARCH D. OLIVER EDWARDS,…

News
Cite
Share

Y PARCH D. OLIVER EDWARDS, TREFGARN. ei weinidogaeth, sef Bethlehem a Salem, ger Hwlffordd, Dyfed, 1 lie y llafuria yn ddiwyd a chyda derbyniad mawr. Hysbys yw fod galluoedd Mr Edwards yn aml-ochrog, gan ei fod er's blynyddau bellach yn adnabyddus fel pregethwr, darlithydd, ac ysgrifenydd. Yn ei gyfresau meithion o ysgrifau yn y Seren a'r Faner, dug gyfrinion gwleidyddol i symlrwydd ac eglurder bar i'r gwladwr cyffredin ddeall ei syniad am wir sefyllfa pethau. Ymddangosodd lluaws o ysgrifau o'i eiddo trwy y wasg, o natur wyddonol, ac ar wahanol ganghenau anianeg, dan y penawd, "Rhyfeddodau Duw yn y greadigaeth," yn y Greal, &c. Rhydd yr agwedd ymarferol a wisga y rhai hyn, eu bod yn ddyddorol ac addysg- iadol i bob dosbarth. Nis gwyddom am ddim yn nghylch llenyddiaeth adroddiadol yr Ysgol Sabbathol, a ddaw yn agos o ran pobloerwvdd i ENWAU rbieni Mr Edwards ydoedd John a Phcebe Edwards, a thrigent mewn lie o'r enw Llanafon, ger Llanboidy, sir Gaer- fyrddin. Yma y treuliodd Mr Edwards flynyddoedd ei faboed. Efe ydyw yr hynaf o chwech o blant; yr ieuengaf o ba rai yw y Proffeswr Edwards, B.A., llywydd Athrofa PontypwI. Pan yn ddeuddeg oed, derbyn- iwyd y bachgen i gyflawn aelodaeth yn eglwys Logyn. Dechreuwyd yn bur fuan ei gymhell i ddechreu pregethu, a phan yn bymtheg mlwydd oed, cawn ef yn dechreu, ac yn y cynnygion cyntaf a wnaeth rhodd- odd foddlonrwydd cyffredinol. Yn mhen y flwyddyn, ac efe eto ond un ar bymtheg oed, derbyniwyd ef i Athrofa Bresbyteraidd Caerfyrddin, lie y treuliodd bum' mlynedd yn fyfyriwr diwyd, ac yr enillodd barch a chymeradwyaeth ei athrawon a chylch ei gydnabyddiaeth yn gyffredinol. Wedi gorphen ei dymhor athrofaol, ac erbyn hyn yn un ar hugain mlwydd oed, neilldu- wyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llanymddyfri. Yn 1862, aeth i'r ystad briodasol a Miss Anne Jones, Undergrove, merch ieuanc rinweddol o gymydogaeth Aberteifi. Symudodd Mr Edwards, o Lan- ymddyfri i Crughywel, ac wedi bod yno yn ymroddgar ac mewn parch, daeth i Victoria, Glyn Ebwy ac oddiyno i Stockton, Gogledd Lloegr ac o'r lie olaf hwn i faes presennol u -gynnyrchion yr Ardd Flodau. Cyhoeddodd Mr Edwards bump o wahanol lyfrau at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol, pa rai sydd wedi bod, ac yn bod o wasanaeth helaeth i'r amcan y bwriadwyd hwy. Yn y flwyddyn 1889, bu Mr Edwards yn gadeirydd Cymanfa y Bedyddwyr yn sir Benfro, yr hon a gynnal- iwyd yn Mlaenffos. Yn yr un flwyddyn, traddododd anerchiad i fyfyrwyr Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Mae yn debyg ei fod wedi traddodi mwy o ddarlithiau yn Nghymru na neb arall sydd yn fyw.

R. 0. HUGHES (ELFYN),

[No title]