Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Y mae llew-heliwr Affricanaidd yn rhoddi y cyfarwyddiadau canlynol:— "Pa fodd i ddal llewod.—Y mae yr anialweh yn gyfansoddedig o dywod a llewod. Cymerwoh ridyll a gogrynwch yr anialweh, bydd y llewod wedi aros yn y rhidyll. Dodwch hwy yn y sach fyddwch yn gario gyda chwi i'r perwyl hwnw." w I." Yr oedd meddyg absennol ei feddwl yn digwydi galw gydag un o'i gleifion, yr hwn oedd wedi bod yn dioddef er's amser hir, ac yn lie gweini ar y claf, dododd dal yn ei law, a chymerodd y cyffyriau a fwriadai i'r claf ei hunan. Ni welodd y meddyg ei eam- gymeriad hyd nes y teimlai ei hun yn myn'd yn glaf, ac y gwelai fod y claf yn gwella. Yr oedd gwr ieuanc cwerylgar, hoff o siarad y cwbl, yn swpera gyda chyfaill nad oedd yn ceisio gwadu dim a ddywedai, ac heb ddymuno ei dramgwyddo, ac wedi blino ar ei bennod hir o gydsyniadau i bobpeth a ddywedai, tor odd allan :— "Yrachlod fawr, gwada rwbeth ydw i'n ddeud, er mwyn i mi deimlo fod yma ddau ohonom." Yr oedd twrne hen ffasiwn yn rhoddi cynghor i Symlyn o'r Waen Eithin ar y pwnc o ysgariaeth, ac yn ei holi:— "Yr ydych yn dyweyd ei bod wedi eich trin yn chwerw, onid ydych ? Sut y gallai hyny fod ? "Wel ydi, syr, wedi bod yn greulon i'r pen wrtha i; y mae hi wedi fy ngalw i yn gorgi, ac wedi fy nhrin i fel corgi." "Ho," meddai'r hen gyfreithiwr yn ysmala, y mae yn ymddangos i mi mai achos i'w ddwyn gerbron y Gymdeithas er Attal Creulondeb at Anifeiliaid ydyw hwn." 4" Ychydig ddyddiau yn ol, yr oedd boneddwr oedranus a'i wraig yn dyfod i lawr yr heol gyda'u gilydd pan y digwyddodd i foneddiges oedd yn croesi yr heol syrtbio i lawr. Rhedodd yr hen foneddwr i'w chynnorthwyo heb arbed na gofal na charedigrwydd. Pan ddychwelodd at ei wraig, ysgydwodd ei dwrn arno. "Pobpeth yn iawn, pobpeth yn iawn," meddai ef. "Ydyw, y mae pobpeth yn iawn,"meddai hithau yn boethlyd. Dyma ddynes hollol ddyeithr i chwi yn syrthio i lawr, a chwithau yn rhuthro ar draws yr heol i'w chynnorth- wyo ond pan syrthiais i i lawr y grisiau y dydd o'r blaen, yr oeddach clii eisie gwybod peddwn i yn praefceiaio goffer 6, circles "Wrth ddyfod adref, mi syrthiais dros y bwrdd," mfeddai morwr, "ac middaethmor- flaidd i dynu yn fy nghoes i." Wel, beth wnest ti wedi hyny ? "0, mi adawais i iddo fo e chael hi; fydda i byth yn ymgyndynu gyda shark." Y FEISTRES Mari, beth ar y ddaear yma 'na'th i ti dori dy wallt mor fyr ? MARI (geneth weini olygus): Ydach chi'n gwel'd ma'am, y mae'r gatrawd wedi cael gorchymyn i 'madael a'r dref yma, ac felly bu raid i mi roddi cydun bach o'm gwallt i ryw hanner dwsin o'm hen gydnabyddion." Y FAM: Pan oedd yr hogyn yna. yn lluchio cerig ar d'ol di, pa'm na baset ti'n dwad i dd'weyd wrtha i yn y mynyd, yn lle'u taflu nhw yn ol ato fo ? NEDI BACH Dwad i ddeud wrthoch chi! Pw, fedrach chi ddim trawo drws mawr y 'sgubor yna. Yr unig wahaniaeth rhwng dyn a dynes ydyw, nad oes ar y dyn ddim cywilydd cario twrci yn pwyso pedwar pwys ar ddeg adref gydag ef, tra y mae y ddynes yn disgwyl i'r neges-was ddyfod yr holl ffordd o'r masnachdy a phapuraid o nodwyddau ar ei hoi JAC Y GWAS BACH: Y mae yna eircus yn dwad i'r dre yma yr wsnos nesa, mistar. Alia i gael —— YR HEN FFERMWR CEIRCH 'Does dim llawer o amser, Jac, er pan ge'st ti fyn'd i ben y mynydd acw i wel'd y 'clips ar y lleuad. Os arnat ti eisieu bod ar drot i rywle o hyd ? $$$ Gofynodd boneddwr i fachgen bychan beth oedd o wedi bod yn ei wneyd fod y fath drefn syber ar ei ddillad. "We1, syr," meddai'r bychan, "mae nhw'n deyd wrtho ni yn yr Ysgol Sul ein bod ni wedi ein gwneyd o lwch y ddaear, felly dwi'n meddwl 'i fod o yn dwad allan ohona i." CRWYDRYN CYNTAF: Wyddost ti beth, fachgen, yr ydw i yn ofni, wel di, nad oes yna ddim rhyw fywoliaeth fras iawn ar ein eyfer ni yn y dyfodol yna. CRWYDRYN AIL: Beth sy'n g'neyd i ti feddwl hyny, yr hen ffrynd 2 CRWYDRYN CYNTAF: Wel, mi ddeuda i ti, y gwareiddiad melldigedig yma. Y mae yr ysgolion coginio yma yn dysgu i ferched wneyd defnydd o'r holl fwydydd oerion, ac yn taflu pob diystyrwch ar ein proffsswr- iaeth ni, Ddyn ieuanc, paid ofni gwthio i fyny yn y byd. Cofia fod y dyn cyfoethocaf sydd yn fyw heddyw wedi ei eni heb yr un geiniog yn'ei boced. Y BABDD A oedd hi yn meddwl fod fy nyhanig yn un dda ? Ei GYFAILL: Rhaid ei bod, gan na chredai mai chwi a'i hysgrifenodd. JOHN JONES: Y mae Wil Lewis yn myn'd i gael addysg mewn cerfio coed. ISAAC Huws: I be', d'wad, mae o yn g'neyd hyny ? JOHN JONES: Wel, mae o wedi newid 'i lodgin; ac felly cred y bydd o ddefnydd mawr iddo yno, gan ei fod wedi cael cig ddoe oedd fel derwen o galed. YR YNAD Dyma y seithfed tro i ti fod o'm blaen. CARCHAROR: Mi wn hyny yn dda, eich anrhydedd; yr oeddych bob amser yn ffafr- ddyn gen i, yr ydych mor gyfiawn. YR YNAD: Wel, cei fyn'd yn rhydd y tro hwn ond paid dod yma eto. Y CARCHAROR: Diolch i chi; gwyddwn eich bod yn ddyn cyfiawn. Yr oedd clochydd Llangrediniol wedi rhoddi tan yn yr eglwys yn y boreu. 0 ganlyniad, yr oedd y lie yn llawn mwg. Pwy ddaeth i mewn ond yr hen Adda Hughes, y church- war den. Dechreuodd Adda gadw swn fod mwg yn yr eglwys, ond aeth y clocbydd yn mlaen i ganu'r gloch heb dalu sylw ar eiriau yr hen Adda. Wedi iddo orphen canu'r gloch aeth y clochydd at Adda, a gofynodd ai efe oedd y churchwarden ? Ie," ebai yntau. Os gwelwch chwi yn dda, a wnewch chi droi y mwg yma allan ? ebai'r clochydd, gan mai gwaith churchwarden ydyw troi allan." Yr oedd yr hen Gefanbyriaeth yn dod adre'n lied hwyr un noswaith pan y gwelai lencyn dan ffenestr y gegin a llusern yn ei law, yr hwn, pan ofynwyd iddo beth oedd yn geisio yno, a atebodd ei fod wedi dyfod yno i garu. Wedi dyfod yma i ba beth ? meddai'* Hen Gefanbyriaeth yn daigllawn. I garu. Welwch chi, 'rydw i'n caru Mari." Beth yr wyt ti'n dwad a'r lantern yn& hefo thi? 'Toeddwn i byth yn myn'd & lantern i garu pan oeddwn i yn ifanc." Na fyddech, mae'n hawdd gen i'ch coelio clii, syr, a barnn oldiwrth yr olwg a gefais 1 ap feistres y ty yma."