Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
EIN CYSTADLEUON
News
Cite
Share
EIN CYSTADLEUON CHWEDL AM GLOCHYDD. — D. Evans, Dyffryn, Llanstephan Road, sir Gaerfyrddin. CYFIEITHU I'R SABSNBG.—Liu o ymgeis- wyr, ond y mae'r teilyngdod yn isel iawn.- Neb yn deilwng. PLETHU GWIAIL.'—J. H. Morgan, Defynog, sir Frycheiniog. 'ANTIMACASSAR.—Jennie Humphreys, Cas- } --&
[No title]
News
Cite
Share
RHYWBETH NAS GALLAI El WNEYD. Yn arholiad diweddaf ysgol Pwllygro, darfu i'r arholwr glorianu gwybodaeth dos- parth o hogiau ar y testyn "aderyn." Atebai'r llanciau yn foddhaol am y pluf, y big, y traed, a'r adenydd. Yrwan, beth all aderyn ei wneyd nas gallaf fi ei wneyd ? ("Ehedeg," oedd yr atebiad disgwyliedig.) Dim atebiad am dro. Yna cododd Bob Drws Nesa' ei law. Wel, 'y ngwas i ? Dodwy, syr." Llewygodd yr arholwr yn gelain.
DYFAIS
News
Cite
Share
DYFAIS Os oes rhai o'n darllenwyr wedi dyfeisio rhywbeth newydd a defnyddiol yr hoffent gael breinteb arno gallant gael pob manylion angenrheidiol i'w cynnorthwyo drwy ysgrif- enu at II Patent," Papur Pawb, Caernarfon.
[No title]
News
Cite
Share
Patrick," meddai un Gwyddel wrth y Hall, beth wyt yn myned ar ol yr wningen fel yna âchlo dy ddryll wedi tori ? II Ust, ust, frawd anwyl," meddai yntau, 'dyw'r wningen ddim yn gwybod hyny." Y mae arnaf fi eisieu cot ucha, a hono yn nghanol y ffasiwn." "O'r gore, syr, o'r gore. Pa un ai rhy fer neu rhy hir, rhy gwta neu rhy laes y rdynech iddi f od "Mam," meddai Edith, geneth fechan bedair oed, yr hon oedd wedi methu yn lan a dodi edau yn y nodwydd, ac wedi colli ei hamynedd, yr ydw i yn siwr mai llygad croes sy' gan y nodwydd yma." Gofynwyd i ddynes ieuanc pa beth a barai iddi briodi mor fuan ar ol claddu ei gwr cyntaf. O," meddai hithau, yr ydw i yn gneyd hyny yn lie mod i yn hiraethu fy hunan i farwolaeth ar ol Twm bach anwyl." Dau hen Rosyi yn cwrdd a'u gilydd. Yr oeddwn i yn ddedwydd ac yn ceisio bod yn gyfoethog," meddai un wrth y llall. "Yrwan, edrych arnaf fi." "Ac yr oeddwn innau," meddai y llall, "yn gyfoethog ac yn ceisio bod yn ddedwydd; yrwan, edrych dithau arnaf finnau." Nid oedd y naill na'r llall wedi llwyddo, NEWYDDIADURWR: 'Does gen i ddim newid gellwch dalu i mi yfory. BONEBDWR Ond beth pe digwyddai i mi gael fy lladd heddyw ? NEWYDDIADURWR 0, fydda fo ddim yn rhyw golled fawr iawn. Syryn," meddai'r ynad wrth y carcharor a ddygasid o'i flaen, yr ydych yn un o'r dyhirod mwyaf gwarthus." Ydw i, syr ? meddai'r catcharor. Yr oedd y cloc mawr yna yn taro daupano3dd eich anrhydedd yn dyweyd y ga,ir. CAMGYMERYD Y PROFFESWR. DARLLENWR PENGLOGAU Mae'r lwmpyn yma'n dangos eich bod chi o duedd ymla Id. gar. Y GWRTHDDRYCH Nac ydi, syr, ddim o gwbl. Dangos y mae fod Betsi o duedd ym. laddgar. Dyna'r lie daru hi fy nharo fi hefo'r procer bore heddyw.