Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

PA FODD I OSGOl CLEFYD Y MOR

BRENHIN ADAR Y TO

News
Cite
Share

BRENHIN ADAR Y TO Y MAE galar parhaus yn ngwlad adar y to oherwydd marwolaeth eu brenhin. A phwy oedd efe ?" meddwch. Ei enw oedd Bour, ac yr oedd yn cadw math o curiosity shop yn Paris. Yr oedd yn byw ar ei ben ei hun, bob amser yn addfwyn a siriol, end yn lied dlawd. Gwisgai yr un peth haf a gauaf. Ar dywydd garw arferai fyned i wrandaw y canu yn eglwys St Roche, ond ar ddiwrnodau teg arferai fyned i'r gerddi yn y Tuileries. Yma yr oedd ei lys. Yr oedd yn cael ei amgylchu gan gynifer o adar y to, y rhai a ddisgynent ar ei ysgwyddau a'i ben, fel mai prin y gellid ei weled. Byddent yn cael hyd iddo mewn torf o bobl ac yn ehedeg uwch ei ben, nes gadawai y bobl a dyfod ymaith gyda hwy, a dangosent eu cariad tuagato mewn lleisiau mor uchel nes tynu sylw pawb. Wrth gwrs, byddai yn eu porthi, ac ar dywydd rhewllyd byddai yn myned a digonedd o fara allan gydag ef, ac yn ei falu iddynt. Os ymladdant attaliai yntau y bwyd, a thynai ei het dros ei lygaid, i ddangos ei anfoddlonrwydd, ac elai ymaith yn ddistaw. Yn ystod gwarchaead Paris, er yn brin iawn o fwyd, ac er y gallasai ladd yr holl adar man oedd yn hopian o'i ddeutu, gwell oedd ganddo anturio newyn na chyffwrdd yr un ohonynt. Gallai wneyd fel y mynai a hwynt. Pan aeth yn glaf, hoffai gael ei ddodi wrth ffenestr agored ei ystafell. Chwibianai neu galwai arnynt, a deuent yno wrth y lluoedd. Pan flinai "rhoddai arwydd, ac elent ymaith. Wedi iddo farw nid oedd ryfedd iddynt edrych yn bruddaidd. Pwy na fyddai yn brudd wedi colli brenhin mor dda ac mor dyner ? Y mae hanes bywyd Brenhin Adar y To yn dangos yr hyn a allai hynawsedd gael o ddylanwad ar anifeiliaid.

WIL BOL HAUL

Advertising