Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CWYN YN ERBYN CAREG ATEB

News
Cite
Share

CWYN YN ERBYN CAREG ATEB DYDD Sadwrn diweddaf, yn Llys Ynadon Pwllygro, gerbron William Sholgrop, Ysw., U.H., ac ereill, dirwywyd amryw bersonau am fan droseddau yn lied ddiymdroi, er mwyn cael amser i wrandaw cyhuddiad pwysig a ddygid yn erbyn Roli'r Alalydon am gadw careg ateb beryglus mewn cae ger adwy derfyn fferm Wil Grymialach. Wele restr fechan o'r troseddau yr aed trwyddynt yn hollol ddiseremoni: Shon yr Hen Gastiau am roi dau granc byw yn ngwely canwr cerddi yn ffair y orth.-Pllm swllt a'r costau. Siencyn y Waen am wneyd ei fol yn gors. Sion Ifan Bach am fyn'd i'r ffair i brynu dim byd a gwario chweigian. Benja Be Gai am feddwi ar ddiod fain, a gadael ei ferfa ar ochr y ffordd i ddychrynu merlyn Sgweiar Puw. Begi Debygol am roi gormod e fesur wrth werthu burym dirwestol. Hogyn o'r dref am gam-gyfieithu y geir- iau, Oleomargarine a German Saucsages." Wil yr hen wasgod am wisgo het sile heb yr un coryn na chantal am ei ban. Llencyn o Cwmbwrlwm am ganu y penill canlynol ar y Sul:— Mae'n dda gen i 'r defaid, mae'n dda gen i 'r wyn, Mae'n dda gen i 'r eneth sy' a phlant yn ei thrwyn, A thipyn bach bach o hoi y frech wen Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen. Robin Bondigrybwyll am ladrata enw ffugenw bardd o'r urdd gocosaidd. Dafydcl Bendramwnwgl, Bob Ffowc a Robin y Potiwr am fod fel arferol, ac anghofio dyfod adref o ff airy Borth. Yna galwyd ar Roli'r Alalydon yn mlaen ar y cyhuddiad o gadw careg ateb yn ei gae i ffyrnigo tarw Wil Grymialach. Wedi y seremoni arferol, holwyd Roli druan yn nghylch y gareg ateb nes oedd ef ei hun wedi myned yn hollol wag o atebion, gan William Sholgrop, Ysw., a boneddigion ereill: Chi'n cwbod siarad Cwmraeg, Roli ?" Cymro glan, syr." Er's faint chi'n cofio'r careg yma?" Er pan wy'n cofio dim, syr." idi fo'n careg mawr ?" Weli-tis i erioed mohoni, syr." Sut chi'n cofio'r fo heb i gwel'd o rioed?" Yr ydw i yn cofio'r gwynt, syr, ond heb ei wel'd erioed." Pun ai Cwmraeg ai Sasnag mae o'n ateb o'r gore ?" Cymraeg, syr." Ydi o'n ateb tefaid yn prefu ?" Ydi, syr, ac asynod hefyd." Oes chi dim ofn tarw cornio fo? Cornio bpth, syr ?" Cornio careg ateb chi." Buasai yn well ganddo eich cornio chwi, syr, o lawer." "Mr Grymialach teud pod o wedi lladd tarw gore o'i achos o." 0 achos bath, syr ? Achos careg ateb trwblus chi, sy'n cyru pawb yn benben. Chi cau'r adwy, rhag i swn o dwad i Cae Grymialach, a rhag iddo fo trysu neb wrtli dod adre'r nos. Chi talu chweigian a'J costau am i cadw fo yna mor hir. Ffarmwrs dim busnes cadw niwsans ar y tir. Anfonwch o i'r ysgol i ddysgu Sasueg ac i bih-efio 'i hun. A ni rhwmo chi i gadw'r heddwch tan tro nesa. Ac os daw cwyn chwaneg, ni anfon dwy beili i fyny i seuthu o. Rhaid bod yna rhywun wedi mwrdro yn y lie yna, a'r yspryd yn trwblo, ne fod yna rhywan wedi marw a cuddio arian yna, Chi talu'r coste allan o'r arian rheiny." "Mi ddwedais i wrth y gareg am beidio trwblo teirw a lloi'r bobl byth eto. Byth eto.' meddai hithau mewn mynyd, ac fe'i &ymerais hi ar ei gair ac os clywir son am dani eto yn drysu asynod neu loi, neu yn clegar fel ceiliogwydd, anfoner y ceidwad i fyny, a cheiff y gareg ateb drosti ei hun."

YN NGHYLCH ARIAN

[No title]

AIL GYFRES 0 WOBRWYON

0 WYTHNOS I WYTHNOS