Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HEN FELINYDD MEIRION

¿...-BONEDPIGES SIOMEDIG

Y CROESAW, Y FET A'R HANNER…

News
Cite
Share

Y CROESAW, Y FET A'R HANNER CORON UN tro, aeth yn fet rhwng Twm o'r Nant a chyfaill iddo, na chai ef giniaw gan berson ydoedd yn bywheb fod yn mhell 0 Nantglyn. Trwy fod y person hwnw a Thomas Edward heb fod ar y telerau mwyaf cyfeillgar a'u gilydd; ni feddyliodd y cyfaill hwnw y buasai Thomas yn myned yn agos ato. Derbyniodd y bardd y cynnygiad, a gwynebodd tua'r persondy. Daeth y forwyn at y drws. Ydyw Mr R i mewn ?" ebai y bardd. Ydyw," ebai y forwyn. A wnewch chwi ddweyd wrtho fod Twm o'r Nant eisieu ei weled ?" Aeth y forwyn i'r parlwr, a mynegodd i'w meistr y genadwri. Dywedwch wrtho nad ydwyf fi ddim i mewn," ebai y person. Daeth y forwyn yn ol at y drws, ac ebai hi wrth y bardd: "Mae fy meistr yn dweyd nad yw efe ddim i mewn." Da ngeneth i, am ddweyd y gwir," ebe y bardd. Dydi 0 ddim llawer 0 bwys i mi efallai, ond dichon ei fod iddo ef. Gellwch fyned yn ol a dweyd wrtho fod gair a fynwyf ag ef os yn gyfleus; ond oa na chaf ei weled, rhaid iddo gymeryd y canlyn- iadau. Ar hyny, aeth y gwr eglwysig at y drws. Wel, Thomas Edwards, deuwch i mewn, sut yr ydych chwi ? Y mae yn ddrwg genyf i'r forwyn 8tupid yma wneyd camgymeriad." Ond nid oedd angenllygaid treiddiol iawn i allu gwel'd drwy y cwbl. All right" ebai y bardd, nid oes genyf ond ychydig o eiriau a chwi. Yr wyf wedi clywed, syr, eich bod yn arfer hela wiwair ar y Sabbath, a daethum yma i ofyn ai gwir hyny; oblegid y mae rhywull wedi gofyn i mi wneyd cerdd i chwi." "Gwneyd cerdd i mi! Anwiredd bob gair Cerdd yn wir! Anwiredd i gyd I Dowch i mewn, Thomas Edwards, ac eis- teddwch i lawr. Pa bryd y cawsoch chwi fwyd Mr Edwards?" Dim llawer o drefn er y boreu," ebai Twm o'r Nant. Elin, dowch a bara a chaws a menyn a chwrw ar y bwrdd yn y mynyd yma. Estyn. wch at y bwyd Thomas Edwards, a mwyn. hewch eich hunan," meddai y person. Felly, cafodd y bardd groesaw na fu erioed ffasiwn beth, a hanner coron yn ei boced wrth fyned ymaith gyda'r awgrym mai nid gwir pob peth a glywir," Felly, enillodd Thomas Edward^ y croesaw, y fet, a'r hanner coron ar un ergyd, yn nghyda chyfeillgarwch parhaol gwr eglwysig a fuasai gynt yn elyn iddo. C,

Advertising