Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HEN FELINYDD MEIRION

¿...-BONEDPIGES SIOMEDIG

News
Cite
Share

¿. BONEDPIGES SIOMEDIG YCHYDIG fisoedd yn ol, bu boneddwr mor an. ffodus a cholli ei briod, boneddiges enwog mewn llenyddiaeth. Wedi galaru am rai wythnosau, daeth drychfeddwl hapus i'w ben. Meddyliodd y gallai wneyd rhywbeth i leihau ei drallod, ac i'r perwyl hwnw, galwodd a'r foneddiges a adwaenai, a gofyn- odd am gael siarad gair a hi yn gyfrinachol. Yn meddwl ei bod yn myn'd i gael cynnyg arno, dechreuodd y foneddiges deimlo dyddordeb, a gwrandawodd yn astud. Margaret," meddai ef, gan gadw ei olwg tua'r llawr ac ymaflyd yn ei llaw, yr oeddych yn adnabod fy ngwraig I" Yn ei hadnabod, oeddwn yn dda." Nid da bod dyn ei hunan." Efallai hyny." A ddarfu i chwi erioed sylwi ar y rhan hono o'r gwasanaeth priodasol sydd yn cymhell y par priodasol lynu wrth eu gilydd nes gwahano a-ngau 2" "Do." Yr ydwyf finnau wedi bod yn sylwi arno lawer gwaith. Ynawr y mae angau wedi fy ngwahanu i oddiwrth fy. ngwraig, ac yr wyf yn teimlo yn unig iawn." Gallwn i feddwl eich bod." Yr ydwyf i yn meddwl y dylwn i wneyd rhywbeth i adferyd i mi fy hun y dyddanwch hynaws hwnw, a'r coffadwriaeth hyfryd a hiraethlawn am ei rhinweddau." Gwasgodd law y foneddiges, ac ocheneid- iodd. Gwasgodd hithau ei law yntau, a gadawodd i ocheniad ddofn ddianc allan. Fy airwylyd," meddai ef, "mi ddeuaf at y mater ar unwaith. Y mae genyf gynnyg- lad i'w wneyd." Cynnygiad?" Gwridodd, a chuddiodd ei gwyneb a'i dwylaw. Oes, yr wyf wedi penderfynu ysgrifenu banes bywyd fy ngwraig. Yn awr, gan nad 1 oes genyf ryw lawer ohoni hi hefo'r llenydd- iaeth yma a bod yn rhaid sillebu yn gywir, ac ysgrifenu yn ramadegol, yr wyf wedi bod yn meddwl am ofyn i chwi gywirio fy 11a w- ysgrif ac ysgrifenu penawdau a rhyw fan bethau felly, a chewch chwithau bum punt am eich trafferth." Fflachiodd ei lygaid gan ddigllonedd, a llamodd fel teigres oddiwrtho :— Yr adyn—yr anghenfil," meddai, ac aeth allan o'r ystafell, heb iaith ddigon cref i ddatgan ei chynddaredd. Ocheneidiodd y gwr gweddw, cymerodd ei het am ei ben, gadawodd yr ystafell, ac aeth adref. Nid ydyw wedi cyhoeddi y llyfr eto.

Y CROESAW, Y FET A'R HANNER…

Advertising