Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HEN FELINYDD MEIRION

News
Cite
Share

HEN FELINYDD MEIRION YR oedd yr hen Ifan Tomos, melinydd Meirion, yn nodedig am ei drachwant, nid yn unig am ei fod yn tolli cymaint allo," ond ar gyfrif ei ystrywiau o'r tuallan i'r felin. Cael arian, nid enill arian, oedd ei bwnc mawr ef, ac er cyrhaedd yr amcan hwn, aberthai bobpeth. Yr oedd ei frawd wedi marw yn ddi- ewyllys, ac yr oedd yntau yn ceisio hawlio y tir, er fod pob cyfraith, rheswm, a theimlad yn ei erbyn. Y ffordd a gymerodd i geisio cael y tir oedd myned allan gefn trymydd y nos i ymrithio mewn cynfas wen o amgylch ty ei frawd, lie yr "bedd gweddw a llondyr aelwyd o blant, ac weithiau i ben y ty, a gwaeddi allan mewn llais annaearol, Rhowch y tir i Ifan fy mrawd." Ond fe gaed allan ei ddichellion cyn iddo lwyddo i syfrdanu y weddw a'r plant. Dyma fel y canodd rywun ar ei ol: Hen felinydd Meirion, Er gwaetha'i blant a'i wyrion, Fu farw yn nghanol yr olwyn glee Wrth falu pec o rynion."

¿...-BONEDPIGES SIOMEDIG

Y CROESAW, Y FET A'R HANNER…

Advertising