Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

QRYM ARFERIAD

DIRGELWCH DOLGYNFI neu Pwy…

News
Cite
Share

iddynt gan y gosoiwyr, yn unol a, phender- fyniad cyfarfod Caernarfon o berchenogion chwareli, drwy yr hwn yr oeddynt wedi ym- rwymo i beidio rhoddi gwaith i neb fyddai perthyn i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Yr oedd gwahoddiadau wedi cael eu hanfon i luaws o deuluoedd y Cwm i fod yn y briodas, ac, wrth gwrs, bwriadai llawer fyned i gapel Cefn-y-Cwm i fod yn llygad- dystion o'r seremoni. Nid oedd Maggie eto lawn un ar hugain oed; yr oedd ychydig wythnosau rhyngddi a bod; ond tybiodd yr hen weinidog yn briodol anfon am Mr Wynn i fyny at yr hwyr, er mwyn cael ymddyddan ag ef mewn perthynas i'r arian adawyd iddi yn nghofal y twrnai gan ei thad. Credai yr hen wr, yn ei ddiniweidrwydd, y byddai Mr Wynn yn sicr o wneyd cymwynas iddo ef ac i Maggie drwy roddi yr arian iddi ychydig wythnosau yn mlaen llaw dan yr amgylchiadau, gan ei bod hi i ymadael o'r wlad gyda'i gwr yn uniongyrchol wedi'r briodas. Tua phump o'r gloch y prydnawn gwelid Mr Wynn yn dynesu at dv y gweinidog. Wrth gwrs, ni wyddai beth oedd neges yr hen wr gydag ef, ond yr oedd yn amheu beth ydoedd, gan ei fod yn deall fod y briodas i gymeryd lie dranoeth, ac yr oedd wedi gwneyd pob paratoad angenrheidiol gogyfer a gwrthod unrhyw gais am iddo dalu yr arian yn awr. Yn wir, nid oedd yr arian ganddo; yr oedd llawer ohonynt wedi eu gwario ganddo ar ei chwarel ei hun yn y g rlo 9 gobaith o allu gwerthu hono am bris da yn ddigon buan i dalu i Maggie, ond yr oedd heb ei gwerthu eto, ac yn methu cael neb yn ddigon o ffwl i roddi unrhyw gynnyg arni. Felly yr oedd Mr Wynn wedi dyfeisio ei esgusodion rhag talu dim o'r arian, a gwnai ei ffordd yn mlaen at dY'r gweinidog yn awr gan deimlo yn sicr o ddod allan yn fwy na choncwerwr ar yr hen wr. Ychydig bellder oddiwrth y ty cyfarfyddodd Pyrs, yr hwn oedd wedi clywed fod Wynn yn dod i fyny y noson hono, ac wedi cychwyn i'w gyfarfod er cael ychydig eiriau cyfrinachol ag ef fel twrnai Harri. Ychydig iawn o eiriau basiodd rhyngddynt; yr oedd Pyrs yn foesgar tuag- ato, a dyna'r cwbl. Estynodd iddo y weith. red gyfreithiol baratowyd yn Nghaer, drwy yr hon yr oedd yn trosglwyddo yr holl eiddo i ofal ei frawd, ac ni ddywedodd ddim wrth ei hestyn. Agorodd Mr Wynn y papyr, taflodd gipolwg drosto, a dododd ef yn ei boced dan wenu, a dyna'r oil. Hyd yn hyn yr oedd arno braidd ofn Pyrs fel un allai roddi cryn lawer o drwbl wrth gael ei ddi- feddiannu o eiddo Dolgynfi, ond yn awr dyma ef wedi difeddiannu ei hun, ac ni cheid ychwaneg o drafferth gydag ef. Neu o'r hyn lleiaf, dyna fel y tybiai Mr Wynn. Ym- adawsant heb ychwaneg o eiriau. Wedi cyrhaedd ty Mr Hopcyn, yr oedd yno de yn barod ar ei gyfer, a r hen wr yn ei ddisgwyl er's meityn. Heb unrhyw rag- ymadrodd, dechreuodd Mr Hopcyn son am y briodas. Y chwi fydd yn actio ran tad tuagati fory, Mr Wynn," meddai; rhaid i chwi, fel ei ysgutor ac fel hen ffrynd i'w thad, fod yno, wyddoch, yn cymeryd rhan yn y seremoni." Y fi ?" gofynai Mr Wynn, gan gymeryd arno edrych yn synedig, p y fi ? Wel, pwy ddylai wneyd ond y chwi ?" Chwi, Mr Hopcyn, sydd wedi actio fel tad i'r eneth er pan fu farw ei thad." Y fi sydd i'w priodi, ond fe ddylech chwithau fod yno." 11 Wel, yn wir, byddai yn well genyf beidio bod." Cododd Mr Hopcyn ei olwg ac edrychodd dros ymylon ei spectol ar Mr Wynn, an- esmwythder yr hwn oedd yn cynnyddu dan yr edrychiad. Yr oedd yr hen wr ar fedr dyweyd rhywbeth mewn atebiad i'r twrnai, ond cofiodd i'r olaf, ychydig amser yn ol, ddwyn amryw resymau yn erbyn i Maggie briodi Pyrs, ac er nad oedd Mr Hopcyn yn edrych arnynt ond fel rhesymau dyn arian- gar a bydol, eto credai eu bod yn ddigonol yn ngolwg Mr Wynn i wneyd i'r twrnai deimlo yn wrthwynebol i'r briodas. Mae Pyrs a Maggie yn myn'd i ffwrdd o'r wlad yn uniongyrchol ar ol y briodas," ebai Mr Hobcyn. Felly yr oeddwn yn casglu." Y maent yn myn'd i Canada i ffarmio." Arian pwy sydd yn myn'd i dalu ?" gofynai Mr Wynn. "Arian pwy? Wel, arian y ddau, debyg gen i. A chan eich bod wedi crybwyll am arian, mae genyf eisieu gofyn oni allech dalu drosodd i Maggie y gymunrodd adawyd iddi yn eich gofal gan ei thad. Gwir nad yw hi eto yn ei llawn oed cyfreithiol i'w derbyn yn ol yr ewyllys, ac nad oes ganddi ddim hawl iddynt am rai wythnosau eto, ond gan ei bod yn myn'd allan o'r wlad gyda'i gwr yr wyth- nos hon, efallai na fydd genych chwi ddim llawer o wrthwynebiad i dalu iddi yn awr, gael gorphen a'r peth." Yr ydych yn gofyn i mi wneyd peth hollol afreolaidd ac anghyfreithlon, Mr Hopcyn; ac mae fy safle i fel cyfreithiwr ac fel ysgutor yn ei gwneyd yn hollol an- mhosibl i mi gydsynio a'ch cais." Mae'n ddrwg genyf glywed hyny, a gwyddwn fod y peth yn un afreolaidd, ond wyddwn i ddim ei fod yn cynnwys anghyf- reithlondeb. Sut y mae hyny yn bod ?" Wel, fel hyit-bwriweh fod Maggie yn marw cyn dod i'w hoed, gallai ei brawd, neu ei hanner brawd yn hytrach, syrthio arnaf fi am holl arian ei chwaer, a beth ddeuai ohonof fi pe wedi talu iddi yr arian cyn eu bod yn ddyledus ? Byddai raid i mi eu talu wed'yn o'm poced fy hun i'w banner brawd. A ydych yn gweled sut y mae pethau yn awr ?" Nid wyf fi yn cofio telerau ewyllys ei thad yn ddigon da i allu eich dilyn. Ond pa le y mae yr hanner brawd yma; 'does dim son am dano yn unman a oes ?" I I Wel, Mr Hopcyn, rhaid i chwi aros am ychydig cyn cael atebiad i'ch cwestiwn; ond yr wyf yn credu y cewch ateb iddo cyn diwedd yr wythnos, a chewch wybod pa le y mae hanner brawd Maggie Harris." Felly y terfynodd yr ymddyddan yn nghylch yr arian, ac yn lied fuan wedy'n, aeth Mr Wynn i lawr i'r dref, lie yr oedd llythyr yn ei aros oddiwrth Harri o Gaer yn addaw rhyw newydd pwysig iddo mewn llythyr erbyn y boreu dilynol. Pellebrodd Mr Wynn yn ddioed at Harri i ddyweyd wrtho am gyfeirio y llythyr hwnw i Gwm Caledffrwd, gan ei fod wedi hanner addaw wrth Mr Hopcyn bod yn bresennol yn y briodas y boreu dilynol. Ni welodd Pyrs a Maggie eu gilydd ond am ychydig fynydau yn unig y diwrnod hwn; yr oeddynt eu dau yn brysur ym- baratoi, fel nas gallant gael fawr o amser i ymddyddan a'u gilydd. 0 dan y teimlad dedwydd oedd wedi eu meddiannu yn y rhagolwg ar eu huniad buan, yr oedd teimladau ereill pur wahanol i rai dedwydd, teimladau oeddynt yn hollol guddiedig yn mynwes y naill rhag y llall. Yr oedd Maggie yn methu peidio meddwl 09 drwy'r dydd am fygythiad Harri i'w gwahanu ar ol eu priodas. Yr oedd y cwestiwn a allai Harri wneyd hyny ai peidio yn llai pwysig yn meddwl Maggie 0 na'r cwestiwn a ddylai hi ddyweyd wrth Pyrs am hyn. Fel yr elai y dydd heibio, cynnyddai ei hanesmwythder. Teimlai os y dywedai am y peth o gwbl wrth Pyrs, y byddai raid iddi hefyd ddyweyd wrtho am ymgais Harri i'w hudo hi i roddi Pyrs i fyny a'i dderbyn yntau a phe y dywedai y cwbl wrth Pyrs, gan yr hwn yr oedd digon eisoes o beth ar ei feddwl i'w boeni, credai nas gallai yntau ddeongli ystyr geiriau rhyfedd Harri ac na chyrhaeddid unrhyw amcan ymarferol na dymunol drwy hyny. Efallai, wedi'r cyfan, nad oedd bygythiad Harri yn ddim ond megis trwst l'lestri gweigion neu swn chwysigen wynt wrth dori. Ond er y cwbl, cynnyddu wnai anesmwythder Maggie; yr oedd rhyw ofn dieithrol yn ei meddiannu fel y darfyddai y diwrnod olaf iddi fod yn ferch ieuanc. ac eto, nis gwyddai rhag beth yr oedd yn ofni. Am Pyrs, yr oedd ganddo yntau gwestiwn difrifol i'w benderfynu y diwrnod hwn, ac yr oedd yn ei feddwl yn ddibaid drwy'r dydd. Meddyliai, tybed ei fod yn ym- ddwyn yn anrhydeddus tuagat Maggie wrth beidio ei hysbysu o'r ffaith nad oedd efe yn fab cyfreithlon i'w dad. Ac eto, teimlai nas' gallai byth ddyweyd wrthi, oblegid yr oedd wedi gwneyd llw o adduned i'w fam, noson marw ei dad, nad ynganai efe air byth am y peth wrth neb, rhag gwarthruddo enw da ei fam, ac yr oedd yn benderfynol o gadw yr adduned hono, deued a ddelo. Ac wedi'r cwbl, pa wahaniaeth i Maggie wnelai y peth; pa un bynag ai mab cyfreithlon ai anghyfreithlon ydoedd ef i Morgan Llwyd, nis gallai wneyd yr un iot o wahaniaeth i'w wraig ieuanc. Gan hyny, yr oedd yn naturiol iddo, dan amgylchiadau o'r fath, wneyd ei feddwl i fyny o'r diwedd i beidio dyweyd dim byth wrth Maggie yn nghylch y mater neillduol yma. A thyna paham na ddywedodd y naill na'r llall ohonynt yr un gair wrth eu gilydd yn nghylch y materion oeddynt yn pwyso mwyaf ar eu meddyliau y diwrnod cyn eu priodas. (I'w barhau.)