Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

"Y CLIO .-(Parhad o tudalen…

News
Cite
Share

Y CLIO .-(Parhad o tudalen 5.) Y LLONG AR Y FENAI. O'r flwyddyn 1875 i 1877, llwyddodd Capt. Moger, trwy ymdrechion anghymharol, i gael i fewn yr arian angenrheidiol at gychwyn y gwaith ar yr hyffordd-long. Yn canfod hyn, ac yn gwybod am ei brofiad ar fwrdd llongau y llynges, penderfyliodd y pwyllgor nad allant wneyd dim yn ddoeth- ach na phenodi Capten Moger i brif-lywydd- iaeth y y Clio," a buont yn ffodus iawn yn eu dewisiad, canys y mae y Hong iddo ef, yn ol pob ymddangosiad, megis ystad i tonetldwr, ac yntau megis tad patriarchaidd Fr holl deulu ar y bwrdd. Adwaen bob un o'r bechgyn a geilw hwynt wrth eu henwau. I fyny i Medi, 1877, fe wariwyd 7123p ar gyfnewididiadau a gwelliantau yn y llestr, ac yr oedd yr oil o'r swm hwu wedi ei dder- byn yn danysgrifiadau gan Capten Moger. Cyfranodd Due Westminster y rhodd an- rhydeddus o 1325p at y drysorfa. Y Due haelionus a gyflawnodd y seremoni agoriadol yn Awst, 1877, yn ngwydd cwmni urddasol Bachgen o Fon, a elwid W. Owen, oedd y cyntaf a dderbyniwyd ar y bwrdd Medi 17eg, 1877, ac erbyndechreu y Hwyddyn ganlynol yr oedd y nifer wedi cynnyddu i 28; erbyn mis Mawrth i 132; ac yn awr y mae yno 173. Naturiol ydyw meddwl mai y gelfyddyd forwrol neu lyngesol a ga y sylw penaf ar y bwrdd, ac y mae hyny i raddau yn wir, ond ar yr un pryd dysgir yno bob math o grefftiau defnyddiol, megis gwneyd esgidiau a dilladau, eillio, a pkefchau o'r fath, fel na ddisgwylir i'r bechgyn o angenrheidrwydd fyned ar y m6r. Yn wir y mae llawet o lechgyn y Clio yn llenwi safleoedd o ym- ddiried ac yn dilyn crefftiau yn ngwahanol drefi ein gwlad, yn cynnwys rhanau o Gymru. Rhenir y bechgyn ar y bwrdd i ddwy ran, rhai un bob ochr i'r llong, ac ar un adeg o'r dydd bydd yr hanner dan addysgiaeth athrawon profiadol; ac yn gofnodol archwilir hwynt gan arolygwyr ei Mawrhydi megis y gwneir mewn ysgolion ereill. Hefyd ca y bechgyn bob moddion crefyddol fel rhai ar y lan, os nad gwell, canys nid oes ganddynt ddewis i beidio mynychu y gwasanaeth dyddiol ac ar y Sul M y dewisa ami i blant y lan. Fel y dywedwyd eisoes y mae llawer o'r bechgyn a fu ar y bwrdd yn mhob rhan o'r byd, a difyr ydyw darllen y gyfres o lythyrau a dderbyniwyd ac a dierbynir oddiwrth y y bechgyn hyn yn canmol yr hen Clio," ac yn cynhes ddiolch iddynt erioed gael eu dwyn i fyny arni. Nid yn unig dysgir glan- weithdra yn y lie, ond hyfforddir hwynt sut i ffrwyno eu tymherau a'r modd i ymddwyn yn weddus y naill tuagat y llall, ac yn enwedig at eu huwehafiaid. Meiddiwn ddyweyd a chynghori rieni neu warcheidwaid plant a allent ddangos tuedd- iad i fyned ar gyfeiliorn ac i fod yn anysty- wallt, nas gellir anfon y cyfryw mewn pryd i unrliyw sefydliad mwy canmoladwy a defn- yddiol na'r hyfforddlong Clio," ar y Fenai, lie yn ychwanegol at addysg ac iawn reol- eidd-dra y gellir mwynhau pob campau di. niwed ac iachusol, a lie y mae cerddoriaeth offerynol a ileisiol yn cael y sylw dyladwy. Dylid cofio fod y gwaith mawr ar fwrdd y llong yn cael ei gario yn mlaen i fesur helaeth iawn ar yr egwyddor wirfoddol, a phan ddeallir fod yno 21 o swyddogion ar y bwrdd yn benaethiaid y gwahanol ganghenau, fe wybyddir hefyd fod y sefydliad yn un costus i'w gario yn mlaen"; am hyny, croesawir pob cyfraniad tuagat y draul. Wrth derfynu, dymunwn barchus awgrymu y dylid ar bob cyfrif benodi nifer o swyddog- ion fyddont yn deall Cymraeg. i Y SWYDDOGION A'R BECHGYN. j