Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHESYMOLION PEDWARTROED

GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG…

WRTH EDRYCH AR El DRWYN

News
Cite
Share

WRTH EDRYCH AR El DRWYN YR oedd boneddiges ieuanc gyfoethog yn caru boneddwr ieuanc tlawd, ond ni chaent briodi, am fod ei rhieni yn erbyn iddi briodi un heb fod ganddo gyfoeth. Aeth y boneddwr ieuanc at gyfaill iddo o gyfreith- iWl, a dywedodd hwnw wrtho y gwnai ef bob peth i fyny. Aeth y cyfreithiwr at y rhieni, a gofynwyd iddo pa faint o eiddo oedd gan y gwr ieuanc. Dywedodd yntau na allai ef ddyweyd yn sicr, ond y gwnai ymholi ar y mater. Y tro cyntaf wedi hyny i'r cyfreithiwr a'r boneddwr ieuanc gyfarfod A'u gilydd, gofyn. odd y cyfreithiwr iddo:- "A fynech "chi golli eich trwyn am bum mil o bunnau ?" "Yr anwyl fawr, na fynwn i, nac am lawer yn ychwaneg na hyny," meddai'r gwr ieuanc." Yn fuan wedi hyn, gwelodd y cyfreithiwr dad y foneddiges, a dywedodd wrtho :— Yr wyf wedi bod yn ymholi yn fanwl yn nghylch amgylchiadau y gNr ieuanc y buom yn son am dano; ac wedi cael allan nad oes ganddo ond ychydig o arian parod, ond fod ganddo eiddo ag y gwn iddo. wrthod pum' mil o bunnau am dano."—Nid hir y buwyd yn gwneyd i fyny y briodas; ond dywedir y byddai yn hawdd iawn byth wedi hyny gan yr hen wr ysgwyd ei ben, pan yr edrychai ar drwyn ei fab-yn-nghyfraith.

HANESYN ARSWYDUS

Advertising