Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHESYMOLION PEDWARTROED

News
Cite
Share

RHESYMOLION PEDWARTROED DRAW yn mhell yn y goedwig dewdrwch, yr oedd dau Iwynog yn byw yn heddychlon, heb erioed air croes wedi bod rhyngddynt. Un diwrnod, dywedodd un ohonynt yn y dull mwyaf moesgar, Gad i ni gweryla." O'r goreu, anwyl gyfaill, yn hollol fel yr wyt 'ti yn ewyllysio," meddai'r llall, ond pa fodd y dechreuwn ni ?" "0, does dim anhawsder yn hyny," meddai y llwynog cyntaf "y mae y creadur- iaid deudroed yna, sy'n galw eu hunain yn fodau rhesymol, yn cweryla yn barhaus, paham na chwarelem ninnau ambell dro?" Gan hyny, gwnthant bob ymgais i gweryla, ond pob ymgais yn troi yn fethiant am fod y naill yn rhoi ffordd i'r Hall. O'r diwedd, daeth y llwynog cyntaf a dwy gareg, a dywedodd, Dyma nhw, yr wyt ti'n dyweyd mai ti a'u pia nhw, ac mi gwerylwn, ac mi ymladdwn, ac mi gripiwn eiu gilydd, nes bydd son am danom drwy yr holl goedwig yma. Yn awr, gad i ni ddechreu, yr ydw i yn dyweyd mai fi bia'r ddwy gareg yma." O'r goreu, anwyl gyfaill," meddai'r llall yn bwyllog, "y mae i ti roesaw ohonynt, does arna i ddim o'u heisieu nhw." Ond allwn ni byth gweryla fel hyn," meddai y llall, gan neidio i fyny, a llyfu ei wyneb, yr hen ffwlcyn gwirion, wyt ti ddim yn deall fod eisieu dau i gweryla?" agssssssifea

GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG…

WRTH EDRYCH AR El DRWYN

HANESYN ARSWYDUS

Advertising