Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

IYR ANRHYD. F. S. A. HANBURY-ITRACY,

" PARCH T. WITTON DAVIES,…

WILLIAM JONES, Ysw., TREGARON…

-.:'.. W. D. LEWIS, F.T.S.C.,…

News
Cite
Share

W. D. LEWIS, F.T.S.C., BRYNAMAN. Y MAE rhai petbau hynod ddyddorol, canmol- adwy, ac eithriadol yn hanes gwrthddrych y darlun hwn. Ni ar unwaith a enwn ddau olionynt, er clod cychwynwyr y sefydliadau y mae Mr Lewis yn diolch am danynt ac yn falch ohonynt. Cawn mai yn yr Ysgol Sabbathol, a gynnelid o dy i dy yn nghym ydogaeth Brynaman, man ei enedigaetb, y dechreuodd dderbyn addysg fel lluaws o feib goreu y Dywysogaeth. Sefydliad arall, un na wyddai neb ond pobl ardal y glofeydd am dano, ydoedd capel tan-ddaearol, wedi ei naddu yn y graig, lIe cynnelid cyfarfodydc1 gweddi a chyfarfodydd cystadleuol. Pan ddeallif am y cynuulliadau crefyddol hyn yn ngholuddion y ddaear, nid lhyfedd clywcd am lowyr mewn cyfyngder ar ol ffrwydriadau yn cauu hymnau Cymreig pan wedi eu cloi yn agenau y graig ac angau yn rhythu yn eu liwynebau. Nid cywilydd gan Mr Lewis gydnabed iddo am flynyddoedd weithio fel giowr, ac mai Pwll Brynaman oedd coleg boreu ei oes -sef y capel nodedig yn y graig. Yn yr unrhyw ysgol, cododd Wat Wyn a Gwalch Ebrill, a cbafodd argraph cyfarfodydd gweddio y lie effaith ragorol ar y to hyd y dydd heddyw. Ar yr un pryd, gallesid rhoddi hanes amryw amgylchiadau ysmala a gymerodd le yn y pwll. Ymroddodd Mr Lewis at ddysgu cerddoriaeth, ac yn y man daeth yn hyddysg yn nghynllun y sol-ffa. Llwyddodd i enill yr oil o'r tyst-ysgrifau a drefnwyd gan y diweddar John Curwen, ac yn 1887 gwnaed ef yn gymrawd, sef Fellow of the Tonic Sol-fa College," fel yr arwydda y llythyrenau ar ol ei enw.