Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

SON AM YSPRYDION: DADL

News
Cite
Share

SON AM YSPRYDION: DADL HUW'R EFEL Wyt ti'n credu mewn yspryd- ion, Nedi ?M NEDI'R ALA: Wel ydw fachgen, yn credu yn ddiysgog mewn pethau goruwchnaturiol o bob math; y tylwyth teg, own yr wybren, cwn anwn, drychiolaethau ac ysprydion o bob Iliw, Ilun a maintioli. Huw Wel, wel, yr oeddwn i yn meddwl fod ofergoeledd wedi marw,—fod y ladi wen wedi diffodd pob canwyll gorph cyn myn'd ar encil i wlad hud a lledrith, a bod y tylwythion teg wedi fcffoi o danbeidrwydd goleuni gwybodaeth fel y bydd chwilenod duon y seler yn ffoi rhag goleuni canwyll. NEDI Yr ydw i yn credu mai dy anghred- iniaeth didosdur di, a'th orawydd i ddilyn y ffasiwn sy'n peri i ti ddyweyd hyny. Oni welais i rai o'th ddosparth di yn gwenu yn ffug-ddoctoraidd wrth glywed rhai yn meiddio dyweyd fod coel ar freuddwydion neb ond ar eu breuddwydion hwy eu hunain. Y fath fodau goleuedig ydych, bid siwr I Huw Rwyt ti'n dechreu ramblo'n barod, Nedi. Beth sydd nelo deongliad breuddwyd- ion a chredu mewn ysprydion a thylwythion y nos ? Onid o drallod y mae breuddwyd- ion yn dyfod ? NEDI Efallai hyny, ac o lawenydd hefyd, am a wn i. Ond gan nad ydych chwi, dosparth y farn gul yma, yn gweled breuwydion pobl ereill, yr ydych yn cau eich llygaid ac yn myned i freuddwydio eich bod yn rhy ddysgedig a respectable i gredu Shakespeare a Thwm o'r Nant. Byddai yn hawdd i ni lenwi colofnau newyddiaduron yr oes a, ffeithiau an- wadadwy ar y pwnc, ond nid i argyhoeddi neb ohonoch chwi byddai hyny yn an- lahosibl. Nid oes neb mor ddall a'r sawl &a fyno weled." Ac yr wyt ti dy hunan Huw, fel y neidr fyddar, yr hon a esyd ei chlust ar y ddaear, ac ni wreudy lais y rhiniwr. Huw: Da dydi, Nedi, cymer bwyll. Y ftiae'r nos wedi cerdded yn mhell a'r dydd wedi gwawrio, nid oes y breuddwydion ydyw yr oes hon. Nid son am ysprydion a gweledigaethau a glywir yn ein colegau, ein hathrofeydd, ein heglwysi a'n capelydcl y dyddiau hyn. Nid adrodd chwedlau y tylwyth teg ychwaith y mae preswylwyr y oaynyddoedd wrth dan mawn o gylch yr hen aelwyd fawr. Breuddwydion hen fantelli simneuiau yr oesoedd tywyll, pan fyddai bwgan ar bob bryn, a bo-lol yn mhob ceu- nant, ydyw y ffiloregau sy'n corddi dy ym- eriydd di, Nedi bach. Ymgroesa NEDI Wel, cymer dithau bwyll Huw. Rbaid cael liw cyn lliwo. Nid chwedlau disail yw y traddodiadau a dreiglir o genedlaeth i genedlaeth ar lafar gwlad yn Nghymru mwy na gwledydd eraill. Dywed rhai o'th ddysgedigion di fod hen draddodiadau y Cyrnry, un ac oil, naill ai yn ffeithiau syml dilwgr, neu ynte yn chwedlonau celfyddgar wedi eu hysgrifenu er cofnodi rhyw ddi. gwyddiad gwirioneddol. Oni buasai fod ein taaau a'n teidiau yn arfer gweled y tylwyth- ion teg yn awr ac eilwaith, ni buasai son am danynt, ac ni buasai traddodiad yn tros- glwyddo i ni y ddegfed ran o'r hanesion di. fyr yn eu cylch. Huw: Ie, wedi treulio noswaith lawen, ac H yfed medd byd londer," a dyfod adref dros gefn mynydd, ar nosweithiau hafaidd, yr oedd yr hen Gymry yn ddigon goleuedig i weled tylwythion teg yn eu harwain i balasau gorwych, a'u dodi i orweddar welyau manblu, a chlustogau esmwyth dan eu penau, ac yn deffro dranoeth mewn cors anghyfanedd cwm pellenig a'u pen ar dwmparth brwyn. NEDI Ond beth a ddywedir am Dwm o'r Nant, yr hwn ei hun a brotestiodd iddo weled hearse yn myned drwy gate y turnpike gefn trymydd y nos, a'r giat hono yn nghauad ? Ei fod yn gweled y ceffylau a'r harnais, a'r hogyn postilion, a'r coach,man, a'r siobau rhawn a fyddai ar dopiau yr hearse, a'r olwynion, yn pasio'r cerrig ar y ffordd fel y byddai olwynion ereill; a'r claddedigaeth o ben bwy gilydd, yn elor ac yn frethyn du, neu os un ieuanc a gleddid,—cynfas wen, a chanwyll gref yn myned heibio, a— Huw: Lol botes i gyd !— NFDI Taw Huw, cymer bwyll, a gad i mi adrodd. "Unwaith," ebai ef, "pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y gi&t. "Edrychwch acw," ebe fe, dacw ganwyll gorph yn dyfod hyd y caeau o'r ffordd fawr gerllaw." Felly, hwy a ddaliasant sylw arni yn dyfod, megys o'r tu arall i'r llan; weitbiau yn agos i'r ffordd, waith arall encyd yn y caeau; ac yn mhen ychydig ddyddiau, bu raid i gorph ddyfod yr un ffordd drwy'r caeau, oblegid fod yr hen ffordd yn llawn o luwchfeydd eira." Beth sydd genyt ti i'w ddweyd yn ngwyneb ffeithiau fel yna, y rhai a gymer. asant le pan oedd y bardd wedi ymgymeryd a chadw turnpike gate yn sir Gaerfyrddin ? Huw: Gofyn di i'r bobl ddeallus, ac fe ddywedant yn unfrydol nad oes neb wedi bod yn ddigon craffus er's dwy-oes neu dair bellach i ganfod pethau felly. Nid oes neb ond y bardd wedi gweled tylwythion y nos, na chlywed telyn ar ysgwydd Pum- lumon, a chyfeillion o Fachynlleth a Llan- idloes, a manau ereill o bell ac agos, yn treulio'r nos i ganu gyda'r tannau. Mae'n debyg i ti glywed rhai o'r hen bobl yn dyweyd fod y Tylwyth Teg yn symud eu cartref, a bod ganddynt gyfnod o saith genedlaeth i fyw ar y tir, saith yn yr awyr, a saith cenedlaeth yn y m6r; ac os oes iddynt fodolaeth yn rhywle yn yr oes hon, yn yr awyr y maent, neu efallai eu bod wedi myiied i'r -Ileuad, Nedi, ac os yno y maent, efallai y bydd gan Olygydd y Lleuad Gym- reig rywbeth i ddyweyd am danynt yn Mhapur Pawb. NEDI Paid di a nghymeryd i i fyny fel yna Huw, dydw i dditn mor lloerig a llawer un. Os cyfarfyddi a fi ryw noson yn ystod yr wythnos nesaf, bydd genyf ddigon o ffeithiau i wirio yr hyn a ddywed y bardd:— There are many things in heaven and earth that are not dreamt of in our philos- ophy," Nos dawch I Huw: Nos dawcb, Nedi, bydd yn dda genyf gyfarfod a tlii. Nis gall unrhyw lafur ein galluogi i ysgubo

[No title]

Advertising