Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG…

GEIRIAU YN RHEWI

News
Cite
Share

GEIRIAU YN RHEWI BYDD yn rhewi mor galed ar ben Bwlchoer. gwm yn y gauaf fel pan fo bugeiliaid yn ym ddyddan a'u gilydd o ychydig bellder bydd eu geiriau yn rhewi ar y ffordd, fel na chlywir hwynt; ond os bydd y bugeiliaid hyny yn digwydd dyfod y ffordd hono yn y Gwanwyn pan fydd yn dadmar bydd yr ymddyddanion yn meirioli nes y clywir cant o fugeiliaid yn clebran a'u gilydd. Yr oedd gan Die yr Heliwr Gorn, i'r hwn y chwythodd hen Alaw Gymreig, ond oher- wydd ei bod yn rhewi mor galed, ni chlywid dim o'i swn, yr oedd yr holl nodau wedi rhewi o'r tu mewn i'r corn, nes y crogwyd ef ar y fantell simneu, o flaen tanllwyth o dan mawn, a'r nodau yn dechreu toddi, ym- ffrwydrodd yr hen Alaw allan nes oedd y llestri te yn dawnsio ar y bwrdd er mawr syndod i bawb. Yr oedd Robin yr hwsmon yn myned y ffordd hono un prydnawn wrtho ei hun, pan oedd y eorsydd wedi rhewi yn galed, ac yn rhegi ei feistr am ei yru allan ar y fath ddiwrnod; ond nis gallai glywed ei lais ei hun. Dranoeth pan oedd yr haul yn twnu'n desog ganol dydd yr oedd ei feistr yn digwydd myned y ffordd hono, ac er ei syn- dod, clywai lais Robin y gwas yn ei regi yn ddidrugaredd, ond heb weled neb!DAFYDD DEUD Y GWIR.

Advertising

PUBLISHER'S NOTICE

CONCL Y CYHOEDDWR

CELL Y GOLYGYDD