Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG…

News
Cite
Share

GOLYGYDD Y LLEUAD GYMREIG AT El OHEBWYR GOFALUS AM EI IEOHYD.—Yr ydym wedi ymgynghori a'n meddyg yn eich cylch, ac y mae ef yn eich cynghori i beidio bwyta gwadnau hen esgidiau, am eu bod yn peri diffyg treuliad; eich bod i beidio bwyta'r fegin, rhag i chwi gael gwynt ar y stumog ond gellwch fwyta unrhyw ddodrefnyn arall o fewn y ty. YMHOLYDD.-Edgar Allan Poe ydyw yr unig fardd Cymreig sydd yn arfer a galw yn ein swyddfa yn y Lleuad yma. PLATO HUGHES.-OS ydych yn meddwl mai llygod sy'n difa eich ysgrifau, gosodwch drap ac eisteddwch yn ei ymyl drwy'r nos, ac os gwelwch lygoden dodwch hi yn y trap. DANTE MCWERMOD.—Yr ydych yn cyfeil- iorni yn anaele pan y dywedwch fod yn rhaid i'r bardd glywed a gweled a theimlo pethau y mae yn cyfansoddi arnynt; a ydych chwi yn meddwl y buasai raid i Milton fod yn uffern mewn gwirionedd pan yn cyfan- soddi ei Goll Gwynfa ?" neu fod yn ofynol i farwnadwyr Cymru deimlo hiraeth gwir- ioneddol ar ol deg o bob cant o'r ymadaw- edigion y gwastraffant eu hocheneidiau ar bapyr er cof am danynt ? WILLIAM SHOLGROP, Ysw. Y mae y boneddwr hwn yn gofyn i ni enwi ychydig foneddigion o waedoliaeth y gall ef dreulio wythnosau yn eu cwmni yn Eisteddfod Genedlaethol y rhan fwyaf aristocrataidd o'r Lleuad yma. Yn mhlith ereill gallem enwi Twm y Pedlar, Simon y Tincer, Robin y Barbwr, a Crispin y Brasglytiwr ac y mae Bob Ffowc, Wil Sponc, a Robin y Potiwr hefyd yn gwmni rhagorol iawn. MARTHA DRAFFERTHUS.- Pe cymerech chwi gymaint o drafferth i gyfansoddi rhywbeth gwreiddiol ag a gymerweh i ladrata llinellau awduresau ereill, gallech ddyfod yn un o'r awduresau mwyaf trafferthus dan haul. DIFRIFOLFARDD.-Y mae eich can ar Y Glochyddiaeth dan Gwmwl yn benigamp- waith anfarwoledigadwy. Darllenir hi pan fydd Homer a Virgil, Shakespeare a Milton, Goronwy o Fon a Dewi Wyn wedi eu llwyr anghofio, ond nid cyn hyny. JAC YR HWSMON.—Oes, y mae yn bosibl i chwi sugno un cysur o gweryla mor fynych a hen ferch hyny yw, 'does dim perygl iddi ddyweyd iddi wneyd y peth hyn a'r peth arall cyn eich geni. GOHEBYDD O'R DDAEAR ISOD.—Y mae y gohebydd hwn wedi darganfod oddiar ba safon y mae Robin Bondigrybwyll yn barnu pobl ereill-hyny yw, efe ei hun. RHIANON.-Byddai yn llawer gwell i eneth ieuanc ddeunaw oed ddyweyd Fy nhad a mam na Tada a mami." TOM EDWARDS.—Credu mewn ysprydion ? Na; byddai well i chwi beidio. Y mae yn haws i chwi fod yn y ffasiwn o lawer drwy beidio credu mewn dim ac os ydych am gael eich ystyried yn ddyn dysgedig, amheuwch bobpeth, ysgydwch eich pen, a pheidiwch ag ateb cwestiynau. Y ffol tra tawo a gyfrifir yn ddoeth." Pan fo hen wraig dlawd yn cadw ei drws yn nghlo, chaiff pawb ddim gwybod pa fath ddodrefn sydd ganddi. CHRISTOPHER LLWYD.—Y mae y boneddwr hwn yn gofyn a ydyw darllenwyr y Lleuad Gymreig yn deall mai efe sydd yn ysgrifenu mwyaf i'n papyr clodwiw. Yr ydym wedi edrych dros y fasged, ac yn dymuno hysbysu ein darllenwyr mai yno y mae ei ysgrifau.

GEIRIAU YN RHEWI

Advertising

PUBLISHER'S NOTICE

CONCL Y CYHOEDDWR

CELL Y GOLYGYDD