Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU Glan Banon, Medi 5ed, 1893. NWYL NITH BRONWEN,— Derbyniais dy lythyr caredig. Y mae yn an- mhosibl peidio bod o'r un farn a thi pan y dywedi ei 'fod yn resyn i'r un ddynes roddi heibio y domau hyny a feithrmwyd ynddi yn ei hieuenctyd drwy lawer o lafur, amser, ac arian; a mynych y clywir rhai yn dyweyd, "Y mae Hon-a-hon wedi myned i'r ystad briodasol, dyna derfyn ar ei chanu, chwareu y piano, neu y paentio," fel pe na buasai y medrusrwydd a enillodd drwy lawer o lafur a hyfrydwch o unrhyw les iddi i dori ar undoneiddrwydd ei nosweithiau, neu i beri amrywiaeth mewn treulio ambell awr hamddenol ar ol priodi. Y mae llawer dyn nad ydyw yn gerddorol o gwbl yn teimlo fod ei oriau hwyrol yn myned heibio'n ddifyrach lie byddo can a dyddanwch nac hebddynt. Nis gall tafod draethu'r dyddanwch a deimla dyn ar ei ffordd adref wrth feddwl am y croesaw sydd yn ei ddisgwyl gan wraig siriol sydd yn darparu pobpeth yn ei gallu i loewi ei dreialon a phelydrau serch ar yr aelwyd gartref. Y mae digon o wyr priod a dystiant mai jy ddwy neu y dair blynedd gyntaf o'u bywyd priodasol ydyw cyweirnod eu bywyd wedi hyny, a bod dedwyddwch bywyd priodasol yn dibynu yn benaf ar y wraig. Y mae y wraig nad yw yn blino talu sylw i angenrheidiau a dymuniadau ei gwr yn sicr o dderbyn ei gwobr yn y dyfodol yn mharhad diysgog ei serch. Ac heblaw hyny, y mae llawer merch ieuanc yn priodi y dyddiau hyn heb fod ganddynt yr un drychfeddwl na syniad pa fodd i gadw ty wedi hyny. Y mae llawer par ieuanc yn gorfod cychwyn eu byd gydag yehydig foddion pa faint o gysur gan hyny sydd yn dibynu ar wybodaeth y wraig am y dull y dylid defnyddio pobpeth a chyflawni dyledswyddau teuluol yn briodol, ac i wneyd y goreu o holl enillion y gwr. Os bydd geneth wedi ei dysgu i fyw yn gynnil ac i ddlbynu arni ei hun, ni fydd yn ddim gwaeth arni os digwydd iddi briodi dyn cyfoethog, tra, pe fel arall, nad ofnai wynebu tywydd anhysbys y dyfodol gan ei bod wedi ei dysgu i ymddiried llawer yn ei gallu ei hun i drefnu pethau. Ni chlywyd erioed son fod yr un wraig yn gofidio ei bod yn gallu troi ei ilaw at bobpeth o fewn cylch dyledswyddau teuluaidd, ond clywsom lawer yn cwyno fel arall, a bod llawer gwraig ieuanc yn teimlo fod rhyw greadur allan o'i elfen pan y byddo amryw- iol ddyledswyddau teuluaidd yn eu ham- gylchynu. Wel, y mae yn dda genyf glywed eich bod yn ddedwydd ddau," a bod eich rhagolygon yn ddisglaer. Y mae cadw golwg ar yr ochr oleu yn sicr o fod yn gymhorth i ymladd brwydr bywyd, ond yn sicr ni ddylid colli yr olwg ar yr ochr arall hefyd, ac anghofio y dichon i ddiwrnod gwlawog ddyfod. Y mae'r dyfodol yn anweledig ac yn hollol anhysbys i'r callaf ohonom, ac hyd y gallom, dylem ddarbod gofyfer a'r gwaethaf a'r dichon- adwy. Ac y mae Peris yn hoff o'i gymdeithas Jenyddol a'i gyfarfod canu," Wel, pobpeth yn iawn, a dylech chwithau fod yn hoffach fyth ohono oherwydd hyny, a chofio mai un o brif gyfrinion bywyd priodasol ydyw rhoddi a chymeryd mewn modd call a chariadus; y mac y dyn sydd bob amser yn rhwym wrth linyn ff edog ei wraig, yn rhwym o ddyfod yn gul ei feddwl am y byd allanol, ac yn ddrwg ei dymher. Yr wyf yn sicr na ddisgwyliech iddo fod yn ddyn cymdeithasgar, o natur dda, ac yn gym- ydog cariadus a chymeradwy gan bawb os bydd iddo hefyd dreulio ei holl oriau dan ei gronglwyd ei hun. The course of true love never seems smooth," meddai'r bardd mawr hwnw, ac yr wyf yn sicr fod genyt ti ddigon o synwyr i wel'd hyny, Bronwen. Maddeu i mi am ddweyd thydi wrthyt er dy fod wedi priodi. Yr hen enw ydi o Bronwen bach. Golyga rwan, dyma Sioii Edwards, Tanygraig yma, bob amser yn ddyn cynnil a diwyd mae'n siwi; ond mae'n well ganddo fod gartre'n siglo'r cryd a helpio ei wraig i gynllunio bratiau newydd i'r plant na myn'd i ysgol nos na chyfarfod yn y byd ac yntau wedi ei ddwyn i fyny fel llwdwn ar y myn- ydd. Gallwn i feddwl y byddai bywyd priodasol o ddeng mlynedd yn y dull yna yn oes hir ac undonol iawn. Nid all o na hithau byth ddweyd' "treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl;" oherwydd does dim byd yn romantic mewn bywyd fel yna. Yr wyf wedi addaw mynd am dro i Bod- hyfryd am ychydig ddiwrnodau, er lies fy iechyd, ac yna, at abi hi am fyn'd dros yr hen bethau drosodd a throsodd drachefn. Gyda cliofion serchog atoch eich dau, t, Eich Modryb, MARGED JONES.

[No title]