Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
PEIRIANNWR GWAEL
News
Cite
Share
PEIRIANNWR GWAEL BETH am y peiriannwr newydd yn eich chwareudy, Mr Hopkins ?" MR HOPKINS Dyn digon gonest, ond fedr o ddim gwneyd ffurfafen gymylog, ac un o'r rhai sala fu erioed am wneyd haul a lleuad. Rown i ddim tair ceiniog am gant o raiadrau fel yr un a wnaeth y dydd o'r blaen, ac y mae ei gymylau y cymylau mwyaf an- olygus a ymddangosodd ar ben ffurfafen er dyddiau Noah. Y mae ei ser yn go lew, ond gorfu i mi anfon y saer yno i gnocio ei enfys o yn shwtrws, doedd hi werth dim. Mae o yn ddyn digon didwyll bid siwr; ond os na fedr o wneyd gwell haul, lleuad, ac enfys, rhaid i mi wneyd hebddo."
Advertising
Advertising
Cite
Share
BENDITH I FEECHED. JLJ Y FEDDYGINIAETH FWYAF GWYRTHIOL a ddarganf) ddwyd erioed i holl anhwylderau merched. Symuda ymaith bob rhwystr. Mae y feddyginiaeth rhyfeddol hon yn rhyddhau pob arwyddion blinderus, yn arbed biliau meddygol, ac yn cadw yr iechyd. Trwy wneyd defnydd ohono y mae miloedd wedi eu lhyddhau, fel y tystiolaethir gan luaws o lythyrau cymeradwyol nas gofynwyd am danynt. Parthed pslenau, diwerth ydynt siomir pawb ynddynt. Anfoner amlen wedi ei stampio am restr y prisiau a chopiau o'r tystiolaethau, y rhai a warentir yn wirioneddol, dan ddirwy o 1000p, Y maent yn agored i'w gweled a'u barchwilio. Yr unig feddygin- iaeth effeithiol ar y ddaear. Profwch a bernwch drosoch eich hunan. A. DASMAIL, 289, Langdale, Walchamstow (Sefydlwyd, 1851). Entered at Statoners Hall. Just Look Here! cHA PATENT %p aS. l2 D- s.ia ly fit Pro-prittor ST. SHIRE, ENCLAND. t ,AM!S io.'IM IT H E' LE''ll 6,000,000 Boxes Yearly, Which means Every time the Clock ticks 11 BEECHAM'S PILLS Have reached their destination. For Half a Century -1 -N BEECHAM'S JPIIjTjS Have been Globe-trotting,' and have worked their way into the innermost parts. It'S Well t0 kn°W a (f00D THING when you see it, It's Better t0 HAVE A G00D THING when BEECHAM'S PILLS should always be handy, and banded down to posterity as WORTH A GUINEA A BOX. Life is too short; then we should do our best to prolong Sufferers will find BEECHAM'S PILLS a I trump card' to 'put down.' THEY SWEEP THE DECK' of Bilious and Nervons Disorders, Sick Headache, Liver Complaint, Impaired Digestion, Weak Stomach, Constipation, Uncomfortable Fulness, Loss of Appetite, And they regulate the Secretions.
PENNOD XX.
News
Cite
Share
ac yna aeth y ddau ieuanc o'r neilldu i gael ymgom a'u gilydd. I I Mae pobpeth wedi cael eu setlo, Maggie," ebai Pyrs y foment yr eisteddodd i lawr, gwelais hen ffrind i nhad yn Nghaer, ae yr wyf wedi cytuno i fyned allan i Canada i ofalu am fferm fawr sydd ganddo ef yn y wlad hono, ac mae genyf bob rhagolwg am gael fferm o'n heiddo ein hunain yn mhen dwy flynedd. Nid oedd ef yn myn'd yn ol, y mae yn aros adref i farw a chael ei gasglu at ei dadau yn yr hen wlad," meddai ef. "Ac yr wyf wedi prynu tocynau i chwi minnau a mam i fyn'd drosodd yn un o agerlongau goreu sydd yn croesi y Werydd, a bydd hono yn hwylio o Lerpwl prydnawn dydd Iau nesaf." Dydd Iau nesaf ?" gofynai Maggie mewn ton braidd yn brudd. Ie, pa'm ? Ydi yn edifar genych addo dod gyda mi, cariad ?" "Na, nid hyny, Pyrs, nid dyna bedi'r mater, ond Ond beth ?" Y mater mewn gwirionedd oedd fod Maggie bron tori drwodd i ofyn i Pyrs beth oedd Harri yn feddwl pan yn dyweyd y gallai ef atal iddynt briodi, ond yr oedd arni ormod o gywilydd, neu ofn, neu rywbeth o'r fath, i ofyn y fath gwestiwn i'w darpar- wr rhag iddo dybio nad oedd ganddi hi ddim ymddiriedaeth ynddo. Felly, trodd yr ym- ddyddan rhag i Pyrs ofyn ei gwestiwn olaf, a hawdd oedd iddi wneyd hyny drwy bi fod ef yn llawn o newyddion da ac yn berwi drosodd o frwdfrydedd yn y rhagolwg am gael myn'd yn mhell o le oedd wedi dod mor ddiflas yn ei olwg a Dolgynfi. Bu'm mewn swyddfa cyfreithiwr, hefyd, Maggie-y twrnai mawr o Gaer, wyddoch, yn tynu allan weithredoedd yn enw Harri yn trosglwyddo drosodd iddo ef bob hawl sydd genyf fi ar Dolgynfi, ac yrwan gall Harri wneyd fel y myno a'r holl eiddo, a mawr les wnelont iddo, ddywedaf fl." Fel hyn bu'r ddau yn ymddiddan am gryn amser, neu yn hytrach-yn groes i'r cyffredin -y llanc oedd yn siarad y cwbl y tro hwn, a'r eneth yn bur ddistaw a phrudd, ond nid oedd Pyrs yn sylwi ar hyny gan fod ei lawenydd a'i frwdfrydedd ef oherwydd dyn. esiad amser gollyngiad y gaethglud o Dol- gynfi, chwedl yntau, wedi llenwi ei feddwl yn ormod iido allu cymeryd fawr o sylw o'r edrychiad ymofyngar daflai Maggie arno ambell dro fel pe ar fedr gofyn rhyw- beth pwysig iddo. Wel, nos dawch, Maggie bach, rhaid i mi throedio hi tua'r lie yna ydwyf yn alw yn gartref. Cewch fy ngweled yforu eto, yn y capel." Nos dawch, Mr Hopcyn,"—ac wedi canu yn iach a Maggie amryw weithiau wedyn yn y drws cychwynodd Pyrs o ddifrif am gartref. Pan yn pasio drwy bentref Llwyndyrus gwelai fod cerbyd a cheffylyn sefyll gyferbyn a'r dafarn, a phen y ceffyl wedi ei rwymo wrth bost y llidiard. Ar ol dynesu canfu mai cerbyd Dolgynfi ydoedd, a deallodd sut yr oedd pethau—Morris wedi mynd i lawr am lasiad ac wedi eistedd yn y ty ac anghofio pobpeth am y ceffyl oedd oddiallan. Neidiodd Pyrs i'r cerbyd, wedi datod pen y ceffyl oddiwrth y post, a gyrodd ymaith heb alw ar Morris. Yr oedd Morris i fewn er's meityn, wedi ei lyncu i fyny gan yr ystraenon am fwganod a drychiolaethau adroddid gan hwn a'r llall o bwrpas er codi ofn arno, gan fod pawb yn gwybod mai un anarferol o ofnus oedd Morris druan. Yr oedd yn cymeryd arno beidio credu yr ystraeon, ond er hyny yr oeddynt hwy a'r ddiod yn dechreu cael effaith arno. Meddai, mewn llais uchel, ar ol gwrando ystori fwy dychrynllyd o gelwyddog na'r gweddill, Bydda yn haws gin i gredu nad ydi'r ceffyl a'r car yna ddim o Raen y ty yma r fynd yma na chredu ystori yna." Pwy ddeuai i fewn tra yr oedd yn dyweyd y geiriau ond yr hen Ddan y Goesbren—neu'r Siop Wen-ac meddai hwnw, Wel, ynte, mi dd'wedaf fi wrthat ti nad oes yna 'run car na cheffyl o flaen y ty yma heno, beth bynag." "Taw a, dy lol, Dan, a finna f'hun wedi rhwmo pen y ceffyl wrth bost y llidiart. Rhaid dy fod ti'n ddall." Dall ne beidio, 'does yna 'run ceffyl j ti rwan, beth bynag; ma'r bwgan a'r ysprydion wedi myn'd a fo yn reit siwr." Aeth Morris allan yn ffwdan i gyd, a'r dynion ereill ar ei ol, ac wele lie y ceffyl oedd wag. Well Ar fengoch i I" a dyna'r cwbl allodd Morris, druan, ei ddyweyd. Safodd a/i gefn ar bost y llidiard, gan yspio o'i gwmpas fel pe yn disgwyl i'r ceffyl ddisgyn i'r lie o'r cymylau. Tra yr oedd hyn yn myned yn mlaen yn y pentref, yr oedd Pyrs yn cyrhaedd adref. Wedi iddo roddi y ceffyl yn yr ^ystabl a myned i'r ty, dyna lie yr oedd ystwr mawr, y morwynion yn rhedeg yma a thraw, a rhai ohonynt fel pe yn wylo, oil yn edrych yn ddychrynedig. "0, meistr Pyrs anwyl, p'le mae'ch mam ?" gofynai un. 11 Mam I Onid ydyw yn ei hystafell," gofynai yntau, ag ias o deimlad annesgrif- iadwy yn myned drwyddo. Nag ydyw yr ydym wedi methu cael hyd iddi er's oriau." Rhuthrodd Pyrs i fyny i ystafell ei fam, ond nid oedd hi yno. Canfu rai o dr6rs y chest of drawers, lie byddai yr hen wraig yn cadw ei dillad, yn agored chwiliodd yntau bob un ohouynt, a chafodd hwy yn wag. Yr oedd ei fam wedi myned, ac wedi cymeryd ei dillad gyda hi. I pa le ? Paham ? Harri I 0, y bwystfil creulon I" ebai Pyrs wrtho ei hun tra yn myn'd i'w ystafell ei hun. Ar y bwrdd yn hono yr oedd llythyr wedi ei gyfeirio At fy mab Pyrs," yn llawysgrifen ei fam. (I'w barhau.)