Hide Articles List

3 articles on this Page

PENNOD XIX.

News
Cite
Share

PENNOD XIX. CHWARELWYR YN PETRUSO. Nid oedd ond rhyw ddwy filldir a banner rhwng Dolgynfi a'r orsaf agosaf, ac felly oferedd fuasai i Morris aros i lawr efo'r cer- byd o'r boreu hyd adeg cyrhaeddiad y tren prydnhawnol gyda pha un y disgwylid Pyrs yn ol o Gaer. Pan yn gyru yn ol, wedi danfon Harri i ffwrdd, goddiweddodd hen wr oedd yn cerdded i fyny i gyfeiriad y pentref yn Nghwm Caledffrwd, a dywedodd wrtho am ddod i'r cerbyd. Hen chwarelwr ydoedd, yr hwn oedd wedi treulio ei oes i weithio ar ochrau llechfynyddoedd Arfon, ac wedi gweled y chwareli oeddynt erbyn hyn yn rhai ddigon eang i gynnwys gwaith i filoedd o bobl-wedi eu gweled yn cael eu datblygu o fod yn dyllau digon anolygus ar y cyntaf. Bedach chi am neyd tia'r dydd Mercher yma, Sion William," gofynai Morris. Wel, twn i ddim be na i wir, weldi; mae hi dipyn yn dop arna i fel ag y mae petha rwan, ond os awn ni allan o'r chwarel acw wn i ddim be ddaw ohona i." "Mae yma ddigon o dwrw efo'r Undeb yma, yn toes ?" 11 Wel, oes wir, weldi, mwy nag sy isio o lawer, yn y marn i." "Be! Tydach chi ddim o blaid undeb, Sion William ? 'Ron i yn meddwl y'ch bod chi. Rydach chi yn un go arw am deud y'ch meddwl, digiad a ddigio." Mi fydda i yn arfar deyd y marn wrthyn nhw yn y bone acw, digiad nhw ne beidio, a marn i am undab ydi hyn yn blaen a dilol— mae o yn beth iawn os bydd o yn ddigon cry, ac os ma rhiw freuddwyd o undab fydd o mi fydda'n well iddyn nhw fod hebddo fo o gwbwl, achos neiff o ddim ond i harwain nhw i drybini ne gilydd o hyd." Bedach chi'n feddwl wrth freuddwyd o undab?" Wel, mi ddweda i ti; dyma fo'n inion. Ma'r undab yma y mae nhw yn mynd i sefyll drosto fo ddydd Merchar nesa wedi gynllunio yn iawn ag eithrio un man gwantan ofnadwy, a hwnw ydi'r taliad misol. Bedi taliad o 6c y mis i bob aelod! Dim ond ceiniog a dimai yr wsnos, pris hanner owns o faco, weldi. Lol botas i gid! Fasa'n well ginitasa nhw heb feddwl am ffurfio undab yn ol y taliad yna na'i bod nhw yn mynd roid i troed yni hi fel yna. Gneyd cortyn i grogi i hunen yn hollol efo fo ydi peth fel yna. Er mod i wedi mynd i gryn lawar o oed, ac wrth gwrs yn methu ynill dim llawar 'rwan gan y mod i wedi troi i rybela er's tro, ond er y cwbwl mi fasa'n well gin i dalu chwe cheiniog yr wythnos-dau swllt y mis, dallta di- i'r undab na bod yn perthyn i undab dimai fel yna." Ond be na nhw'n ddeyd wrthach chi pan fyddwch yn dadla fel yna efo nhw." 0 1" a thynodd yr hen wr wefus hir, gan boeri llonaid ei safn o siig tybaco dros ochr y cerbycl-11 mae nhw i gid yn rhy ddoeth i wrando ar hen ddyn fel fi. Ma rhw hogia deunaw ne igian oed yn gwbod mwy o lawar na phobol sy' wedi gwel'd cymint ddwy- waith a nhw o'r byd ac o fiynyddoedd. Ond mi wasgis i arnyn nhw un diwrnod yn y caban acw i ateb fy rhesymau i, a dyma be ddeudodd y sawl atebodd dros y lleill—deyd ddaru o nad ydi'r tal yn ddim rhw lawar o bwnc, ma'r eidia o undab ydi'r peth, ac fod cael gin rhw ddeng mil o chwarelwrs dalu y mis yn fath o rwymyn undeb am danyn nhw i gyd. Glywist di rioed y fath lol, dywed Morris? Ac ma nhw ddydd Mercher nosa yn myn'd i sefyll allan—ac i lwgu am fisoedd, hwyrach—a'r cwbwl dros ddim byd mwy sylweddol nag eidia o undab. Mi fydda cronfa o hanner can mil o bunna yn yr undab yn well eidia o lawar na rhw hen gyrbotsh gwirion fel yna. Marcia di, Morris, os cawn ni yr undab fel y mae o wedi blanio rwan, fydd o yn werth dim i ni ddibynu arno fo pedae streic ne rwbeth felly yn digwydd, ond mi fydd yn sicir o'n tynu ni i rw drwbwl o hyd drw neyd i ni goiio fod gynon ni undab, or ma undab papyr fydd o. Amcan pob undab fel hyn ddyla fod gneyd y gweithiwrs fel dosparth yn ddigon cryfion i fynu cael 'u hiawndera, doed a ddelo, ond sut y medar eidia o undab neyd hyny os na fyddo gyno fo y pres angenrheidiol ? Ma gin y meistr ddigon o filoodd wrth 'i gefn i ymladd batl, ond faint o filoedd fydd gynon ni yn yr undab yma yn mhen deg mlynedd? DeLoe mi glywis rw ddyn go ddoniol sy'n y bone acw, ac sy o'r un farn a finna, yn galw yr undab yn ddrychfeddwl barddonol, ond hollol anym- arferol, ac wirionedd i, roedd yr enw yn 'i ffitio fo i'r dim. Ma nhw'n deyd i mi ma'r beirdd yma, a'u cymryd nhw at 'u gilidd, ydi'r set o'r bobol fwya diddim a diwerth at 'u bywoliaeth o unrhyw bobol dan dwniad haul, 'u bod nhw yn ymborthi ar wynt, ac yn byw yn y cymyla heb gymint a myn'd i'r drafferth o edrach i lawr o'r cymyla i wel'd sut ma'r byd mawr o danyn nhw yn myn'd yn mlaen. Faswn i yn meddwl ma gwaith beirdd o'dd cynllunio y rhan daliadol o'r undab, achos fasa neb ond pobol an- wybodus o'r byd a'i ffyrdd fel y beirdd yn meddwl am roi y rhan bwysica yn isa a lleia ei phwys ar draul codi drychfeddwl gwyntog, ne eidia, chwedl nhwtha, i fyny fel llo aur." "Wel, felly dydach chi ddim am sefyll allan ddydd Merchar-y fargen fydd hi efo chi, mae'n debyg I" 0, nage, machgen i; yr ydw i yn disgwil y daw y dynion i wel'd 'u camgymeriad efo swm taliada'r undab cin pen blwyddyn no ddwy, ac y bydd iddyn nhw 'u dyblu nhw, beth bynag. Eitha peth hefyd fasa cael rhw ifath o glwb cleifion, ne rwbeth felly, i fiawn yn yr undab mi fasa hyny yn gneyd i lawer mwy i joinio yr undab, ac yn 'u cadw nhw yn aeloda wed'yn, achos peth garw ydi teimlo fod gin ti arian mewn rhwbeth felly, wyddost. Na, 'rydw i am beidio myn'd at 'y ngwaith fel nhwtha, os peidio 'na nhw; fel y dwydis i o'r blaen, toes gin i ddim bargen rwan i'w gwrthod, achos rybela ydw i. Ond os na chwanega nhw y taliada 'rwyn siwr ma i hyn y daw hi efo'r undab yn y diwadd—mi creiff 'i anghofio pan fydd pob- peth yn myn'd yn iawn, a phan ddaw storom fydd o yn werth dim i bwyso arno. Felly, dyna pa'm 'rydw i yn dal i ddeyd o hyd y bydda'n well iddyn nhw heb undab o gwbwl na breuddwyd o undab, achos breuddwyd bardd ydi peth fel hyn heb y pres, machgen i; neiff yr eidia ore fuo rioed o undab ddim cadw teulu rhag llwgu adeg streic pres yn y gronfa neiff hyny." Erbyn hyn yr oeddynt wedi cyrhaedd pentref Llwyndyrus, a theimlai yr hen wr dipyn o syched ac hefyd dan ddyledswydd i roddi glasiad i Morris am gael lift. Felly aeth y ddau i fewn i'r unig dafarn oedd yn y lie, ar ol rhwymo pen y ceffyl wrth bost llidiard gerllaw. Yr oedd yno amryw ddynion yn eistedd a gwydrau o'i blaenau, ac wrth gwrs cwcstiwn yr ymddiddan oedd beth a wnai y chwarelwyr y dydd Mercher dilynol. Yr oedd llawer o siarad wedi bod am y peth er's wythnosau a misoedd, ond erbyn hyn wele y digwyddiad mawr gerllaw a dydd y prawf wrth y drws, oblegid yr oedd yn awr yn ddydd Sadwrn a'r pedwerydd diwrnod ar 01 hyny fyddai y diwrnod hir-ddisgwyliedig pan y ceid gweled a oedd gan chwarelwyr Eryri asgwrn cefn a'i peidio. Safan nhw byth yn gefn i'w gilydd, gei di weld," oedd y sylw cyntaf glywodd Morris wrth fynd i fown. Clamp o ddyn mawr fyddai'n dod i fyny i'r ardal o rai o'r tren i werthu caws oedd y siaradwr, ac ych- wanegodd, mae nhw yn rhei iawn i siarad yn ddoniol ac i godi eu llaw dros benderfyn- iada, ond pan y daw hi yn fatar o ddiodda ac aberthu tipyn dros eu penderfyniada nan nhw ddim, ma'n nhw'n rhy agos atyn i hunen o lawar." Felly! Ond rydw i yn meddwl fod digon o blwc ynyn nhw i sefyll yrwan beth bynag," atebai un arall o'r cwmni. Mae'r cwbwl yn ddibynu dydd Merchar nesa ar beth neiff y rhei cynta yr eiff y gosodwrs atyn nhw; os safiff y rhieni yn gadarn gewch chi weld yr eiff yr holl waith allan." Yfodd Morris ei ddiferyn ac aeth yntau allan" gan gyrhaedd Dolgynfi yn fuan wedyn.

PENNOD XX.

DIRGELWCH DOLGYNFI neu Pwy…