Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DIRGELWCH DOLGYNFI neu Pwy…

News
Cite
Share

DIRGELWCH DOLGYNFI neu Pwy oedd yr Etifedd ? PENNOD XVIII.-PARIIAD. Y DDRYCHIOLAETH YN NOLGYNFI. MNEILLDUODD Harri i'w orphwys- fan y noson hono mewn cyflwr cy- thryblus iawn o ran ei feddwl. Fel y delai i sylweddoli pethau yn gliriach, yr oedd un ffaith yn sefyll allan yn fwy eglur yn barhaus, ac nis gallai fod yr un amheuaeth yn nghylch ei chywirdeb, a hono oedd nad oedd Pyrs yn perthyn dim i Maggie, fod ganddo felly hawl i'w phriodi, a chan nad pwy oedd y dyn dieithr a gam- gymerid gan bobl yn lie Pyrs, rhaid mai ei frawd ef oedd Pyrs Dolgynfi. Gwelai Harri ar un llaw, os oedd am wahanu Pyrs a Maggie, y byddai raid iddo bellach arfer twyll,—a'r twyll a'r creulondeb mwyaf. Hyd yma yr oedd wedi gonest feddwl mai hanner brawd Maggie ydoedd Pyrs, ac felly yr oedd ganddo ryw gymaint o esgus dros ym- ddwyn tuagato fel y gwnai, ond bellach wele ef yn hollol argyhoeddedig mai ei frawd ef oedd Pyrs, ac nad oedd yn perthyn dafn o waed i Maggie. Felly, os oedd Harri am gario allan ei fwriadau yn nglyn a'r ddau, rhaid fyddai iddo bellach wneyd hyny ar draws ei argyhoeddiad a'i gydwybod, gan wybod yn dda ei fod yn ymddwyn yn waeth tuagat ei frawd ei hun nag y buasai yn ym- ddwyn hyd yn nod at greadur direswm. Ond a wnai efe hyn ? Dyna'r ewestiwn fu yn ei flino ar hyd y nos. Ni chysgodd nemawr, a phan hunodd am ychydig breu- ddwydiodd weled Pyrs a Maggie yn wr ac yn wraig, yn byw yn ddedwydd yn Dolgynfi, ac yntau yn alltud heb geiniog goch ar ei elw, yn crwydro y wlad, gan fyw ar elusen hwn a'r Hall. Deffrodd mewn ewylltineb, a thyngodd na chaffai ei freuddwyd byth ei sylweddoli. Boreu dranoeth, pan aeth i lawr o'i ystafell wely, yr oedd llythyr yn ei ddisgwyl. Canfu ar unwaith mai llythyr oddiwrth Ellen Pugh ydoedd, a darllenai fel y canlyn:— Anwylaf Harri,Dwn i ddim beth ydyw'r mater efo mi, ond mae fy llygaid yn rhoi llawer iawn o boen i mi, ac yr wyf bron wedi myn'd i fethu gwel'd. Fedraf fi ddim eu hagor yn y boreuau, ac yn wir, Harri anwyl, mae arnaf ofn fy mod yn myn'd i golli ngolwg. Yn mhen ryw wythnos wedi i mi ddod yma daeth mab Nansi Morgan, gwraig y ty tafarn yma, adref, a gwelais ef. (Jredais yn sicr, pan welais ef yn dod adref, mai eich brawd Pyrs oedd efe, a Pyrs ydi ei enw yntau hefyd ond hwyrach, mai yr helynt yma sy' ar fy llygaid i oedd yn peri i mi ei gamgymeryd am eich brawd. Wedi i'w fam ddyweyd o p'le yr oeddwn i wedi dwad, daeth ataf a holodd lawer iawn arnaf. Gofynodd sut ardal oedd ardal Cwm Caled- ffrwd, sut dy oedd Dolgynfi, a oedd yno arian, sut un oeddech chi a'ch mam. Aeth i ffwrdd i rwle y bore wed'yn, ac mae o heb ddod yn ol eto, a dwyr ei fam ddim o'i gerdded o y tro yma mwy na throion o'r blaen." Dyna'r llythyr, hyny yw, yr oil ohono sydd yn dal unrhyw gysylltiad a'r hanes hwn. Pe buasai Harri wedi cael y fath lythyr wythnos yn nghynt buasai yn synu yn fawr oherwydd gwaith Ellen Pugh yn cam- gymeryd mab y dafarn am Pyrs ei frawd, ac yn enwedig oherwydd gwaith y dyn yn holi cymaint ar Ellen yn nghylch Dolgynfi. Ond yr oedd digwyddiadau diweddar wedi paratoi ei feddwl fel nad achoswyd ynddo ddim syndod wrth ddarllen y llythyr— gwyddai bellach mai mab y dafarn oedd y "ddrychiolaeth" ddychrynai bobl mor ami yn Nghwm Caledffrwd y dyddiau diweddaf hyny. Ond pwy oedd mab y dafarn ? Hanner brawd Maggie, efallai-neu dyna y penderfyniad y daeth iddo y noson flaenorol; ond erbyn meddwl am y peth yr oedd an- hawsderau ar ei ffordd i gredu hyny. Yn un peth, gwelai oddiwrth lythyr Ellen Pugh fod y dyn hwnw yn cael ei ystyried fel mab Nansi Morgan, yr hen dafarnwraig, ac nid oedd ganddo yntau le i gredu dim yn amgen. Ond eto, os felly, paham yr oedd y dyn wedi holi cymaint ar Ellen Pugh yn nghylch Cwm Caledffrwd, ac ynneillduol paham yr oedd wedi dod i lawr yr holi ffordd o sir Fflint i'r cwm anghysbell hwnw, fel yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneyd ? "Yr unig beth allaf wneyd," ebai Harri ynddo ei hun, tra yn myfyrio uwchben y llythyr, yw myn'd i Gaernarfon at Wynn y bore yma. 'Doedd ef ddim yn fy nghredu pan dd'wedais am y dyn yma o'r blaen; rhaid iddo fy nghredu yn awr ar ol i'r dyn fod yn Dolgynfi fel y bu neithiwr, ac yn enwedig pan y mae'r llythyr yma genyf. Ond eto i gyd," meddai, ar ol mynyd o ystyriaeth bellach, nid wyf yn sicr, ryw- fodd, y gallaf ymddiried Wynn hefo phob- peth wyt yn wybod. Tybed fod y twrnai yna yn onest tuagataf ? Gwn y buasai yn gwerthu ei enaid ei hun i'r diafol er mwyn cael arian pe gallai, ac mae'n lied sicr y gwerthai finnau hefyd os rhoddai rhywun fwy o arian iddo am hyny nag y mae yn gael am fy ngwasanaethu fi. Y peth gore i mi fydd cadw fy nghyfrinach fy hun hyd nes y caf wel'd beth ddaw o'r pethau hyn oll, gan ar yr un pryd gymeryd arnaf ymddiried yn llwyr yn Wynn. Mae arnaf ofn y gwalch yna er's tro bellach; gwn beth wnai pe meiddiai er mwyn cael arian." Ond er penderfynu fel yna nid oedd Harri fymryn nes i ddod i wybod pwy oedd y "drychiolaeth," a beth oedd busnes mab y dafarn yn holi Ellen Pugh yn nghylch Cwm Caledffrwd. Mor wir y dywed yr Hen Lyfr am ffordd troseddwr-mai caled ydyw ? Dyma Harri yn awr wedi cyrhaedd pwynt yn ei fywyd yn mha un y mae dwy ffordd yn ymagor o'i flaen. Ond dewis un gallai adael llonydd i Pyrs a Maggie yn eu dedwyddwch, a chawsai yntau fyw gyda chydwybod dawel; ond dewis y Hall gallai fyned yn mlaen i dwyllo drwy honi pethau y gwyddai erbyn hyn mai celwydd oeddynt, a thrwy hyny achosi aned- wyddwch am eu hoes i'w frawd a'i briodas- ferch. Penderfynodd ddewis y ffordd olaf, a'r foment y trodd iddi wele ofnau ac am- heuori yn dechreu ymgrynhoi o'i gwmpas- ofnai ddilysrwydd Wynn, ei gyfaill penaf, ofnai i'w gynlluniau droi allan yn fethiant, ac yn benaf oil ofnai i'w ddrygioni ei hun ddod i'r amlwg ac iddo yntau gael ei gospi. Gwelai ei fod yn myned fwy-fwy i afaelion Wynn, yn enwedig yn awr ar ol rhoddi awgrym i hwnw fod Pyrs, wedi'r cyfan, yn frawd o waed coch cyfan iddo ef, oblegid o'r foment y cafodd hyny allan byddai ei gyn- lluniau yn erbyn Pyrs yn dwyll noeth ac an- esgusodol. Ond gwar-galed oedd Harri erioed, ac wedi bygwth cymaint wrth Maggie y gallai efe ei gwahanu hi a'i gwr a gair o'i enau ni chymerasai lawer am ystwytho i dynu ei eiriau yn ol. Na, yr oedd am eu cario allan i'r llythyren, os gallai. Ac heb- law hyny onid oedd Dolgynfi a'r eiddo yn werth gwneyd ymdrech i droi Pyrs ohonynt er mwyn iddo ef ei hun eu cael ? Felly, a'i lygaid yn agored, dewisodd Harri ffordd troseddwr, a chaled fu iddo, fel y ceir gweled yn mhellach. Yn awr, pa fodd yr oedd iddo ddod o hyd i'r dirgelwch yn nghylch mab y dafarn yma o sir Fflint ? Yr unig ffordd y gallai efe feddwl am dani, gan fod arno ofn datguddio llawer ychwaneg yn ei gylch i Wynn, oedd myned i sir Fflint ei hun, ac i'r Colliers Arms a holi yr hen Nansi Morgan yn nghylch ei mhab er cael allan y gwir a ydoedd efe yn fab iddi ai peidio. Dyna fe," meddai wrtho ei hun, dyna'r unig beth sydd i mi i'w wneyd, ac nis gallaf feddwl am ddim gwell na mynd i lygad y ffynnon ar unwaith. Ond a gwauodd ias o ofn eto drwy ei feddwl, "sut y daeth Wynn i wybod gyntaf am y dafarn yna ? Y fo soniodd am dani gyntaf wrthyf fi fel lie iawn i anfon Ellen Pugh iddo; a chan gofio, dywedodd hefyd fod yno fab, yr hyn a ystyr- iai fel cymhelliad ychwanegol i anfon yr eneth yno. Y maeWynn yn gwybod mwy am y dyn yna nag y mae yn gymeryd arno wrthyf fi. Dyna sydd amlwg, ac yn awr, faint allaf drystio ynddo. Gwn y bradychai efe fi mewn moment oni bae ei fod yn gweld fod arian i'w cael wrth fy ngwasanaethu. Wel, mae'r mater yma yn mynd yn dywyll- ach i mi bob moment; ond sut bynag, at sir Fflint heb yjadroi." Wedi unwaith wneyd ei feddwl i fyny ni byddai Harri un amser yn hir cyn cario ei fwriadau i weithrediad. Felly dechreuodd hwylio ei hun rhag blaen i gychwyn. Os arhosai y dyn dyeithr yn nghymydogaeth Cwm Caledffrwd am ychydig ddyddiau yn hwy goreu oll;, gallai Harri felly, fel ytybiai ef, fyned i'r dafarn a holi yr hen wraig heb ofn i'w mhab ddod yno i ymyryd. Treuliodd Harri ran fawr o'r diwrnod hwnw yn swyddfa ei chwarel newydd, oblegid yr oedd yno amryw bethau eisieu eu trefnu cyn ei fyned ymaith, gan na ddeuai ynol efallai hyd ar ol y dydd Mercher wedyn, y diwrnod gosod a'r ddiwrnod yr oedd Mr Robertson Jones i gymeryd gofal y lie—a chyda llaw, diwrnod priodas Pyrs a Maggie. Yn gynar y bore dilynol yr oedd Harri yn fcarodi gychwyn. Aeth i ystafell ei fam a