Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DYFODIAD Y RHUFEINIAID I BRYDAIN

News
Cite
Share

DYFODIAD Y RHUFEINIAID I BRYDAIN Y CYNTAF o'r Rhufeiniaid a adnabu Ynys Prydain oedd Iwl Caisar, a hyny oedd o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. Gwr oedd hwn o yspryd eang, yn rhyfelwr o'i febyd, ac yn chwenych, fel Alecsander Fawr, oresgyn yr holl fyd, a inyned yn glodfawr, Blaenrhed wrth fyned oedd fo, Ac olaf pan fa'i gilio." Wedi i Iwl Caisar ddarllen y llythyr hwn, a gweled bwriad disysgog y Brutaniaid i ymladd Ag ef, dirfawr lid a gymerth ynddo ei hun, ac a ddywedodd wrth ei uchel- swyddbgion, Chwi a welwch mor anfoesol a sarug y'm hatebasant, ond odid ni a WDawn iddynt laesu peth o'r dewrder a'r taiogrwydd hyn." A hwy a atebasant, A gymeri di, o Caisar, dy lwfrhau gan wag- ymffrost barbariaid? Ni a wyddom yu amgen. Wele ni yn barod i ymladd wrth dy ewyllys tra byddo defnyn o waed yn ein cyrph. Ac ar hyny Caisar a ymwrolodd, ac a gynnullodd ei sawdiwyr (filwyr) vn nghyd, sef oedd eu rhifedi, pum' mil ar hugain o wyr traed, a phedair mil a phum' cant o wyr meirch, ac mewn pedwar ugain o ysgraffau, a fordwyodd, efe a'i wyr, tuag Ynys Prydain.-Drycn, y Prif Oeaoecld,