Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
MAE'R BYD YN LLAWN 0 GASTIAU
News
Cite
Share
MAE'R BYD YN LLAWN 0 GASTIAU Y CAST olaf y clywsom am dano ydyw hwn Dyn ieuanc yn Efrog Newydd yn dal am swm mawr o arian y gallai ef garu, enill serch, a phriodi y foneddigcs ieuanc oeddynt newydd weled yn cyrhaedd yr hotel lie yr oedd ef a'i gwmni yn aros. Cyflwynodd ei hunan i'r foneddiges, gwenodd hithau arno, a chydsyniodd galwyd am weinidog i mewn, ac yr oeddynt wedi priodi yn mhen yr awr. Fe dalwyd arian y cynghwystl i'r priodfab, yr hwn yn nghyda'r briodasferch a ym- adawsant y boreu canlynol. Cafwyd allan wedi hyny fod y cwpl wedi bod yn byw gyda'u gilydd er's amser hir fel gwr a gwraig, a'u bod yn trafaelio gyda'u gilydd, gan chwareu castiau cyffelyb mewn (amryw hotels. I
.AWDURES CAPAN F'EWYTHR TWM
News
Cite
Share
AWDURES CAPAN F'EWYTHR TWM Y MAE Mrs Harriet Beecher Stowe dros ei phedwar ugain oed, ond yn dal i gymeryd 'ddyddordeb mewn llenyddiaeth, ac yn en- wedig yn y llyfr a wnaeth ei henw yn enw teuluaidd drwy Ewrop ac America. Dyma lythyr a anfonodd yn. ddiweddar at ei chy- hoeddwyr—" Y mae argraphiad bychan tlws Brunswick o Gaban F'ewythr Twm, gyda'i deitl hyfryd wedi dwyn yn ol i'm cof y dyddiau dedwydd gynt, dyddiau llafur mai'n wir, ond dyddiau o nerth a gobeithion. Fel yr oeddwn yn cymeryd y llyfryn bychan .,yn fy llaw dychymygwn glywed murmur hyfryd y llanw yn y pellder yn morgilfachau dedwydd Maine, ac arogl bersawrus y bal- sam a'r hemlock, y ffawydd a'r pinwydd, sy'n borderu'r glanau dedwydd hyny. Drychfeddwl hapus oedd enwi'r argraph- iad bychan destliis hwn oddiwrth le genedigol y gwreiddiol. ,¿",
tY FAM A'R PLENTYN
News
Cite
Share
t Y FAM A'R PLENTYN RAID i mi bob amser adrodd fy ngweddiau cyn myned i ngwely 2" gofynai bachgen i'w 'fam. Rhaid." Ond os bydda i yn leicio eistedd i fyny -drwy'r nos, raid i mi ddim 'u deyd nhw, Jra d i mi?" ) Rhaid." I Paham ?" i Oherwydd dy fod mewn angen am i ("Dduw dy fendithio di. I Mendithio i ?" i "Ie cymeryd gofal ohonot a'th achub di." V* I IF' achub i ?" I i Ie, a'th gymeryd i'r nefoedd ar ol marw." Ac os gofynaf iddo a wneiff o ?" Y Gwnaiff." "Sut yr ydych chi'n gwybod ?" Y mae'r Beibl yn dweyd hyny." 1 Ydi'r Beibl yn son am dano i ?" Mae o'n son am blant bychain." j A dynion hefyd ?" I Ydyw." "A merched wedi tyfu i fyny ?" Ie." „ Sut yr ydych chi n gwybod V" "0, dydw i ddim yn gwybod, Er mwyn pobpeth bydd yn ddistaw a gad i mi ddar- llen." Darllen pa beth 2 "Darllen chwedl." Chwedl am ba beth 2 Am ryw ddyn a dynes, a llawer o bethau." Ydi hi'n chwedl ?" "Ydyw." "Paham na ddarllenech chwi rywbeth gwir ?" Os gofyni di ragor o gwestiynau heno rhaid i mi dy ehwipio di." Ond fe gaf ofyn cwestiwn arall yn y boreu oni chaf fi ?" Cei siwr." Ond y mae yn rhaid i mi beidio gofyn dim rhagor o gwestiynau heno, yn rhaid ?" Rhaid; ac os gwnei di, mi fyddaf yn siwr o dy ehwipio di." Ofyna i yr un cwestiwn eto heRo, a wnaf fi 21, Gwell i ti beidio." Ond mi wnaf yn y boreu oni na i ?" Gwnei." Ac mi chwipiwch fi os gofynaf ychwaneg o gwestiynau heno, oni wnewch?" Gwnaf." Ond, newch chi ddim yn y boreu, newch chi?" Na wnaf." Ond mi wnewch heno, oni wnewch ?" Weli di, dim un gair yn ychwaneg yrwan. Os gofyni di un cwestiwn yn ychwanegmi chwipiaf di." Ond mi ddeudsoch y gallwn eu gofyn yn y boreu, oni ddwedsoch chwi ?" "Do." A newch chi ddim fy chwipio i'r pryd hwnw a wnewch chwi ?" Na wnaf." Ond mi wnewch heno, yn wnewch chi ?" Dyma dy dad yn dwad, ac y mae hyny yn dda iawn i ti, oherwydd yr oeddwn i yn myn'd i dy chwipio di." Ddim ond am ofyn cwestiynau heno ?" Ie." Ond newch chi ddim yn y boreu, wnewch chi?" A 7'"
RHIFO AC YMLADD
News
Cite
Share
RHIFO AC YMLADD YR oeddach chi wedi deyd wrtho i am rifo banner cant os byddwn i wedi gw'lltio." Oeddwn, machgen i." Yr ydw i wedi ei wneyd o." "Mae'n dda gen i glywed. Mi ddaru hyny oeri tipyn ar dy ddigofaint di, oni ddarfu?" Wel i chi, mi ddaeth yma ryw hogyn i'n heol ni yma i dynu gwynebau, a gwneyd myndymian arnaf, ac eisieu i mi ymladd. Yr oeddwn i yn myn'd i ffwrdd. Yr oedd o yn fwy na fi mi fasa yn fy malu fi mewn mynyd. Mi gofiais yr hyn a ddeydsoch chi, ac mi ddechreuais rifo." Ac ni ddaru i ti ddim ymladd ?" "Naddo, syr, ond erbyn i mi fyn'd cyn belled a dau a deugain, mi ddaeth 'y mrawd mawr yn mlaen, ac mi fasach yn curo eich nain yn erbyn y 11avr o falchder fel yr oedd yn ei guro fo. Myn'd i rifo deg a deugain a rhedeg i ffwrdd wedi hyny yr oeddwn i fy bun,"
Y CHWIBIANWR
News
Cite
Share
Y CHWIBIANWR YN y pentref yr oedd yr ysgol, ac yr oedd bachgen buan ei amgyffredion newydd ymuno a hi. Heddyw oedd ei ddiwrnod cyntaf yno. Byddai yn arfer a chwibianu pan na fyddai yn meddwl am hyny. Rhodd- wyd ef i eistedd wrth ddesg heb fod yn mhell oddiwrth eiddo un y meistr, a dechreu- odd yntau ar ei wers. Buan yr ymgollodd yn ei waith. Yn mhen ychydig o amser, anghofiodd lie yr oedd, a chwibianodd yn hapus. "Pwy sydd yn chwibianu?" gwaeddai y meistr. Cododd y bachgen ei ben i fyny, a dywed- odd, "Myfi oedd yn chwibianu. Onid oeddwch chwi yn gwybod fy mod i yn gallu chwibianu?"
*-PWY WRAIG DEBYG I'W GILYDD
News
Cite
Share
PWY WRAIG DEBYG I'W GILYDD DAFYDD Ac yr wyt tithau, o'r diwedd wedi myn'd i gadw ty, yr wyf yn clywed. Wyt t 'n gofio Rhys, am danom yn tyngu yn ein llid mai hen landau fyddem am ein hoes ? RHYS Wel ydwyf, tae fater am hyny, fel pe tase, Dafydd, ond yr wyf wedi taro ar wraig ragorol. DAFYDD Una thymar ragorol debyg ? RHYS: Ie, y mae hi wrth ei bodd, ac y mae hi yn peri i mi feddwl am y tegell, mae hi yn cann mor swynol. DAFYDD: Mae ngwraig innau hefyd yn peri i mi feddwl am y tegell. RHYS Mewn pa fodd Dafydd ? DAFYDD Am na wn i pa funyd y bydd hi yn berwi drosodd.
""'w DIANC AM El FYWYD
News
Cite
Share
"w DIANC AM El FYWYD TUA deng mlynedd ar hugain yn ol, anfon- wyd Aiphtwr o Cairo i Alexandria gyda llythyr pwysig oddiwrth un marsiandwr i'r llall. Pan oedd y negeseuwr ar ei daith, daeth rhyw awydd angerddol arno i wybod beth oedd cynnwysiad y Ilythyr, agorodd ef, ac er ei syndod, darllenodd a ganlyn :— "Gofelwch am fynd a dygiedydd y llythyr hwn i'r dienyddle rhag blaen." Fel y gellid disgwyl, nid aeth y negeseuwr gam yn mhellach ar y siwrnai hono, ond cymerodd long i Awstralia, lie y bu fyw amryw flynyddau. Y mae wedi dychwelyd yn awr i Cairo, ac yn un o'r prif arweinyddion yno, a'r mwyaf poblogaidd. Nid ydyw byth yn anghofio dweyd wrth y Iluaws ymwelwyr a arweinia i fyny yr Afon Nile hanes ei ddiangfa ryfeddol.
[No title]
News
Cite
Share
Yr oedd meddylddrych hapus iawn am gwtogiad amser a lie trwy yr agerbeiriant gan eneth fach, yr hon oedd wedi dyfod dros ugain milldir gyda'r ager-gerbydres, ac wedi hyny a ddaethai am bum' milldir mewn cerbyd cyffredin i dy ei hewythr. Pan y gofynodd rhywun iddi ai gyda y tren. y daethai, hi a atebodd :—" Do, ni a ddaethom ychydig ffordd yn y tren; ac wedi hyny ni a ddaethom ya y cerbyd am yr hofi ffordd."