Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
ARDALYDD MON.
News
Cite
Share
ARDALYDD MON. GANWYD yr Ardalydd presennol yn 1835, ac efe ydyw y ped- werydd banvn yn dwyn y teitl urdd- asol. Y cyntaf oedd Iarll Uxbridge, yr hwn oedd yr ail yn arwain y byddin- oedd Prydeinig ar Faes Waterloo, a'r hwn ar ol hyn a ddyrchafwyd yn Ar- dalydd, a dewisodd gael ei adnabod wrth y teitl Marquis of Anglesey, gan iddo etifeddu llawer o eiddo yn yr Hen Ynys trwy briodas rhai o'i deuluoedd. Ar ol yr Ardalydd, ychydig a fu ymweliadau ei ddau olynydd a, Mon, er fod ganddynt un o'r palasau eangaf a harddaf yn y sir, sef Plas Newydd, ar lan y Fenai. Olynu ei frawd ddarfu i Arglwydd Henry, yr Ardalydd presennol, yn yr etifeddiaeth a'r teitl, ac os na roddodd y brawd hwn ei droed ar dir Mon, y mae Ardalydd ein dyddiau ni yn ymhoffi cartrefu yn Plas Newydd, er fod ganddo dy ardderchog a elwid Beaudesert Park, Rugeley. Y mae yn is-raglaw ac ustus heddwch dros siroedd Stafford a Mon. Cymer ddyddordeb anghy- ffredin yn yr amgylchiadau o fewn y cylch- oedd agosbaol i'w gartref Cymreig. Pan oedd y Royal Naval Artillery Volunteers mewn bod, ymgymerodd a'r brif lywydd- iaeth dros y cwmniau a fodolai o Lerpwl i Gaernarfon. Wedi i'r cwmniau hyn gael eu dileu, penodwyd yr ardalydd yn gadfridog anrhydeddus i Wirfoddolwyr y Royal Welch Fusiliers yn siroedd Fflint ac Arfon. Efe ydyw Commodore y Royal Welsh Regatta Club, a chymer ddyddordeb arbenig mewn pethau morwrol. Er mai Tori ydyw, eto meddiennir ef gan yspryd rhydd ac eang, fel yr arddengys ei waitb yn ymgymeryd qg agor bazaar i Wesleyaid Cymreig tref Caernarfon.
ARGLWYDD TREDEGAR.
News
Cite
Share
ARGLWYDD TREDEGAR. Y MAE pobpeth yn arwyddo fod y gwr urddasol hwn yn hanu o waedoliaeth Gymreig, a dywedir ei fod yn ddisgynydd o Ifor Hael,1 y gwr cymeradwy hwnw a fu mor ddefnyddiol fel noddydd i Dafydd ap Gwilym yn nyddiau adfyd y bardd annarbodus. Ei enw cynwyn ydyw Godfrey (Jnaries Morgan, ac efe ydyw ail Farwn Tredegar, wedi yn 1875 olynu ei dad, yr hwn a gym 3rodd arno y teitl gwir Gymreig pan ddyrchafwyd ef i Dy'r Arglwyddi. Ymunodd y Barwn presennol a'r fyddin yn 1850, bu trwy holl ryfel y Crimea, ac yr oedd yn bresennol yn mrwydrau Alma, Balaclava, Inkermann, a gwarchaead Sebas- topol. Derbyniodd y fedal a'r claspiau Crimeaidd, urdd y Medjedie, a'r fedal Dyrcaidd. Y mae yn ustus heddwch dros dair o siroedd ac is-raglaw dros ddwy; bu yn uchel-sirydd, ac yn aelod Seneddol dros swydd Frycheiniog 1858-75. Ceidw i fyny draddodiad y teulu trwy ymhoffi mewn symudiadau Cymreig. Yr oedd efe yn un o is lywyddion yr Eisteddfod Genedlaethol yn Mhontypridd, a thraddododd anerchiad wladgarol ar yr amgylchiad.
ARGLWYDD KENSINGTON.
News
Cite
Share
ARGLWYDD KENSINGTON. GWR urddasol ydyw yr un y dodwn yma ei ddarlun, ac un a fu o 1868 i 1885 yn cynnrychioli t r e f Hwlffordd, sir Ben- fro, hyd nes yr un- wyd hi a 11 e o e d d ereill o dan ddeddf y r ad-ddosraniad. William E d vv a r c1 s ydyw ei enw gwreiddiol, ac efe oedd y pedwerydd Farwn yn mliendefigaeth yr Iwerddon, ond ni roddai hyny hawl iddo eistedd yn Nhy Arglwyddi Prydain Fawr. Modd bynag, dyrchafwyd ef i'r Ty hwnw yn 1886, ac yno yr arddelwa yr hen deitl. Y mae yn Rhyddfrydwr cyson a blaenllaw, ac fel y cyfryw, tra hefyd yn hanu o deulu pen- defigaidd, penodwyd ef yn ngweinyddiaethau Mr Gladstone yn Groom-in-waiting ar y Frenbines; yn, Comptroller of her Majesty's Household," a swyddau uchel ereill yn mhalasau ac yn agos i amgylchiadau personol y Frenhines ei hun. Efe ydyw arglwydd-raglaw sir Benfro, ac fel y cyfryw y mae wedi gwneyd pennodiadau teg ar y meinciau ynadol, a rhan fawr o'r ustusiaid yn Rhyddfrydwyr, fel nad ydyw unrhyw un o'r pleidiau yn dwyn cwyn yn ei erbyn ef fel y gwneir yn wrthwynebol i ereill. Cymer dyddordeb neillduol mewn materion Cym- reig, fel yr arddengys yr araeth a wnaeth y nos o'r blaen yn Nhy yr Arglwyddi mewn perthynas i'r siarter i Brifysgol Cymru. Yn mysg ei amrywiol balasau y mae ganddo un yn Little Haven, Delieudir Cymru.
IARLL POWIS.
News
Cite
Share
IARLL POWIS. YN y fiwyddyn 1862 y ganwyd y pendefig hwn, ac nid oes ond rhyw ddwy fiynedd neu dair or pan y rhoddodd i fyny y broff eswriaeth fil- wrol i gymeryd arno deitl ac etifeddiaeth ei ewythr o Gastell Powis, un o'r ysgol- heigion penaf yn mysg mawrion ein gwlad ac un a gy- merai ddyddordeb arbenig mewn materion Cymreig, fel y bu ei nodded i'n heisteddfodau, i'n llenyddiaeth, addysg, a cholegau ein gwlad yn engreiphtiau. Tipyn yn anhawdd i ddyn cymhariaethol ieuanc ddilyn gwr mor enwog a chymeradwy yn y fath sefyllfa uchel ac urddasol. Modd bynag, da genym ddeall fod yr Iarll eisoes wedi gwneyd llwyr gyfeill- ion o'i denantiaid a phobl amgylchoedd Castell Powis a Thrallwm, lie y triga ef a'i briod yn benaf. Yn wir, fel prawf o hyn, cymerodd bloddest frwd le yn yr ardal y dydd o'r blaen pan anwyd etifedd i'r pendefig. Efe ydyw y trydydd Iarll, a mab i'r diweddar Anrhydeddus Percy Egerton Herbert, brawd yr ymadawedig Iarll, yr hwn na fu yn briod. Da genym ddeall ddarfod i'r larll newydd ymroddi i ddysgu Cymraeg, a thraddododd anerchiad yn yr iaith hono, y dydd o'r blaen, yn Llan- gedwyn. Eled rhagddo i ymgynefino a, iaith ei henafiaid, y rhai oeddynt Bowysiaid diledryw, a bydded mor enwog yn y byd llenyddol Cymreig a Saesneg ag oedd ei ewythr mewn lluaws o ieithoedd byw a meirw.
IARLL DENBIGH.
News
Cite
Share
IARLL DENBIGH. YN ddiweddar yr ol- ynodd yntau i'r teitl a'r eiddo a berthyn- ant i'w ddiweddar dad, yr hwn oedd y seithfed Iarll, ac felly y. presennol ydyw yr wythfed. Nid oes ond tua blwyddyn pan fu farw y tad. Enw cynwynol y mab ydoedd Rudolph Robert Basil Aloysius Augustine, ond adnabyddid ef wrth y teitl Viscount Fielding. Addysgwyd ef yn y Royal Military Academy, ac yr oedd yn is-gapten yn y Royal Artillery. Perthyna rhai hanesion rhamantus i'w dad, y rhai a ddeil berthynas hyd yn hyn a'r mab. Wedi ei ddwyn i fyny yn Brotestant, trodd y tad at y Pabyddion, a chymaint oedd ei sel dros ei grefydd newydd fel y gwariodd filoedd ar filoedd o bunnau i godi capel, mynachdy, a lleiandy yn Pantasaph, ger Treffynnon, ac y mae wedi gwaddoli y lleoedd hyny mor ehelaeth fel y mae yn y fan un o'r sefydl- iadau Pabyddol cryfaf a mwyaf llwydd- iannus yn y wlad. Wrth gwrs, cafodd yr larll presennol ei ddwyn i fyny yn y grefydd Babyddol, o'r hon, yn ol pob ymddangosiad, y mae yn aelod ymroddgar a ifyddlon, canys cawn ef a'r teulu, ar ol marwolaeth y tad, yn cefnogi yr eglwysi Pabyddol i raddau eang trwy eu hanrhegu a ffenestri coffa i'r diweddar Iarll, heblaw llu o gofgolofnau i'r unrhyw amcan.
[No title]
News
Cite
Share
YSTRYW CARIAD.—Yr oedd boneddwr wedi syrthio mewn cariad a boneddiges; a chan nas gallai gael cyfleusdra i ddatguddio er serch tuag ati, efe a aeth un noson at ei thy, a llefodd allan, Tan tan [ tan I" Ar hyn agorodd y foneddiges ei ffenestr, a gofynodd yn mha le yr oedd; pan y rhoddodd yntau ei law ar ei fynwes, ac y dywedodd: I Yma, yma, yma!"