Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ARWYDDION RHWYMYN PRIODAS

iIFFRAETHINEB HENAFGWR r

HEB ERIOED GYFARFOD AG EF

DYNA OEDD HI'N FEDDWL

News
Cite
Share

DYNA OEDD HI'N FEDDWL DYWED awdwr adnabyddus am dano ei hun Yr oeddwn yn ysgrifenu yn fy efrydfa wrth y ffenestr, a bachgen bychan Gwyddelig yn difyru ei hun drwy daflu ffa at y ffenestr. Wedi colli fy holl amynedd, rhuthrais allan o'r ty, gan benderfynu dychryn y bachgen. Digwyddodd fod ei fam yn dyfod ar ei ol a'r yr un pryd, a chyfarfuasom wrth ymyl y bachgen. Dwrdiais y plentyn, ac yna, wrth weled y fam mor ddidaro, dywedais wrthi dipyn o fy meddwl. Yn y diwedd, er dwyn fy araeth geryddol i derfyniad anwrthwyn- ebol, dywedais. "Ychydig o ddysgyblaeth yn awr i'cli plant a "arbedai lawer o boen i chwi yn y dyfodol. Meddyliwch am hyny, wraig dda, hyny yw os ydych ryw dro wedi arfer a meddwl o gwbwl." "Meddwl, ai e ?" meddai hithau, "yr ydw i'n meddwl, pe byddai i chwi fyned yn ol i'r ty, a sychu yr inc yna sydd ar eich trwyn yr edrychecli chwi yn llawer harddacb, hyd yn nod pe na wnach gymaint o helynt yn nghylch pethau." Nid rhyw ateb arafaidd iawn oedd hwn ond yr oedd yn ddigon effeithiol i droi ymaith ddigofaint."

[No title]

Advertising