Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

- Y PRYF COPYN A'R GRAIG YSGYTHROG

[No title]

- GOLYGYDP Y LLEUAD GVMREIG…

News
Cite
Share

GOLYGYDP Y LLEUAD GVMREIG AT El OHEBWYR GOHEBYDD CYSON.—Y mae gohebydd arall mor gyson a chwithau, ac o'r un ardal a chwi, yn dyweyd mai nid ffrae amaethyddol ar drin maip a rwdins a phethau felly a gymer- odd le rhwng Zabulon Dafydd a Ffarmwr Jones. Ond myned at y drws a wnaeth Zab, a gofyn am gwpanaid o ddwfr pur heb ei gymysgu a llaeth. Dyma fu yr achos o'r holl helynt, ac i Simon y llaethwr roi ei droed ynddi, a gollwng y gath o'r cwd. PLATO HUGHES.—Y mae yr awdwr diwyd hwn wedi bod yn gweithio un awr ar bymtheg o'r pedair ar hugain am bythefnos o amser i orphen ei draethawd newydd i ddadleu dros wyth awr oriau llafur. OLEOMARGINE.- Yr ydych wedi dewis enw hynod. Gwyliwch chwi rhag myned i siop grocer yn nhref C-, onite fe'cli gwerthir am bris ymenyn. HEN LENOR.—Dywed y myfyriwr athron- yddol hwn fod ei wraig, tra yr oedd ef yn ysgrifenu ei draethawd ar Losgfynyddoedd yLloer, yn myned yn mlaen fel arferol gyda gorchwylion y ty, hyny yw—siarad SION CI-IWAREU TEG.—Nis gwn i beth a ddaw o'n llenyddiaeth ni yn y diwedd, y mae yr arferiad o gymysgu pethau wedi myn'd mor gyffredinol yn y dyddiau hyn fel nas gallwch brynu chwart o dywod yn y farchnad na fydd mwy na'i hanner o siwgr. BOB Jos.—Y mae eich syniadau ar godi tatws a phethau felly yn rhy ddaearol i'r "Lleuad Gymreig." Nid oes yma na hau na medi, na chywair i ysguboriau, ond pawb yn byw ar y gwynt. WIL SPENSER.—Y mae eich ergydion i'r fasnach feddwol yn rhy drymion. Bu raid i mi gael dau ddyn cryf i'w symud i'r ffenestr, a bu agos i ddau heddgeidwaid oedd yn digwydd myned heibio gael eu lladd. MEDDYG Y LLELos.-Nage frawd anwyl, lie tylawd iawn i frasglytiwr hen ymbrelos ydyw y Lleuad yma. Y mae y Blaned hon wedi mortgagio ei holl wlybaniaeth rhwng Llanrwst ac Eisteddfodau Cymru, fel nad ydyw byth yn gwlawio yma yr oes hon. Yr ydym yn gorfod myned i'r blaen llanw i geisio dwfr, ac yn ein hymdrochleoedd ni nid oes y fath beth a thywelion, fel yn eich byd chwi. Wedi ymdrochi mewn afon, myned i ben coeden i sychu y byddwn ni yma.

Advertising

CONQL Y CYHOEDDWR

CELL Y GQLYQYDD