Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
NATUR DDA YN Y TEULU
News
Cite
Share
NATUR DDA YN Y TEULU Y MAE natur dda yn y teulu yn hynaws- eiddio yr holl deulu; pa ddrwg bynag a ddelo i mewn, y mae natur dda yn lliniaru ei erwindeb. Fe ddywedir yr aiff pobpeth a deflir i'r Mor Marw yn halen felly yr a pob natur aflywodraethus yn dawel mewn thulu lie y byddo natur dda yn dylanwadu. Gresyn na byddai rhieni yn ymegnio mwy am roi natur dda yn gynnysgaeth i'w plant. Pa dad neu fam na lawenychent pe gallent roddi dinas yn gynnysgaeth i'w plant; ond dywed y gwr doeth mai Gwell yw yr hwn a lywodraetha ei yspryd ei hun na'r hwn a enillo ddinas."
3HYSYN YNTE RHOSYN
News
Cite
Share
3HYSYN YNTE RHOSYN irCHYijiG wythnosau yn ol, yn eglwys y Waen, arhosodd y clerigwr yn nghanol y swasanaeth wrth fedyddio i ofyn enw y plentyn, i'r hyn yr attebodd y fam gyda noesgarwch rliyfeddol: Rhosyn Syr, os gwelwch chwi'n dda." Rhosyn ?" medd&i'r gwr eglwysig. Yna bachgen ydyw, a rhaid mai Rhysyn, hyny yw Rhys, ydych yn ei feddwl ?" Ie, barcliedig Syr, bachgen yw." Ond beth a barodd i chwi feddwl am enw morhynod ar eich plentyn ?" meddai'r clerigwyr ymholgar. Wel, Syr," meddai'r wraig, "os rhaid i Jhwi gael gwybod Yr oedd acw 'Steddfod am y par gorou o wadna cloes, o dan yr enw Owen Goch, ac yr oeddan ni i gyd morfalch, a dyna beth ydi'i enw fo byth wedi hyny, ac y mae nhw yn fy nghalw innau yrwan yn Mrs Catsan GOGh, ac yn ddigon parchus ohonon J11 1 83"^ fel teulu acyr oeddwn i yn meddwl felly y buasai Rhosyn Coch yn enw mor neis ar y bachgen bach, gyda'ch cenad, Syr."
SPECTOLS MODRYB MARI
News
Cite
Share
SPECTOLS MODRYB MARI Y DYDD o'r blaen, talodd y Parch Jeraboam Jabez Jones, M.A., B.Sc., D.D., &c., ymwel- iad a Modryb Mari, a gofynodd iddi a oedd ganddi Feibl yn y ty, gan fwriadu gwneyd yr angen hono i fyny os nad oedd y gyfrol yn ei meddiant. Er syndod i'r ymwelydd, atebodd Mari braidd yn boethlyd ei thymher :— Ydych chi'n meddwl mai pagan ydw i, Mr Jones ? Oes, nia gen i Feibl, ac yr wyf yn 'i ddtirllen ef yn gyson, hefyd, cofiwch." Yna, gan gyfarch geneth fechan, dywed- odd Mari, Dos i'r dror, Ann, ac estyna'r Beibl i mi, fel y gallai ddangos i Mr Jones nad ydyw i yn bagan." Na, na, wraig dda," ebe Dr Jeraboam Jabez Jones braidd yn ofnus, peidiwch a thrafferthu dim ar eich hun, a maddeuwch i mi am fy hyfdra." Ond nid oedd dim yn tycio, mynai Mari gael dangos fod ganddi Feibl. Yn union, rhoddwyd y llyfr yn ei Haw, ac wrth ei agor gwaeddodd Mari mewn Uawenydd :— Wel, yr argian fawr I ma'n dda gen i ych bod chi wedi galw Mr Jones bach; dyma fi wedi cael fy spectols yno fo, a ma nhw wedi bod ar goll er's tair blynedd I" Prysurodd Dr Jones allan gan fwmian rhywbeth yn nghylch y pechod gwreiddiol a llygredigaeth y natur ddynol.
CYHUDDWR TYNER
News
Cite
Share
CYHUDDWR TYNER MEWN cwrdd te yn Llanfeillionog, bydd bon- eddigesau yr ardal yn arfer a rhoddi benthyg llwyau (arian ambell dro) gogyfer a'r am- gylchiad, gan ymddiried i onestrwydd yr ymwelwyr, llawer o ba rai fydd yn ddyeithr- iaid ambell waith. Yn y cwrdd te diweddaf, yr oedd yr hen Wmffra Williams, yr hwn a berchir yn fawr drwy yr holl ardaloedd, yn rhoddi llwy arian yn nhwll botwm ei wasgod isaf fel math o addurn. Weditynu sylw cyifredinol, gofyn- wyd i'r hen batriarch yr achos. "Wei," meddai yntau, y mae fy hen gymydog ar fy nghyfer yna wedi dodi llwy yn ei boced, ac felly yr oeddwn i yn meddwl fod genyf hawl i ddodi un yn fy ilhwll botwm." Aeth gwyneb yr estron fel ysgarlad, yr oedd dwy law gadarn yn ymaflyd yn ei ys- gwyddau, i hawlio dychweliad y llwy, a dangoswyd iddo y drws. Yr oedd y dull ffraeth a didramgwydd hwn o ddynoethi lleidr yn nodweddiadol o ddull yr hen frawd gonest Wmffra William.
EISIEU MYN'D
News
Cite
Share
EISIEU MYN'D EISIEU myn'd fydd ar yr arwerthwr. Aneffeithiol ydyw pregethwr heb fyn'd." Ni cha morwyn heb fod myn'd ynddi fod yn hir yn ei lie. Pan wel plant sowldiwrs am y tro cyntaf bydd arnynt eisieu mynd yn sowldiwrs. Eisieu mynd yn llongwr, yn deiliwr, yn grydd, yn gyfreithiwr, yn bregethwr fydd ar lawer o blant Os bydd show yn y dref, a6 os bydd pobl y drws nesaf yn myned iddi, bydd pawb am fyn'd iddi. Eisieu mynd i garu, i briodi, ac i blesera; ond dim eisieu mynd i'r crogbren, i'r carchar, nac i ddwylaw yr lieddgeidwaid. Mynd i ymofyn ciniaw a the, a myn'd i'r gwely; ond dim eisieu myn'd o'r gwely ar dywydd oer. Myn'd mae amssr, myn'd mae'r tren, myn'd mae'r arian,—myn'd mae pob peth, ond un peth oriawr fy ewythyr Twm ar ol bod yn llaw Tommy,—nid yw hi yn myn'd.
TAFARNWR GWYBODUS
News
Cite
Share
TAFARNWR GWYBODUS AETH tafarnwr "da arno" fel y dywedir, ond anwybodus, i ymweled a Llundain gydag ychydig o'i gyfeillion, y rhai aym- welent a'r Brifddinas am y tro cyntaf. Yr oedd y tafarnwr yn ymffrostio yn ei wybod- aeth o'r dref, a phobpeth oedd yn werth ei weled ynddi, ac yn cynnyg dangos i'w gyfeillion ei phrif ryfeddodau yn ystod yr ychydig oriau oedd ganddynt i aros yno. Wedi cyrhaedd Trafalgar-square, dywedodd y tafarnwr: "Ydach chi'n gwel'd y gyrnen fawr yna yn y canol ?" Ydym," meddai un o'r cwmni. A'r pedwar ceffyl yna sydd yn sefyll ar bob congl ?" "Ydym," meddai y rhai mwyaf cywrain ohonynt. "Wel, y gyrnen yna ydyw cofgolofn Due Wellington, a'r pliyle yna, ar y corneli, ydi pedwar chwarter y byd, hyny yw, Lloegr, Cymru, Scotland a Llanrwst.
BOB WYTHNOS.
News
Cite
Share
BOB WYTHNOS. CYSTADLEUAETH Y POST CARD.-PapUr Pawb yn rhad drwy'r post am chwarter am yr hanesyn mwyaf difyr. BARDDONIAETH.—Am y darn byr goreu, mewn unrhyw fesur ar ddigwyddiad-heb fod yn wleidyddol-fyddo wedi tynu sylw'r wlad ar yr adeg yr anfonir.—Papur Pawb am chwe' mis. STORI FER GYFFROUS (dwy golofn o hyd) -Herald Cymraeg a Papur Pawb yn rhad drwy'r post am flwyddyn. CYFYNGEDIG I BLANT YSGOL.—Cynnygir Hanner Coron yn wythnosol am ateb pos rhifyddol. Os bydd mwy nag un cywir, y cyntaf i anfon a'r goreu ei lawysgrif ga'r wobr. Pos RHIFYDDOL (Rhif 7).-Gall Tomos a Dafydd gyflawni gwaith neillduol mewn,30 o ddiwrnodau. Ond yn mhen 18 diwrnod, gelwir Dafydd ymaith, ac y mae Tomos yn gorphen y gwaith yn mhen 20 o ddyddiau yn ychwaneg. Mewn pa sawl diwrnod y gallai y naill a'r Hall ohonynt wneyd y gwaith ei hunan ?
,0 WYTHNOS I WYTHNOS
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
0 WYTHNOS I WYTHNOS Cynnygir hefyd wobrwyon fel y canlyn Medi 23. Hunangofiant y Wenol—7s 6c. — 30. Hyfrydwch Garddwriaeth (tua thair colofn)—Llyfr darlun- iadol ysblenydd ar dyfu rhos- ynau, gwerth 35s. Hydref -7. Camgymeriadau Sais di-Gym- raeg yn Nghymru—7s 6c. — 14. Chwedlau ffres am Glerigwyr a Phregethwyr Cymru-7s 6e. — 21. Can y Melinydd—7s 6c. — 28. Chwedlau am esboniadau rhy lythyrenol. — Dau esboniad Cymreig.
TELERAU.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddo Papur Pawb. 2. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd- ugol; a bydd hawl gan Papur Pawb i'w cyhoeddi trwy dalu swm a benodir ean y Golygydd. 3. Y cyfansoddiadau i gael eu hanfon i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr- haedd ar y dydd a grybwyllir uchod, gyferbyn a phob testyn. 4. Ysgrifener mewn inc du, ar bapyr gwyn, ar ,un ochr i'r ddalen yn unig. 5. Dyfarniad Golygydd Papur Pawb i fod yn derfynol. Gwneir y dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mhen „ pythefnos ar ol derbyn y cyfansoddiadau. 6. Fob ymgeisydd i nodi ei enw priodol, a'i drigfod ar y ddalen gyntaf; hefyd, i ddatgan ei fod yn cydsynio a'r telerau, a bod ei waith yn wreiddiol, neu ynte yn efelychiad. o ryw waith, mewn iaith arall, heb fod yn ddarostyngedig i Ddeddfau Hawl-ysgrif.