Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y TY A'R TEULU fManceinion,

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU fManceinion, Medi 5ed, 1893. NWYL FAM,— Wei, dyma fi wedi derbyn llythyr oddiwrth Mary Jane fy nghyfnither. Y male Mary Jane wedi cael llawer o ysgol, ac y mae hi yn dechreu gwel'd yrwan ei bod yn bryd iddi ystyried pa fath addysg a wnai fwyaf o les iddi yn ystod y tymhor nesaf. Mi ddywedaf i ti," meddaijhi, y peth a ddymunwn i ddysgu-hoffwn gael gwersi ar feddyginiaeth. Nid meddwl yr wyf y dymun- wn fod yn ddoctores na dim felly," meddai hi, ond dymunwn wybod pa beth i'w wneyd gartref pe digwyddai fod rhywun yn sal neu gael damwain." Y mae hi >11 barnu y byddai y wybodaeth hono yn fwy buddiol iddi na trigonometry a phethau felly. Oherwydd nis gallwn red eg am y doctor bob amser y bydd i rywun disian neu besychu, a dymunai hi wybod pa beth goreu ei wneyd i rywun fydd yn digwydd bod yn wael. Yr wyf finnau yn meddwl, pe digwyddai i mi gael chwarter o ysgol unwaith eto, mai cl dyna fyddai fy maes llafur innau. Y mae y pwnc yn un ag y mae merched ieuanc yn sefyll mewn angen am wybodaeth arno. Y mae llawer o ferched yn y teulu gartref a allant weithio allan gwestiynau dyrus yn Algebra, a dodi enwau clasurol ar holl esgyrn y corph dynol; ond os digwydd i'w brawd bychan dan eu gofal losgi neu ysgaldio ei law, neu gael ei daro gan y gyddfglwyf, pa sawl un ohonynt sydd yn gwybod y peth goreu i'w wneyd tra yn aros am y doctor ? A phan, fel gwragedd a mamau, y bydd dyledswyddau bywyd yn cynnyddu, pa sawl un ohonynt sydd yn meddu gwybodaeth ymarferol, a'u cynnorthwya i g-yfarfod mewn modd tawel a dealltwrus y profiad o ddamweiniau ac afiechyd sydd yn cyfarfod a theulnoedd ? Nid, wrtli gwrs, am y dylid diystyru llawer, o wybodaethau difyr, a phrydferth, ond y dylid rhoddi ei safle ei hun i wybodaeth ddefnyddiol ac ym. arferol. Y mae fy meistr yn fasnachwr llwyddianus, ac yn llawn o ddyngarwch, as yn esiampl i lawer o fasnachwyr y dref hon am ei hoffder o'i deulu, ei wraig a'i blant. Y mae yma lawer yn treulio eu horiau hwyrol yn y clybiau yma; nid yw efe byth yn myned allan heb ei wraig, beth bynagam y plant. Pa- ham nad ystyrid y gall fod y wraig yn sefyll mewn angen am ychydig adloniant yn awr ac eilwaith; a ydyw hunanoldeb naturiol dyn yn peri iddo feddwl fod atdyDiadau cartref yn ddigon i'r wraig ? Pa sawl canto wragedd a ellid ddod o hyd iddynt bob am- ser yn eu cartrefi, yn gwneyd y goreu 0 bob peth, tra y mae eu gwyr ar yr un pryd yn treulio eu nosweithiau allan, a'r gwragedd yn eistedd i mewn nes colli ac edwino llawenydd calon a phob yni Paham na fyddai gan wyr fwy 0 deimlad dros eu gwragedd am yr hwyr oriau annifyr y maent euhunain, heb gwmni ond eu rhai by chain, a dim gollyngdod oddiwrth ofalon teuluaidd? Os ydyw geneth yn deilwng o ymlyniaeth, ystyriaeth, parch a chariad cyn priodi, ac heb wneyd dim i haeddu cael ei hamddifadu phono, paham na cbaniateid iddi hyny wedi priodi ? Y mae yn ymddangos i mi yn awr yn fwy nag erioed fod y gwyn yn gwyn gyfiawn. Y mae llawer 0 ddynion yn treulio eu horiau amryw nosweithiau o'r wythnos yn y clybiau yma, tra y mae eu gwragedd yn eistedd eu hunain gartref heb ddim gwell i'w difyru nag ychydig wnio feallai. Y ffaith ydyw, fel rheol, nad oes gan wr priod ddim hawl i ddifyru ei hunan ar wahan oddiwrth ei briod. O'r ochr arall, y mae llawer yn dibynu ar y wraig. Os bydd hono 0 dymher garedig, serchog a mynwesol, yn rhoddi ei bryd ar wneyd ei chartref yn ddedwydd, y mae yn anhawdd i ddyn beidio taflu ei billiards a'i glybiau i'r wadd a'r ystluinod er mwyn bod yn ei chwmni. Mewn gwirionedd, gall gwraig o'r duedd hono wneyd ei hun yn an- orchfygol, a throi pob peth yn baradwys o'i hamgylch. Y mae yn ddigon hawdd i ferch ieuanc ddibrofiad fel fy hunan werd fod llawer o'r cyfrifoldeb am yr oerfelgarwch ar ran y gwr yn gorphwys ar y wraig, am esgeuluso yr hyn a'i gwnai mor ddeniadol cyn priodi. Ac y mae llawer gwr yn barod i briodoli yr hyn sydd ragorol ynddo ei hun i ddylanwad y rhagoroldeb sydd yn ei wraig. Wedi dechreu ymgynefino, yr wyf yn dyfod i hoffi y capel Cymraeg yma, y mae y canu gwresog sydd yma yn peri i mi anghofio mai yn Manchester yr ydwyf, ac wrth wrando'r bregeth byddaf yn teimlo mor gartrefol a phe bawn yn gwrando yr hen Shadrach Jenkin. Son yr oedd ein gwein- idog yn ei bregeth y Sul diweddaf am syn- iadau cyfeiliornus y Phariseaid am gadw yn Sanctaidd y dydd Sabbath, ae yr oeddoyn peri i mi feddwl am rai o'r hen bobol fyddai yn hidlo gwybedyn ac yn llyncu camel. Pan fyddwch yn anfon parcel, anfonwch ddau neu dri o'm hen lyfrau, Enquire Within," "Rhys Lewis," a "Thaith y Pererin." Chwarter o Welsh mutton fyduai yn dderbyniol iawn yma hefyd, a photiad o fel gwenyn Bodhyfryd yna. Cofiwch fi at Sarah Jones a'i gwr, a dywedwch nad yw yn bosibl iddynt lwyddo tuhwnt i'm dymuniadau. Yr ydym ni wedi cael cawodydd trymion o wlaw yma y dyddiau diweddaf yma, ac y mae hi yn edrych yn ddigon myglyd tua chanol y ddinas yma heddyw, ond yr ydym ni yn byw yn y parth iachaf o'r dref. Gyda chofion caredig atoch oil, Eich cywir ferch, LYDIA.

[No title]