Hide Articles List

1 article on this Page

01 HC EL we HD 0 LC YN F I…

News
Cite
Share

01 HC EL we HD 0 LC YN F I neu Pwy oedd yr Etifedd ? PENNOD XYI.—(PARHAD). HARRI MEWN PENBLETH. ETH Harri allan mewn gwylltineb oherwydd fod Mr Wynn yn dangos can ymdeimlo ag ef yn ei ofnau. Nid oedd gwaith Mr Wynn yn gwneyd gwawd o'r 1 cyfryw ofnau, ac yn methu gweled-neu '^SlvffiL wrthod gweled—rhesymoldeb se^au yr ofnau hyny wedi J3IV^K tawelu dim ar feddwl Harri; 0 ofnai yn waeth fyth fod rhyw- ttErafeCl beth yn myn'd i ddigwydd i \fw n *c^° fethu ar y fynyd olaf ft yn gynlluniau gyda Pyrs, yr Ij&M eiddo, a'r briodas. -MX? Yn y cyflwr aflonydd ac an- esmwyth yma o ran ei feddwl y v |p) teithiodd i fyny o Gaernarfon y l. ihj prydnawngwaitli hwnw. Ni fll ft ddywedodd hanner dwsin o | eiriau ar hyd y ffordd wrth | Morris, ac wrth gwrs, nid oedd yr olaf yn hoffi tori ar y distawrwydd, os mai yn fud y dewisai ei feistr fod. Toe, cyrhaeddasant at dy yr hen weinidog, a dis- gynodd Harri o'r cerbyd, gan sefyll am enyd yn nrws y cefn-yr oedd agosach at y ffordd na drws y ffrynt. Clywai lais Tom Shonet y gwas yn siarad yn y gegin efo Die Prys, y teiliwr, yr hwn oedd yn gweithio yn nhy'r gweinidog am y diwrnod, yn ol arfer teilwriaid mewn parthau gwledig ryw ugain neu ddeng mlynedd ar hugain yn ol. "Mi glywis i am betha fel yna yn di- gwydd o'r blaen," clywai Harri y teihwr yn dyweyd. Pan gafodd Morris Hughes ei ladd yn y chwarel flynyddoedd yn ol, yr oedd ei wraig o yn sal yn ei gwely, ac mi welai Morris yn dyfod at ben ei gwely yn waed i gyd drosto. Cin pen teirawr wed'yn, 'roedd Morris druan yn cael ei gludo yn, gorph ar yr elor o'r chwarel, ac 'roedd i ddillad o yn waed dyferol pan oeddan nhw yn dwad a fo i fiawn i'r ty, yn union yr un fath ag yr oedd ei wraig wedi wel'd o." Safai Harri yn y drws yn gwrando heb i neb sylwi arno. Gwyddai o'r goreu beth oedd dan sylw gan y ddau hen fachgen yn y ty—y ddrychriolaeth o Pyrs oedd pwnc yr ymddiddan, fel y teimlai Harri yn sicr, ac yr oedd bron gwylltio wrth glywed pobl yn son am hyny. Curodd ar y drws yn ffyrnig efo coes ei chwip, a phan ddaeth Twm yno i ateb, torodd Harri allan i dafodi yn enbyd oherwydd cael ei gadw mor hir i aros tra- y mae hen ffyliaid ofergoelus *fel chi yn son am fwganod," meddai. "Ydi dy feistr 1 fewn rwan?" gofynai. Wedi bod, ac wedi myn'd," atebodd Twm yn gwta. Ddywedis di wrtho mod i am alw wed'yn?" Dydw i ddim yn meddwl i mi ddeydr." » Pryd y daw o yn ol ?" Dydw i ddim yn gwybod pryd." Pie mae o ynte ?" Dydw i ddim yn gwybod pie." "Wyt ti yn gwbod rhwbeth o gwbl, dywed, y penbwl gwirion wyt ti yn gwbod dy fod yn siarad efo boneddwr?" gofynai Harri gan regi. "Dydw i ddim yn gwybod mod i," oedd yr ateb, ac aeth Twm yn ol i'r gegin heb gymeryd dim ychwaneg o sylw o foneddwr oedd wedi dysgu iaith o'r fath, a dyna lie y clywai Harri ef yn ail ddechreu son am y ddrychiolaeth wrth y teiliwr. Dechreuodd Harri guro yn ddychrynllyd ar balis y gegin efo coes ei chwip, wedi colli ei dymher yn llwyr, ac wrth glywed y twrw, pwy ddaeth yno ond Maggie. Ceisiodd Harri feddiannu ei hun pan welodd efe hi yn dod, ac yn ei benbleth, yn methu gwybod beth i'w ddyweyd gyntaf, dywedodd, Mae'n ddrwg genyf orfod gwneyd y fath dwrw, Miss Harris, ond mae Twm yna fel pe dae ef wedi bod yn yfed, neu rywbeth." Fydd Twm ddim yn yfed diodydd meddwol," ebai Maggie, a allaf fi wneyd rhywbeth?" "Wedi dod yma i wel'd Mr Hopcyn yr wyf, ond mae'n ymddangos ei fod ef i ffwrdd." Ydyw, yn y Cyfarfod Misol." "Wei, Miss Harris,-Maggie-a gaf fi ofyn eich pardwn am yr hyn ddywedais wrthych ar ochr y mynydd y dydd o'r blaen?" Arweiniodd Maggie ef i ystafell yn ffrynt y ty, ac wedi gofyn iddo eistedd, safodd hithau bellder oddiwrtho heb ateb gair, ac aeth Harri yn mlaen, Fedrwch chwi ddim dirnad gymaint o boen meddwl wyf wedi ddioddef ac yn dioddef eto. Yr ydych chwi yn hapus iawn, minnau yn druenus iawn. Maggie, nid oes neb yn malio dim ynof fi wn i ddim sut y mae hyny yn bod, ond mae pawb fel pe wedi fy nghashau. Nid wyf yn eiddigeddus o Pyrs-nid eiddigedd yw y teimlad sydd yn ysu fy nghalon y mae yn fwy ofnadwy nag eiddigedd." Safai Maggie o hyd heb ddyweyd yr un gair, ac yn gweled hyny aeth Harri yn mlaen, Nid wyf fi yn un o'r ffyliaid hyny sydd yn arfer credu fod gwir gariad bob amser yn sicr o dynu ei wrthddrychau at eu gilydd er gwaethaf pob rhwystrau. Yr wyf wedi gweled gormod o ddynion a merched yn priodi psrsonau na ddylasent i fedru credu peth felly. 0, Maggie, buasai yn dda genyf pe nas gwelswn chwi erioed; does genyf mo'r help fy mod yn eich caru, a chredaf mai chwi yw yr unig un sydd ar fy nghyfer i; ac os na chaf chwi, byddaf byw a marw heb gael neb." Nis gallai Maggie ei oddef yn hwy, ac meddai, Yr oeddwn yn meddwl mai eich amcan yn siarad efo mi oedd gofyn fy maddeuant am yr hyn ddywedasoch wrthyf ar ochr y mynydd, ond yn lie hyny, dyma chwi wedi dod yma i ail-adrodd yr un peth yn union." Yr wyf wedi dod yma," ebai Harri, "i'ch rhybuddio cyn ei bod yn rhy ddiweddar. Yr wyf wedi dod yma i ddyweyd wrthych am beidio byth a phriodi Pyrs fy mrawd, neu os y gwnewch y bydd i chwi edifarhau am bob blewyn sydd ar eich pen." Gwelaf beth yw eich amcan yn dod yma -ceisio fy mygwth a'm dychryh, ac y mae hyny yn arwydd sicr fod genych chwi eich hun ryw achos dirgel i ddychrynu o'i blegid," ebai Maggie. Ar antur yn hollol y dywedodd hyn, ond cyrhaeddodd yr ergyd adref, a theimlai Harri hyny. Maggie, dywedaf eto eich bod yn priodi un na ddylech." Pa hawl sydd genych i ddyweyd hynyna?'' "Pa hawl? Wel, dywedaf wrthych— hawl un allai ag un gair eich gwahanu oddi- wrth eich gilydd am byth." Yr oedd Maggie mewn penbleth dwyg. Fel pob merch, nis gallai oddef unrhyw ddirgelwch heb gael treiddio iddo, a buasai yn rhoddi pob dimai ar ei helw yn awr am gael gwybod beth oedd y dirgelwch yma yr oedd Harri wedi cynnil awgrymu yn ei gylch amryw weithiau bellach wrthi. Ond cafodd ei digter y trechaf ar ei chwilfrydedd. Dyna anwiredd," meddai yn danbaid. "Nage, y mae yn wir. Gallwn lefaru y gair fuasai yn eich gwahanu oddiwrth eich gilydd am byth." Os felly, gwnewch—paham na wnewch? Heriaf chwi i wneyd." Yr oedd Harri wedi codi ar ei sefyll erbyn hyn, ac edrychai y ddau yn gynhyrfus a digllawn i wynebau gwelwon eu gilydd. "Paham na wnewch?" gofynai Maggie eilwaith—" nid ydych yn credu dim yn eich rhybudd eich hun." Symudodd Harri gam neu ddau tua'r drws, heb Myweyd dim. Yr ydych wedi dod yma gyda'ch rhy- buddion a'ch bygythion, ond dengys eich gwyneb nad ydych yn credu yr un ohonynt eich hunan. Os gellwch wneyd hyn, paham na wnewch er mwyn darfod a.'r peth ?" Yr oedd geiriau yr eneth, ac yn enwedig ei thon herfeiddiol a hanner gwawdlyd, bron wedi trechu Harri, yr hwn erbyn hyn a safai yn betrusgar yn nrws yr ystafell. Collodd ei amynedd, trodd yn ol i'r ystafell, ac meddai, "O'r goreu, a gaf fi ddyweyd y gair ? A ellwch chwi ymgynnal dano ? "Ewch ymaith," ebai Maggie, a chymer- wch eich celwyddau gyda chwi." Cymerodd y dyn ieuanc yr awgrym ac aeth allan, ond bron cyn i drwst olwynion ei gerbyd ddistewi yn y pellder yr oedd Maggie wedi adteddiannu ei hun, ac yn edifarhau na buasai wedi caniatau iddo ddyweyd y gyfrinach ofnadwy y dywedai ef oedd yn ei feddiant. Beth oedd y dyn yn feddwl, tybed," meddai wrthi ei hun. Yr oedd bron ag anfon Twm ar ei ol i ahv arno ddychwelyd a dyweyd pobpeth oedd ganddo, ond yr oedd y cyfleusdra wedi myn'd o'i gafael am byth. Pe buasai wedi gadael i Harri, yn ei wyllt- ineb, ddyweyd yr hyn oedd ganddo, i buasai cwrs dyfodol yr hanes hwn yn bur wahanol i'r hyn fydd. PENNOD XVII.—P YES A'l FAM. Yr oedd Harri wedi cyrhaedd adref er's dwy awr neu dair, ac erbyn hyn yr oedd yn nos. Bwytaodd ef ei swper wrth yr un » bwrdd a Pyrs, ond ni ddywedai y naill yr un gair wrth y llall, Anaml y byddai yr hey