Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CABAL

YR AROLYGWR YSGOLION

Y FFENIAID

RHANU YR YSPAIL

PIWYGIO CYMDEITHAS

GHWEDL AM MR GLADSTONE

CARIAD AT EIN GWLAD

News
Cite
Share

CARIAD AT EIN GWLAD 0 BA le y tarddodd y cariad a'r ymlyniad eyffredinol hwn at ein gwlad? Paham y mae y meddwl yn caru edrych yn ol gyda hoffder at olygfeydd boreu oes ? Paham yr ydym yn anadlu awyrgylch ieuenctyd gyda mwy o lawenydd nag un awyrgylch arall? Ai nid oes fro-diroedd ereill mor ddeniadol ac awyrgylch mor loew? Paham y mae enaid dyn bob amser yn ymglymu am y tir hwnw lie y teimlodd gyntaf boen a hyfryd- wch ? Ai yn unig oherwyddmai vno y mae ei gyfeillion a'i berthynasau yn byw ? Ai tybed nad yw y lie hwnw yn rhywbeth heb- law enw ar ein serchiadau cymdeithasol ? Nis gall hyny fod. Y mae gan y dyn mwyaf digymdeithas dan haul ryw wlad a gar yn fwy na'i gilydd. Ceisiwch ei demtio drwy gynnyg iddo baradwys decaf natur, a dodwch ef ar lanau ffrydlifoedd bywiol, dan gysgodion dedwydd cedrwydd Libanus. Agorwch o'i flaen y gwerddonau mwyaf dymunol dan haul. Wedi'r cwbl, efe a gar greigiau ysgrythog ac anghyfaneddleodd gwlad ei enedigaeth. Efe a eistedd i lawr i wylo ar lan afonydd Babilou wrtli golio am ei Seion. aawyl ei hun.

Advertising