Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
BOB FFOWC A DYN Y "STAR"
News
Cite
Share
BOB FFOWC A DYN Y "STAR" TRAFAELIWR newydd y Star Brewery Com- pany, yn myned i mewn i arwydd y Bedol. Bob Ffowc a'i gydysbwng-blaid-Toby Philpot, Sam Sponge, a Robin y Potiwr-yn gweled eu cyfleusdra, ac yn gwneyd casgliad brysiog i anfon Bob Ffowc i mewn i'r bar ar ei ol, hwythau yn ystelcian wrth y drws, ond yn gofalu bod yn y golwg. Bob Ffowe, heb gymeryd arno wybod dim am bresennol- deb y trafaeliwr yn galw yn eofn am hanner peint o gwrw anghymharol y Star Brewery Company. Y trafaeliwr yn troi oamgylch, —Bob yn gwneyd dim sylw ohono. "Mrs Jones," meddai y gwr dieithr, rhowch iddo beint, a pheint bob un i'w ffryndiau wrth y drws, yna mi dalaf." Dewch i mewn bob un ohonoch, lads," meddai Bob Ffowc; cwrw da ofnatsan ydyw ewrw y Star Brewery Company."
\ BETSAN A'R BREGETH
News
Cite
Share
BETSAN A'R BREGETH "WEL, Betsan, beth oeddych yn feddwl o bregeth y gwr dieithr neibhiwr ?" Pw, lol i gyd, yn deyd fod y ddaear yma'n gron ac yn troi o gwmpas, a rhywbeth felly; yr oedd o'n peri i mi feddwl na chafodd o fawr o ysgol, wedi'r cwbl." Beth sydd yn peri i chwi feddwl hyny, Betsan ?" "Wel, os ydi'r ddaear yma'n gronac yn troi o gwmpas, beth sy'n ei chynnal hi i fyny?" "0, y mae y dynion dysgedig yma yn dyweyd fod y ddaear yn troi o gwmpas yr haul, a bod yr haul drwy atdyniad yn ei chynnal i fyny." Gostyngodd Betsan ei spectols ar ei thrwyn, ac edrychodd yn fuddugoliaethus dros eu hymylon, gan ddywedyd, Wel, os ydyw y dynion dysgedig yma yn deyd fod yr haul yn cynnal y ddaear yma i fyny, buaswn i yn leicio gwybod be' sy'n cynnal y ddaear i fyny yn y nos, pan fydd yr haul wedi myn'd i lawr
[No title]
News
Cite
Share
Mynai dyn yn Awstria ysgaru ei hun oddi- wrth ei wraig, oherwydd ei bod wedi dweyd ei bod 15 mlynedd yn ieuangach nag yr oedd, a phasiwyd yn y llys ei fod i gael rhyddhad. Dyma rybudd pwysig i'r merched hyny sydd yn arfer dweyd eu bod yn ieuangach nag ydynt mewn gwirionedd. 0
FARADAY A'R PYLOR
News
Cite
Share
FARADAY A'R PYLOR ANFONWYD Michael Faraday a Syr Charles Lyell yn ddirprwywyr i wneyd ymchwiliad i danchwa yn nglofa Haswell. Gofynodd Faraday i dyst sut yr oedd efe yn gallu mesur rhediad awyr anmhur yn y glofa ? Cymerodd y tyst ychydig o bylor rhwng ei fysedd a gollyngodd ef ar ben fflam canwyll, a dywedodd fod rhediad mwg y pylor yr un fath a rhediad yr awyr drwg yn y gwaith. Gofynodd Faraday yn mha le y cedwid y pylor yn y gwaith ? Dywedodd mai mewn bag. "Ond yn mha le ymae y bag?" "Y mae o danoch chwi, syr," oedd yr atebiad. Ni welwyd erioed mor fuan yr ymadawodd Faraday oddiyno. =-=>i"
CAST HUDOLES
News
Cite
Share
CAST HUDOLES YN Boulogne-Sur-Leine, dadlenwyd ym. gynghreiriad hyll rhwng rhieni a'u merch. Lodes brydferth iawn ydoedd y ferch, a chredodd ei rhieni y gellid gwneyd arian mawr trwy ddefnyddio hudoliaethau pryd- ferthwch eu mercli. Ymwisgai Miss Emma yn unol a'i phrydferthwch naturiol, ym. ddangosai mewn man manteisiol i feibion teuluoedd cyfoethog ei gweled a'i hedmygu hi. Llygad-ddenodd y naill foneddwr ieuanc ar ol y llall, ac wedi gwneyd yn sicr fod pob un ohonynt yn dymuno cael ym- ddyddan yn gyfrinachol a hi, y mae hi yn trefnu amser penodol iddynt ddyfod i'w gweled, un ar ol un. Yna, wedi dyfod o'r boneddwr ieuanc cyntaf, ac wedi iddo fod hefo Miss Emma yn ymddyddan a siarad ffwlbri, y mae tad a mam Miss Emma yn dyfod i mewn, ac yn cymeryd arnynt eu bod wedi synu fod y boneddwr ieuanc yn y fath le ac liefo merch ieuanc gymaint islaw ei safle gymdeithasol of. Dywedant wrtho os na rydd efe iawn o fil o bunnau iddynt, y bydd iddynt hwy gyhoeddi y scandal yn y newyddiaduron. Ar y foment y mae y boneddwr ieuanc yn gweled mai talu yr iawn fyddai oreu iddo, a dianc rhag yr hyn a fygythid. 0 ganlyniad, rhydd 200p mewn arian,sac arwydda fil am 800p. Gwneid hyn hefo pob un o'r boneddigion ereill. Yr wythnos ddiweddaf, bu i un boneddw r o well defnydd na'r lleill wrthod talu yr arian, a chododd wys yn erbyn y teulu, gyda'r canlyniad i'r tad a'r fam gael eu hanfon i garchar, ond diangodd Miss Emma hefo un o'i hedmygwyr.
Advertising
Advertising
Cite
Share
.n. POWDR NID OES ANGEN AM WYAU. CUSTARD Cyflenwa foethusder dyddiol. H B M elusion mewn amrywion dirifedi. H H 'V djsglau mwyaf chwaethus, a'r Custard H b-— brasaf- m/0 ■ I mMr ¡
PUBLISHER'S NOTICE
News
Cite
Share
PUBLISHER'S NOTICE "PAPUR PAWB "-an Illustrated Welsh Weekly Paper, devoted to Novels, Short Stories, Brief Biographies of the Celebrities of the Day, Wit and Humour, Puzzles, Poetry, and Light Literature for Family Reading-is published at the Herald Office, Carnarvon. PAPUR PAWB" is an excellent medium for advertisements, there being no other paper of the same kind published in the Principality. Single copies per post for one quarter Is. 8d. (prepaid). P.O.O.'s and Cheques should be made payable to the Publisher, DANIEL REES, at Carnarvon.
CONQL Y CYHOEDDWR
News
Cite
Share
CONQL Y CYHOEDDWR Cyhoeddir PAPUR PAWB yn swyddfa'r Herald, Caernarfon, yn gynnar bob wythnos ar gyfer dydd Sadwrn. Bob wythnos, ceir Arlwy o Arabedd, Blodau Barddas, Cystadleuon i'r Cywrain, Darluniau Difyr, Nofel Nodadwy. Mewn gair, bydd PAPUR PAWB yn Llawn Lien a Lluniau o'i ddechreu i'w ddiwedd. Yn Eisieu, Dosparthwyr egniol yn mhob ardal lie nad oes dosparthwyr wedi eu penodi eisoes.—Ymofyner am y telerau a'r Cy- hoeddwr, PAPUR PAWB, Caernarfon. Anfonir PAPUR PAWB yn rhad drwy'r post am chwarter am Is. 8c. (blaendal). Nid oes yn Nghymru well cyfrwng i Hysbysebu ynddo na PAPUR PAWB. Pob P.O. Order, Cheque, &c., i'w gwneyd yn daladwy i DANIEL REES, yn Nghaer. narfon.
CELL Y COLYQYDD
News
Cite
Share
CELL Y COLYQYDD NOFELAU, CHWEDLAU BYRION, &C.—Mae'r Golygydd yn barod i dderbyn cynnygion am yr uchod ar delerau rhesymol. GWOBRWYON .-Gweler rhestr mewn colofn arall. DARLUNIAU DIFYR.—Am ddarluniau difyr gwreiddiol, o waith arlunwyr Cymreig, tebyg i'r rhai ar tudalen 1, telir yn ol teilyngdod y rhai fyddont yn gymeradwy. AWGRYMIADAU.—Teimlir yn wir ddiolchgar am bob awgrym at wneyd Papur Paivb yn fwy defnyddiol a dyddorol. DALIER SYLW.—Nid yw'r Golygydd yn addaw dychwelyd ysgrifau na darluniau neb pwy bynag ar unrhyw delerau. Cyfeirier pob gohebion llenyddol ae arlun- iaethol at Y Golygydd, PAPUR PAWB, Caer- narfon.