Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BOB FFOWC A DYN Y "STAR"

\ BETSAN A'R BREGETH

[No title]

FARADAY A'R PYLOR

CAST HUDOLES

News
Cite
Share

CAST HUDOLES YN Boulogne-Sur-Leine, dadlenwyd ym. gynghreiriad hyll rhwng rhieni a'u merch. Lodes brydferth iawn ydoedd y ferch, a chredodd ei rhieni y gellid gwneyd arian mawr trwy ddefnyddio hudoliaethau pryd- ferthwch eu mercli. Ymwisgai Miss Emma yn unol a'i phrydferthwch naturiol, ym. ddangosai mewn man manteisiol i feibion teuluoedd cyfoethog ei gweled a'i hedmygu hi. Llygad-ddenodd y naill foneddwr ieuanc ar ol y llall, ac wedi gwneyd yn sicr fod pob un ohonynt yn dymuno cael ym- ddyddan yn gyfrinachol a hi, y mae hi yn trefnu amser penodol iddynt ddyfod i'w gweled, un ar ol un. Yna, wedi dyfod o'r boneddwr ieuanc cyntaf, ac wedi iddo fod hefo Miss Emma yn ymddyddan a siarad ffwlbri, y mae tad a mam Miss Emma yn dyfod i mewn, ac yn cymeryd arnynt eu bod wedi synu fod y boneddwr ieuanc yn y fath le ac liefo merch ieuanc gymaint islaw ei safle gymdeithasol of. Dywedant wrtho os na rydd efe iawn o fil o bunnau iddynt, y bydd iddynt hwy gyhoeddi y scandal yn y newyddiaduron. Ar y foment y mae y boneddwr ieuanc yn gweled mai talu yr iawn fyddai oreu iddo, a dianc rhag yr hyn a fygythid. 0 ganlyniad, rhydd 200p mewn arian,sac arwydda fil am 800p. Gwneid hyn hefo pob un o'r boneddigion ereill. Yr wythnos ddiweddaf, bu i un boneddw r o well defnydd na'r lleill wrthod talu yr arian, a chododd wys yn erbyn y teulu, gyda'r canlyniad i'r tad a'r fam gael eu hanfon i garchar, ond diangodd Miss Emma hefo un o'i hedmygwyr.

Advertising

PUBLISHER'S NOTICE

CONQL Y CYHOEDDWR

CELL Y COLYQYDD