Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BRWYDR Y LLUMAN DIYSGOC

News
Cite
Share

BRWYDR Y LLUMAN DIYSGOC Ni chafwyd erioed liynawsedd, deail, a ffyddlondeb cynnrychiolydd y mammoth a'r mastodon nag a gaed yn Mahratta fiynydd- oedd yn ol, pan yr enillodd cawrfil y fuddugoliaeth i'w berchenog drwy ei hynawsedd a'i ffyddlondeb diysgog. Yr oedd yr anifail anferth yn dwyn ar ei gefn y Human brenhinol, canolbwynt cadgyreh lluoedd y Poona ac ar ddeclireuad y frwydr, tra yn gorchymyn i'w anifail ffyddlon aros, derbyniodd y penaeth ergyd farwol, a syrth- iodd i lawr oddiar ei gefn. Ond yr elephant, yn ufudd i orchymyn ei feistr, a safodd ei dir. Yr oedd y frwydr yn myned boethach boethach ac wedi cau am dano ef a'r Human a ddaliai i fyny ar ei gefn, ond ni symudai efe. Gan ru cadarfau a rhegfeydd byddin- oedd gelynol oedd yn llenwi yr amgylchoedd a dycbrynfeydd fel na chlywid taranau y nefoedd, yr oedd yr olygfa yn un arswydus i'r eithaf, ond ni symudai y cawrfil cadarn yr un droedfedd yn mlaen; a'r Maharatiaid, wrth weled eu baner yn dal i gyhwfan yn ei lie o hyd, ni fynent goelio fod y frwydr yn myned yn eu herbyn, ac adfyddinent drachefn a thrachefn o amgylch eu baner ddiysgog. Yn ystod yr holl helynt, safai yr elephant yno, gan glustfeinio yn swn y rhyfef am lais yr hwn na siaradai byth air mwyach. Aeth ystorom rhyfel heibio, enciliwyd o'r niaes ac er fod y Maharatiaid yn ysgubo heibio yn fuddugoliaethus, gan ymlid eu gelynion, eto, fel craig yn sefyll allan ar distyll trai, safai yr elephant yn ei le, gyda'r lladdedigion yn bentyrau o'i amgylch; yr oedd y Human o hyd yn chwifio yn y gwynt, fel oddiar gastell cadarn. Arhosodtf am dri diwrnod a thair noswaith yily man lIe y gorchymynwyd iddo aros, ac nis gallai na bygythiad na chymhelliad ei symud, nes iddynt anfon i'r pentref ar y Nerbudda, gant o filldiroedd o ffordd, am fab byclian y penaeth, yr hwn nad oedd braidd ond baban llygadgrwn yna y cawrfil, arwr y dydd hirgofiedig liwnw, yn cofio fel y byddai yr yma,dawedig yn arfer a dysgu'r baban i fod yn filwr bychan awdurdodol, ac yn adnabod ei lais nior dda, a ufuddhaodd, a chan gloncian yr hen harnais drom oedd yn hongian wrth ei ystlys bob cam a roddai, aeth yn mlaen yn araf ar liyd y ffordd gan ddilyn y bachgenyn bychan.

PREGETH EFFEITHIOL

HEN YSGRIFLYFRAU CYMRU

Advertising

GAN BWY YR OEDD Y GWYDR CRYFAF