Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PENNOD XV.

News
Cite
Share

PENNOD XV. HUWCYN Y BENGLOG AR DDUWIN- YDDIAETH. Tra yr oedd cynifer o weithwyr yn ym- gomio ar fater oedd mor bwysig iddynt, ac yn enwedig tra yr oedd yr un yr edrychent hwy ato fel arweinydd yn bresennol ar un llaw, a bodyn mor bwysig ag ystiward bach hefyd yn bresennol ar y llaw arall, anhawdd fuasai credu y gwelsid neb yno yn syrthio i gysgu. Ond wedi i Mr Jones fyned allan, ac i'r ymddiddan droi at bethau cyffredinol, a'r dynion gael hamdden i edrych o'u cwmpas, darganfyddwyd Huwcyn y Benglog ar ei hyd ar sachau y tu cefn i'r stove yn cysgu yn drwm. Llusgwyd ef allan o'i ymguddfa gerfydd ei goesau, a rholiwyd tipyn arno ar lawr i'w ddeffro yn iawn. Chlywais di mohonom yn son am danat ti yrwan ?" gofynai un o'r bechgyn. Ar ei eistedd ar ganol y llawr taflodd Huwcyn edrychiad can wirioned a 110 o'i gwmpas, fel pe yn methu sylweddoli lle yr oedd, pa un ai yn ei wely yn siamber gefn y Benglog, yn breuddwydio am y pethau welai o'i gwmpas, ynte ai yn nghanol ei gydweith- wyr yn nghaban Pone Annwn. Wedi tuchan a rhwbio ei lygaid, cofiodd iddo ddod i'r chwarel y boreu hwnw, ac ei bod yn dywydd gwlyb, ac, o ganlyniad, rhaid mai yn y caban yr oedd yntau o ran y cnawd. Cododd, a gohvg euog arno, oherwydd teimlai fod ei urddasolrwydd wedi cael sarhad drwy waith y bechgyn yn ei rolio ar lawr budr y caban. "Be oedd genoch chi i ddeud am dana i ?" gofynodd, ar ol cael lie i eistedd rhwng y dynion ar un o'r meinciau. Ned Robins yma oedd yn deud dy hanes di yn methu atab o'r Rhodd Mam yn yr ysgol y Sul dweutha." Erbyn hyn yr oedd Huwcyn yn hollol effro ac mor wide awake ag y byddai arfer a bod Dwn i ddim i be mae Edward Robins yn 'mosod arna i o hyd," meddai, mi faswn i yn meddwl fod gyno fo ddigon o waith i edrach ar ol rhei o euloda i gapal i hun heb feindio busnes pobol o gapeli erill. Ran hyny, mi ddylia fo edrach gartra gynta, achos mae i wraig o yn mynd i'r Sun yn amal iawn wedi twyllu nos efo potal i nol wisci." Tybad fod gwir mewn peth fel hyn Edward ?" gofynai un o'r gwrandawyr, ond cyn iddo orphen gofyn yr oedd yr hen Ned ar ei draed, a golwg mileinig arno, yn bygwth leinio Huwcyn os na phrofa fo i bwnc neu dynu ei eiriau yn ol. Na i ddim tynu ngeiria 'nol," ebai Huw, achos mi glywis bobol y Sun yn deyd i hanes hi." Ond y cwestiwn ydi, pwy fydd yn cael y licer ?" meddai un, gydag ymddangosiad o awdurdod. Wel," ebai Huw, mi fydd gyni hi stori wahanol bob tro dest iawn. Weithia bydd eisio y wisci i rwbio coesa Edward i fendio'r riwmatics, ond rydw i yn meddwl ma efo'r botal wag y bydd Edward yn rhwbio i goesa, ar ol llyncu'r wisci ohoni hi, os y bydd o yni rhwbio nhw o gwbwl hefyd. Amball dro bydd yn deud mae eisio rhoi'r wisci i'r fuwch fydd arni hi, ond os felly does dim buwch yn y cwmpasodd yn sal mor amal a buwch Edwsfcd Robins." "Wel done, Huwcyn," meddai un o'r dynion, chlywis i rioed mohonat ti yn ym- resymu dy bwnc mor gadarn ac eglur." Erbyn hyn yr oedd yn amser caniad, ac yn rhaid i Ned Robins fynd pfo'i gorn i ben y bone i chwythu-fel mater o ffurf yn unig, gan nad oedd neb yn gweithio yn y twll ar y futh dywydd. Aeth yr hen law allan mewn cryn dymher, ar ol taflu edrychiad bygythiol i gyfeiriad Huw, gan addaw wrtho ei hun cael dod yn ol yn fuan i dalu y pwyth gartre iddo. "Rwan, Huw," meddai dyn ieuanc o'r gornel agosaf i'r drws, deud y gwir, fedri di ddarllen'?" Darllen, medra cystal a thitha, ond os ydw i yn cymeryd tropyn o gwrw weithia byddaf yn gneyd hyny yn onast, ac nid yn llechian ar nos Sadwrn drw ddrws y cefn fel amball un, ac yn mynd i'r ysgol dranoeth mor dduwiol a neb i ddadla yn nghylch Gyrnal a sboniad James Hughes a phetha felly. Os diod, diod, ne os dewiniath—wel, byddweh mor dda nos Sadwrn ac ar ddydd Sul." Duwinyddiaeth wyt yn feddwl, debyg ?" "la, siwr iawn, dewiniaeth-dadla yn nghylch I pwy lefarodd yr adnod hon a phetha felly. Y sboniwrs mwya ydi'r yfwrs gora ambell dro. Mi gewch i gwel'd nhw i lawr tua'r dre yna ambell brydnawn Sadwrn cyfri, yn cerad o gwmpas a golwg ddiniwad arnyn nhw, yn watsio eu cyfla, ac os na fydd neb yno yn i nabod nhw i tiawn a nhw i rw dafarn ne gilydd mor saffed a hoeli 01 mi

DIRGELWCH DOLCYHFI neu Pwy…