Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DIRGELWCH DOLCYHFI neu Pwy…

News
Cite
Share

DIRGELWCH DOLCYHFI neu Pwy oedd yr Etifedd ? PENNOD XIV. PRYDNAWN GWLYB YN Y CABAN. RANOETH yr hyn groniclwyd yn y ddwy bennod ddi- weddaf, yr oedd criw lluosog iawn o'r chwarelwyr wedi dod yn nghyd i gaban poncAnnwn. Caban y gelwir yr adeiladau hyny i ba rai yr ymgyn- nulla gweithwyr y chvvareli i fwyta eu tamaid, ac hefyd i ymdwymno ar ddiwrnod oer neu ystormus. Mae yn an- mhosibl i weithwyr y trefi, y rhai gan mwyaf a ddilynant eu gwahanol orchwylion dan do," ddirnad pa mor anghysurus ac anfanteisiol yw yr amgylch- iadau dan ba rai y gweithia y cliwarehvyr mewn cliwarelau agored, yn enwedig yn y gauaf. I fyny llethrau y mynyddoedd cribog y dringant bob boreu cyn "codi cwn Caer," fel y lywedir,-i fyny yn mhell oddiwrth yr anneddau yn mha rai y preswyliant, i fyny yn nannedd y creigiau llymion ac ysgythrog yn ngwyneb gerwinder yr ystorm, ac yno dilynant eu gorchwylion peryglus drwy'r ystorm nes gwlychu hyd y croen. Dan y cyfryw amgylchiadau da fyddai cael cynhes- rwydd tan y "caban," er fod i ddyn sychu ei ddillad tra y byddont am dano yn un o'r pethau mwyaf peryglus a niweidiol i iechyd. Ond peryglus neu beidio, ar ol bod am oriau dan odreu diferol y cymylau, byddai cynhes- rwydd y tan ac ymgom ddifyr y caban yn atdyniad, ac yn yr adeiladau hyny ar ddiwrnod gwlawog, yn nghanol ager y gwlyb. aniaeth o ddillad y dynion, caed llawer sgwrs ddoniol a mwy neu lai adeiladol—yn ol anian a gwybodaeth y cymeriadau fyddai yn bresennol. Dywedwyd fwy nac unwaith, yn ystod helyntion chwarelyddol y cyfnod am ba un yr ydym yn ysgrifenu, mai yn y cabanau y cafodd y cwbl ei gynllunio, ac edrychai ambell gynffonwr ar y cabanau hyn fel sefydliadau y dylasai y meistri eu hysgubo ymaith, rfeag, mae yn debyg, i'r gweithwyr ddod i ddeall am y caledi a ddioddefent, na gosod eu penau yn nghyd i weled a oedd dim ffordd o waredigaetli. Nid oedd y cynffonwyr yn gorfod dioddef y caledi y cwynid o'i herwydd-byddai gan- ddynt hwy ffordd i'w ysgoi, i raddau mwy neu lai, yn ol bywiogrwydd a dyfalbarhad eu cynffoneiddiwch. Cariwyd clecs fil- oedd o weithiau i'r uchel awdurdodau chwarelyddol o'r cabanau, oblegid nis gellid attal hyd yn nod y gynffon liwyaf i ymwthio i fewn i fysg y dynion, fel y sarph i ardd Eden er's talm. Yr oedd criw mawr wedi dod yn nghyd ar y diwrnod y cyfeiriwyd ato uchod, a hyny ycliydig cyn y caniad," gan ei bod yn ddiwrnod gwlyb. Nid oedd y man-ddeddfau afrifed ddygwyd i fodolaeth wed'yn mewn grym yr adeg hono; nid oedd neb wedi breuddwydio yr adeg hono am wahardd dyn fyddai yn wlyb at ei groen i fyned adref cyn y caniad, neu i'r caban i ymdwymno, os dymunai. Yn nglyn a, chadw oriau penodol, yr oedd y chwarelwyr yn mwynhau cryn lawer mwy o ryddid yr adeg hono nag sydd ganddynt yn awr, ac mae yn ddigon posibl fod ambell gymeriad, fel Huwcyn y Benglog, wedi gwneyd drwg iddynt drwy gamarfer y rhyddid hwnw—myn'd a dod fel y mynent, treulio gormod o'u hamser yn y caban, neu gymeryd "tranoeth" am wythnos ar ol y cyfrif, neu cyhyd ag y parhai yr arian-mae yn ddigon posibl, meddwn, fod creaduriaid ynfyd fel Huwcyn, yr hwn a ymddygai felly, wedi gwneyd i'r awdurdodau ddwyn deddfau mwy caeth i weitlirediad. Sut bynag, yr oedd Huwcyn yn y caban y diwrnod yma yu mhell o flaen neb arall; yn wir, mae yn gwestiwn a fu efe ar gyfyl y twll y boreu hwnw o gwbl; yr oedd yno niwl oer, llaith, yn llenwi pobman am rai oriau, ac nid oedd niwl felly yn dygymod a Huw. Yn raddol, trodd y niwl yn wlaw, ac fel y cynnyddai y genllif ac y cryfhai y gwynt a ymruthrai dan oernadu rhwng y gwaliau rhidwll yn mha rai y ceisiai y naddwyr a'r holltwyr ddal ati hyd y gallent, delai gweithio dan y fath amgylchiadau yn beth anghysurus i'r eithaf, a thoc gwelid y dynion yn codi oddiar y blocyn a'r drafel, ac yn brasgamu tua'r caban, bob un a'i biser bach yn ei law. Wrth wel'd dynion y twll yn dod i fewn yn wlyb diferol llongyfarchai Huw ei hunan ar ei ddoethineb uwchraddol yn gofalu am dano ei hun drwy beidio mynd yn agos at ei waitli ar y fath dywydd. "Mi ga i fyw i weld claddu pob sowl ohonach chi, lads," ebai Huwcyn wrth nifer o'i gyfoedion oeddynt newydd ddod i fewn a'u gwynt yn eu dyrnau a'r gwlaw yn rliedeg i lawr ar hyd asgwrn eu cefnau. Fuost ti ddim oddwrth y tan yma heddyw ?" gofynai un ohonynt. Naddo, dydw i ddim cymaint o ffwl a rhai ohonoch chi," ebai Huw, yr oeddwn i yn gweld ma fel hyn y basa'r tywydd yn troi." Os oeddat ti yn gweld ma fel hyn y basa hi heddyw i beth y doist ti i fyny yma o gwbwl, dywed?" gofynai un, "yr ydw i wedi bod yn enill rhyw ychydig drwy'r bora, a thitha, ar ol y draffarth o ddringo i fyny yma, drw'r bora heb enill dim. Pwy ydi'r ffwl mwya, Huw ?" Wel, aros di dipyn, nes i'r cricmala gael gafal ynot ti; mi gawn ni weld 'radag hono pwy fuo yn fwya o ffwl. Dydw i ddim yn credu, weldi, mewn lladd f' hun i gadw f hun." Erbyn hyn yr oedd wedi'r caniad, a phwy ddeuai i fewn mewn pryd i glywed Huwcyn yn gwneyd y sylw olaf yna ond Ned Robins, Byddai Ned bob amser a'i droed ar Huw oherwydd ei ffolineb, ac ni chollodd foment yr adeg hon cyn cael rhoddi ei bwt i fewn. Na, 'does dim porig i ti ladd dy hun hefo dim," ebai Ned, gan wneyd ei ffordd at y tan drwy'r cymylau o ager ddeuai oddillad gwlybion y dynion a'r mwg tybaco ddeuai o'u pibelli, ond mi fasa'n reit dda gin i tasa ti yn gneyd tipyn o ymdrach am unwaith yn d'oes i drwsio gwalia dy gaea rhag i'r hen fuwch 'sgyrniog, fyteig, yna sy gin dy fam ddwad drosodd i sathru fy ngwair i." Mi geiff y'ch gwair chi, Edward Robins, ddigon o amsar eto i godi ar ol cael ei sathru," atebai Huw, achos newch chi ddim dechra meddwl am i dori fo dan rwbryd tua ch'langaua, Yr oedd pawb wedi sylwi er's talm y byddai Huwcyn, bob tro yr ym- osodid arno gan yr hen Ned, yn ceisio ei ateb mewn dull mor fawreddog a gramadegol ag y gallai, er ceisio cael argraph briodol ar feddwl yr hen wr am ei ddysg a'i wybodaeth uwchraddol ef ei hun. Ro'dd Huwcyn yma yn son am ladd 'i hun i gadw 'i hun," ebai un o'r dynion, i gadw'r meistr ddylsai o ddweyd. Dyna pwy geiff y rhan ore o ffrwyth y'n llafur ni y bore gwlawog yma, a yma, a phan ddaw'r cricmala, fel 'roedd Huw yn deyd, i'n poeni ni ormod i fedru ym- lwybro i fyny i'r fangre yma, faint gawn ni gin y meistr at y'n cadw gartre tybed ?" la, a faint ydan ni yn i gael yrwan am ddwad i le fel hyn i weithio ar y fath dywydd," ychwanegai un arall. "Mi alIa fi herio unrhyw ddyn yn y gwaith yma i fedru dangos i fod o yn fwy gofalus am i waith nag ydw i, ne yn fwy ymdrechgar na fi ar bob math o dywydd, er nad ydw i ddim yn meddwl ma fi ydi'r gweithiwr gora-nid dyna bedw i yn ddeud—ond welsoch chi rioed mo- hona i yn troi nghefn ar y gwaith ar dywydd mawr hyd nes i bawb arall fynd i ffwrdd. Ac eto tair a chweigian oedd fy nghyflog i y mis dweutha, ac er gweithio mer fy esgyrn allan 'drychwch bedw i yn i gael i roi mer yn i le fo "-a dangosodd y llefarydd hen biser bach llawn o laeth enwyn, a llonaid cadach o dafelli trwchus o fara gydagarlliw ymenyn arnynt, a'r cadach a'r bara wedi eu trwytho gan y gwlaw—" dyma'r enllyn gore fedra i iforddio gael; pobol erill nad ydyn nhw yn gweithio dim ac na wyddant beth ydi dim caledi, y nhw sy'n I? cael tair rhan o bedair o ffrwyth fy llafur i." Edrychai y dynion ar eu gilydd yn ar- wyddocaol tra y siaradai y llefarydd olaf, oblegid pwy oedd wedi dod i fewn yn sydyn, ac yn sefyll ychydig y tufewn i'r drws yn gwrando y cyfan, ond Mr Jenkyn Robertson Jones, y stiwart bach a "Daily News" y stiwart mwy. Yr oedd ganddo ef ryw amcan yn dod i fewn heblaw ymochel rhag yr ystorm, ac wedi gweled fod yno eisoes un neu ddau o rai a gynffonent iddo ef ac i'w uwchafiaid er mwyn ffafrau, daeth yn nes yn mlaen ac eisteddodd i lawr, gan deimb yn sicr o help pe gwesgid ef i gornel mewn dadl. Yrwan, boys" meddai, mewn ton led awdurdodol—dysgu siarad yn y don hono yr oedd, ac nid oedd hi eto yn hollol naturiol iddo—" mae arna i ofn i bod hi yn dwad yn dywydd mawr arnoch chi efo'r Undeb yma Wrtl, gwrs, yr oeddwn i yn deall am y'(l bwriad chi er's tro-toedc1 gen i ddim hep clywed y peth yma a'r peth arall gan b n a'r Hall, wyddoch, ar hyd y gwaith ym; — ond mae arna i ofn y'ch bod chi yn gcyd mistake ofnadwy. Fyn y byddigions den-I i neb ymyryd a'u hawliau hwy, wyddoch.' "Mistec ne-beidio, dydach chi ddi-i yn meddwl fod gyno ninna hawlia he yd ?" gofynai gwr y tair a chweigian. Iydach