Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

MR HENRY RICHARD.

News
Cite
Share

MR HENRY RICHARD. MAB ydoedd yr aelod anrhydeddus i'r di- weddar Barch Ebenezer Richard, o Dre- garon. Ganwyd ef yn y dref fechan, wir Gymreigaidd hono yn y flwyddyn 1812, ac yno y treuliodd efe flynyddau boreuaf ei fywyd. Pan yn ddeunaw mlwydd oed, symudodd i Lundain, a daeth yn efrydydd o Goleg Highbury gyda'r amcan o ymroddi i waith y weinidogaeth. Wedi myned trwy y cwrs colegawl, cymerodd ofal yr eglwys a ymgynnullai yn Nghapel Marlborough, yn y Brifddinas. Yn 1848, penodwyd ef yn Ysgrifenydd y Gymdeithas Heddwch. Mor ddiflin ac ymroddgar fu efe yn achos clod- wiw ei waithj fel yr enillodd y teitl an- rhydeddus—" Apostol Heddwch." Ond yn y cyfamser nid oedd yn anghofio gwlad ei enedigaeth. Diau iddo deimlo pan yn blentyn, ac am flynyddau ar ol hyny, paai prin iawn ydoedd y cyfiawnder a wneid a, Chymru gan y Llywodraeth a'r deyrnas yn gyffredinol tuallan i gyffiniau y Dywys- ogaeth. Darfu i'r Llywodraeth anfon Dir- prwyaeth i lawr i Gymru i ymholi i setyllfa addysg yn y Dywysogaeth. Pan ddaeth amser cyfaddas, cyhoeddasant eu hadrodd- iad mewn tri o Lyfrau Gleision (Blue Books) trwchus. Ond ni fu erioed ad- roddiad mor anghyfiawn. Ond ymgymer- odd Mr Richard a didwyllo y wlad, ac am- ddiffyn ei genedl. Traddododd ddarlith yn Neuadd Crosby, Llundain, yn gynnar yn 1848, a chyda rhesmeg gref, a hywadledd anghyffredin, gosododd y gwirionedd plaen o flaen ei wrandawyr Seisnig, heb, ar yr un pryd, na lleddfu nac esgusodi rhai arferion neillduol a ffynent yn mysg ei gydwladwyr- arferion a ddorostyngent ein cymeriad cenedlaethol. Ni anghofia y Cymry byth mo'r gwasanaeth a wnaeth Mr Richard drostynt ar yr adeg helbulus hono. Profodd mewn modd diymwad fod y Dirprwywyr wedi gwneyd eu gwaith mewn dull afler, esgeulus, ac anwybodus, a'u bod wedi gosod Cymru ger gwydd y byd yn y lliw gwaethaf oedd bosibl. Profodd hefyd fod y Dywysog- aeth cyn laned ag un wlad arall oedd yn bod os nad yn lanach. Oherwydd y gallu a'r de- heurwydd a pha rai yr amddiffynodd efe ei wlad yn hyn o achos, daeth Henry Richard" yn enw anwyl i'r Cymro yn mhob gwlad, a phara felly hyd y dydd hwn. Yn 1866 gwnaeth wasanaeth mwy a phwysicach yn yr un cyfeiriad trwy ei lythyrau yn y Morn- ing Star ar I- Sefyllfa Gymdeitliasol a Gwleidyddol Cymru." Yn 1868 digwyddodd Etholiad Cyffredinol, a rhoddwyd cyfeiriad newydd i yrfa lwyddiannus Mr Richard. Yn y flwyddyn hon dewiswyd ef yn Aelod Sen- eddol dros Ferthyr Tydfil gyda mwyafrif mawr. Yr oedd Cymru, o'r diwedd, yn berchen cynnrycliiolydd. Mewn gair, nid yn unig fe ddywedid am dano yn chwareus, ei fod yn Aelod dros Gymru," ond ato ef, liefyd, yr edrychai Ymneillduwyr Lloegr yn gyftredinol pan fyddai achos o bwys iddynt o flaen y Senedd. Dydd Gwener, y 18fed o Awst,—pum mlynedd agos i'r diwrnod y bu Apostol Heddweh farw yn Nlireborth,—dadorcli- uddiwyd colofn genedlacthol i'w goffadwr- iaeth yn Nhregaron, tref ei enedigaeth. Cy- flawnwyd y seremoni gan y Gwir Anrhyd. George Osborne Morgan, Barwnig, A.S., ac yr oedd Uu mawr o enwogion Cymru yn bresennol, ac hefyd gynnrychiolwyr Cym. dcithas Heddwch. Gwele darlun o'r gof. adail