Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

FFYDDLON AR YCHYDIC

News
Cite
Share

FFYDDLON AR YCHYDIC HAD, 'dwy' i ddim yn meddwl y galla i aros gyda'r Meistri Jones ar ol y mis hwn." Pa'm hyny, Harri ? Roeddwn i yn meddwl fod y lie yn lie da." 0, mae'r lie yn burion. Yr wyf wedi bod gyda nhw bron blwyddyn, ac riid ydynt yn rhoi dimai yn rhagor i mi na'r adeg gyntat yr es yno; ac ma hyny n tori 'nghalon." Efallai nad wyt werth dimai'n rhagor." Nid hyfryd i Harri oedd clywed hyn, a chododd ei ysgwyddau mewn ffordd o ateb. Cuddiai y tad y wen a chwareuai ar ei wyneb, ac yna aeth yn mlaen. A wyt ti yn gwneyd dy waith cystal ag y gelli, ac mor ofalus o fuddiannau dy feistr a phe baet yn cael dwbl y cyflog, Harri? Mewn geiriau ereill, a wyt ti yn gwneyd dy creu 11 Wel, na, 'nhad: 'dwy i ddim yn meddwl 'y mod i, a allan' nhw ddim disgwyl hyny am yr hyn maent yn roi i mi." Paid hidio beth maent yn ddisgwyl. Gwna dy hun mor werthfawr iddynt fel nas gallant fforddio dy golli di, ac ni fydd trafferth am dy gyflog. Oni wyddost fod pum' dyn am bob safle, ac y rhydd dy feistri eu safleoedd i'r dynion a wnant y gwaith oreu ? 'Rwy'n meddwl y dywedaf wrthyt y profiad a ges i pan oeddwn ieuanc. 'Doeddwn i ddim mor ffodus, neu feallai mor anffodus, a thi, Harri. Mewn geiriau ereill, 'doedd gen i neb i ymddibynu arno ond fy hun. Collodd fy nhad arian drwy ffolineb ei bartner pan nad oeddwn i ond plentyn, a chan iddo farw yn fuan wed'yn, ni adawodd ond prin ddigon ar ol i gynnal fy mam. 0 Gan fy mod yn ddigon hen, gadewais yr ysgol, ac es at waith. Ar ol newid unwaith neu ddwy, ces safle oeddwn yn hoffi, a gwnes fy meddwl i fyny y cadwn hi os gillaswn. Allwn i ddim fforddio myn'd o le i le. Yr oeddwn wedi bod yno am amryw flynyddoedd, a phob blwyddyn yr oedd fy nghyflog wedi cynnyddu ryw ychydig, pan y y cymerwyd un o'r partners yn beryglus o glaf. Parodd hyny i gyfran helaeth o waith ychwanegol ddisgyn arna i, yr hwn oedd, erbyn hyn, yn ormod i mi. 'Rwy'n cofio fy mod yn myn'd adref yn yr hwyr yn flin ac yn isel fy yspryd. "'Paid hidio, Harri,' ebai mam, 'all e' ddim para yn hir.' 'Ni hidiwn pe b'ai fy nghyflog yn werth y gwaith,' achwynwn innau. Ond drwy yr holl amser yr oedd gen i obaith distaw y cawsai fy nghyflog ei chynnyddu fwy nag arfer gyda dechreu'r flwyddyn newydd. Gyda'r gobaith hwn yn fy nal i'r lan, gweithiwn yn galed, a llwyddwn i wneyd gwaith dau bron. Dyfala, gan hyny, fy siomiant pan y derbyniais i, ar ddechreu y flwyddyn newydd, y cyflog a addawsid i mi cyn i'r partner syrthio yn glaf. Pan y gwelais na ches i yr arian ychwanegol y teimlais fy mod yn disgwyl am dano. Yr oeddwn wedi bwriadu cael llawer o bethau i mam a finnaa, ond siomwyd fi. Anghofia i byth pa mor drwmgalon yr es i tua thre y -noson hono. Ni freuddwydiais ddyweyd wrth mam am fy siomiant: tybiais na wnai ond peri blinder iddi. Ond ni fu'm hanner awr yn y ty cyn ei bod wedi clywed yr holl stori. 'A,' meddwn innau wrth derfynu'r hanes, weithia' i ddim un diwrnod fel yr wyf wedi gwneyd. Gallant chwilio am rywun arall.' Addawson nhw ddim rhagor i ti, 'do fe, Harri?' gofynai mam. "'Naddo, ond yr oeddwn yn disgwyl y gwnant ei roi i mi.' Wyt ti yn bwriadu ymadael ?' ebai. "'Na, wrth gwrs, alia i ddim fforddio gwneyd hyny,' ebwn innau yn ddiraen. Wel, ynte,' ebai mam yn ei ffordd ysgafn, siriol, 'gweithia mor galed ag yr wyt wedi gwneyd, yr un mor gydwybodol a phe baet yn derbyn yr oil a ddisgwyli; ac yna, pan y daw y ty yr wyt yn bwriadu bwrcasu i mi, mwya' derbyniol fydd. Paid gneyd yr anghyfiawnder a'th hunan, Harri, o roi dim llai na'th oreu.' Pa mor ami wedi hyny yr wyf wedi syl- weddoli nerth y sylw hwnw pan yr wyf wedi gwel'd bechgyn yn gwneyd yr annghyfiawn- der hwnw a/u hunain. Wel, mi gymerais i y gynghor fy mam, a gwnes fy ngwaith mor drwyadl ag y gwyddwn i y ffordd i'w wneyd. Oddeutu dechreu Chwefror darfu i'r partner a fu'n glaf ymwellhau gymaint fel yr oeddwn i yn cario ei lythyrau iddo bron bob dydd, ac yn rhoddi iddo hanes y busnes am y dydd blaenorol. O'r diwedd, un boreutua diwedd y mis, dywedodd wrthyf y gwnai efe ddychwelyd at ei waith dranoeth. Mor dda 'rwy'n cofio y diwrnod hwnw. 'Rwy'n cofio hyd yn nod fanylion yr ystafell lie y cefais i ef bron a gorphen ei foreufwyd. Yr oeddwn wedi rhoi fy adroddiad, a gosod y llythyrau ar y bwrdd, ac ar fedr myned allan, pan y dywedodd, 'Aroswch fynyd, Williams. Mae gen i rywbeth i'w ddyweyd wrthych.' 'Dalla i ddim cofio ei eiriau yn gywir, Harri; ond ystyr yr hyn ddywedodd oedd hyn:—Ychydig cyn dechreu y flwyddyn daeth ei bartner ato, a gofynodd iddo beth oedd yn oreu i'w wneyd tuagat godi yn fy nghyflog. Cytunasant eill dau y dylasai fod yn rhagor na'r hyn oeddynt wedi addaw i mi; ond oherwydd llawer o ddyryswch yn nglyn a'r fasnach, penderfynasant beidie gwneyd unrhyw gyfnewidiad hyd nes y buasai'r partner claf yn abl i fyn'd oani- gylch. 'Ac yr oedd ystyriaeth arall, Williams,' ebai yn mhellach. Oherwydd y dyryswch hwn yn y fasnach, penderfynasom eioh gosod chwi ar brawf, ac yr wyf yn falch i ddyweyd i chwi sefyll y prawf hwnw yn ardderchog; ac yn awr, wrth weled fod pethau yn y fasnach wedi troi allan yn well na'n disgwyliad, yr ydym yn abl i gynnyg i chwi ran yn y busnes. Yr ydych wedi gwneyd eich hun yn anhebgorol i ni, ac yr ydym yn falch i ddangos ein cymeradwyaeth yn y ffordd hon.' Am foment, Harri, daeth teimlad o fraw drosof wrth gofio pa mor agos y bu'm i fethiant pe buaswn wedi gwneyd fel yr oeddwn wedi bygwth, ac wedi llaesu fy ym- drechion. Fy nheimlad arall oedd o ddiolch- garwch gwresog i fy mam. I I Wel, dyna bron yr oil sydd gen i i ddyweyd. Mae gen i adgofion melus am yr adeg y darfu i freuddwydion fy ieuenctid gael eu sylweddoli o un i un. Prynais dy bychan i fy mam, a ches y fraint o'i gwel'd yn ymsefydlu yn gysurus yno, ac yn y ty hwnw y mae yn byw yn awr. Yr un busnes ? Do; mi ddaeth i'm dwylaw i o'r diwedd, ar farwolaeth y partner arall. Ond Harri, 'dwy i ddim yn dyweyd hyn wrthyt gyda'r amcan y gwnei di gael fy mhrofiad i, ond i ddangos fod yr egwyddor yn aros o hyd yr un. "Ac edrych ar y pwnc mewn ystyr fasnachol yn hollol, mae yn talu i wneyd dy oreu, a dim ond dy oreu ond mae rheswm arall ac uwch dros wasanaeth ffyddlon, yr hwn a gei di, drosodd a throsodd, yn y Tywysydd y mae y Meistr Mawr wedi adael yn rheol i fywydau ei weision."

Advertising