Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ANTHEM CENEDLAETHOL Y CYMRY

News
Cite
Share

ANTHEM CENEDLAETHOL Y CYMRY Y mae yr uchod yn arlun perffaith. gywir o'r copi cyntaf erioed ysgrifenwyd o Hen Wlad fy Nhadau," yn llaw-ysgrif yr awdwr, wrth gwrs, ac wele isod ddarluniau o awdwr y geiriau ac awdwr y gerddoriaeth. ME EVAN JAMES. MR EVAN JAMES (Ieuan ap lago) Pontypridd, awdwr geiriau Hen Wlad fy Nhadau." Yn y flwyddyn 1857, cynnaliwyd Eis- teddfod ar raddfa eang y pryd hwnw yn Mhontypridd, ac y mae un digwyddjad mewn perthynas iddi yn deilwng o'i gofio. Prif orseddogion yr Eisteddfod oeddynt, Myfyr Morganwg ac Ieuan ap lago, awdwr geiriau Hen Wlad fy Nliadau," yr hon, er's blynyddoedd bellach, sydd wedi dyfod yn Gun Genedlaethol Cymru. Cyfansodd- wyd y geiriau yn y flwyddyn 1857. Arferai yr awdwr ysgrifenu llinellau o farddoniaeth ar lech, or mwyn en blotio a'u hail ysgrifenu. Ond byddai James James ei fab yn arfer a'u copio mewn llyfr. A chan ei fod ef yn delynor medrus ac yn gyfansoddwr, cyfan- soddodd alawon i amryw ohonynt. Yn yr pjugylchiad dan sylw, cyfansoddodd alaw mor bwrpasol i eiriau ei dad, nes y buasai hi yn deilwng o gael ei chanu yn yr Eisteddfod i gyfeiliant y clelyn ar Garreg yr Orsedd. Yr oedd yr alaw a'r geiriau mor newydd, mor lifeiriol, naturiol a Chymreig o ran eu nodwedd, fcl y cymerodd ar unwaith, a derbyniwyd y gan gyda brwdfrydedd. Yr olwg gyntaf a gafcdd y wlad ar y gan oedd yn y flwyddyn 1860, yn y Gems of Welsh Melodies, gydag ychwanegiad o eiriau Soisnig, symphonau a chyfeiliant gan casglydd, y diweddar Owajll Alaw. Masnachwr mewn gwlan a gAvehydd oedd y bardd, ac y mae gweddillion o'r hen adeiladau lie yr oedd yn dwyn yn mlaen ei fasnach i'w gweled heddyw yn Mill Lane. Yno yr oedd Evan James a'i fab, MR JAMES JAMES, yn byw y pryd hwnw. Y mac rhanau o'r hen adeilad wedi cu tynu i lawr, a chyfcewidiadau wedi cyweryd lie erbyn hyn, ac y mae y copi gwreiddiol o'r gan ar gael. Lie bynag y mae son am Gymru, Cymro a Chymraeg, y mae y don genedlaethol hon yn adnabyddus; a pha anghydfod bynag a ddigwydd mown Eisteddfod, y mae canu y gan hon yn effeithio fel cyfaredd-fel tywallt olew ar y dyfrocdd cythryblus, ac yn Ilonyddu yr ystorm. Yn ei hacenion hi y mae Dehau a Gogledd, yn feirdd a cherdd- orion, yn anghofio eu lioll ymrysonau. t-!

PA UN OEDD Y GONESTAF?

[No title]