Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
SAFLEOEDD Y BEIRDD
News
Cite
Share
SAFLEOEDD Y BEIRDD DARLUN ydyw hwn o safleoedd a threfn y beirdd a'r cerddorion yn Eisteddfod Fren- hinol Caerwys, 1567. Cymerwyd y darlun o gyfrol o lawysgrifau yn meddiant teulu y diweddar W. Lawrence Banks, Ysw., R.C.A. Y mae y llyfr o'r braidd yn anhysbys ac heb erioed ei gyhoeddi. Y cyntaf oil ar ddeheu y darlun yw yr Athro, yna y Pencerdd, y Disgybl Pen- cerddaidd, y Dysgybl Dysgyblaidd, a'r Dysgybl Yspâs. Gyferbyn a'r dysgybl Pen- cerddaidd y saif y Datgeiniad, a'r Cerddor islaw iddo yntau. Ar yr aswy i'r darlun eto, yr athraw yw y cyntaf, yna y Bardd, y Prydydd, y Cerddor, a'r Clerwr yn ol eu trefn. Yn y canol ceir bras-ddarluniau o'r hen offerynau cerdd, yr uchaf yw y godbib, yna y delyn, y tabwrdd, y crwth, a math arall o godbib. Pwy bynag a geisiai radd mewn cerddor- iaeth, y Pencerdd oedd i'w gyflwyno i'r Eisteddfod, yn ol ei wybodaeth o'r ym. geisydd. Yn ystod ei dair blynedd cyntaf fel efrydydd, gelwid ef yn Dysgybl Yspas heb radd; ac os dysgai chwareu y delyn, ni chaniateid iddo arfer yr offeryn hwnw gyda rhawn ceffyl yn dannau, rhag ofn iddo, drwy wneyd ymgais annheilwng am gynghanedd ferwino clustiau yr holl wlad, a dilyn ei efrydiaeth gyda mwy o ddiwyd. rwydd, er cael ei gynnysgaeddu a thannau mwy soniarus a nerthol. Ei radd nesaf fyddai Dysgybl Yspas graddol, pan y gofynid iddo wybod cwlwm, un golofn, pum cwlwm cydgerdd, un gadair ac wyth caniad. Y radd nesaf oedd Dysgybl Dysgyblaidd (Bachelor of Music) pan yr oedd yn angen- rheidiol iddo wybod ugain cwlwm, dwy golofn, deg cwlwm cydgerdd, dwy gadair, un ganiad ar bymtheg, a phedwar ar hugain o fesurau cerddorol a'u chwareu yn rhwydd ac yn gywir. Wedi hyny, Dysgybl Pencerddaidd, gradd yn arwyddo gwybodaeth baratoawl yn y deg cwlwm ar hugain, tair colofn, pymtheg cwlwm cydgerdd, tair cadair, pedair caniad ar hugain, a phedair gosteg; yn nghyda medr i'w darnodi yn eglur a dealladwy. Yn olaf, derbynid ef yn Bencerdd (Doctor of Music), un wedi ymberffeithio yn holl wybodaeth a medr gerddorol yr oes hono.
,,4.. SUT Y DIANOODD TERENCE
News
Cite
Share
,,4.. SUT Y DIANOODD TERENCE WRTH anerch y rheithwyr, siaradai y barnwr mewn llais isel. Methai y gwyddfodolion ei ddeall. Gwaeddodd rhywun Uwch uwch I" Pan glywodd y barnwr hyn, gor- chymynodd i swyddogion y llys droi allan yr aflonyddwr. Ufuddhawyd yn y fan, ac awd yn mlaen hefo gwaith y llys. Galwyd ar yr achos nesaf. Nid oedd neb yn ateb. Terence O'Flynn, dowch yn rnlaen," llefai yr awdurdodau. Nid yw Terence O'Flynn yn bresennol," dywedai un o'r swyddogion. "Pa le y mae ef ?" gofynai y barnwr. Eich arglwyddiaeth, chwi ber'soch fi ei droi ef allan, a gwnaethum hyny, a'r foment yr oedd O'Flynn yn yr heol rhedodd efe ymaith megis am ei fywyd. Dyna'r gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir."
DYFAIS NEWYDD I FYW YN RHAD
News
Cite
Share
DYFAIS NEWYDD I FYW YN RHAD AETH dyn a thri o blant gydag ef i westy mewn tref nid anenwog yn Ngogledd Cymru, ac wedi peri iddynt eistedd i lawr, gofynodd iddynt,— Yn awr, fy mhlant i, y mae arnoch eisieu bwyd, onid oes ?" Oes, oes," meddai'r plant yn unfrydol. A gymerwch chwi sausages ?" Cymerwn, cymerwn." Yna," meddai wrth y forwyn, dowch a thair-pedair-dowch a phump o sausages, os gwelwch yn dda. 0, ie, dowch a bara, wrth gwrs; bu agos i mi anghofio'r bara. Yn awr, bwytewch fy mhlant i; cyrhaedd- wch at y bwyd I" Dyna lle'r oedd swn tincian arfau bwyta- wyd y sausages mewn ychydig o amser, ac yr oedd wynebau y plant yn dangos eu bod wedi eu mwynhau. Rhagor o sausages, mhlant i ?" Os gwelwch chi'n ddao" Forwyn, dowch a chwanego sausages." Diflanodd y rhai hyny drachefn. Galwodd y boneddwr am beint o gwrw, ac wedi ei yfed cymerodd ei het a'i ffon, a dywedodd wrth y plant,— Yn awr, rhaid i chwi fod yn blant da a distaw. Byddaf yn fy ol yn fuan. Y mae arnaf eisieu myned am cigars." Pobpeth yn iawn." Aeth pum mynyd heibio, a chwarter awr, a hanner awr. Yna dywedodd gwr y gwesty wrth y plant,— Y mae eich tad yn hir iawn yn dy- chwelyd." I "Nid ein tad ydyw," meddai y plant; yr oeddym yn chwareu ar ochr yr heol pan ddaeth y dyn yna atom i ofyn i ni oeddan ni yn hoff o sausages ac mi ddeydodd pob un ohonom ein bod ni. Wedi hyny daeth a ni i mewn yma."
Advertising
Advertising
Cite
Share
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERNARFON. 18 9 4. RHESTR O'R TESTYNAU, AMMODAU, &c., Yn awr yn Barod, PRIS DRWY'R POST, 7c.-BLAEN-DAL. I'w gael gan y Cyhoeddwr, W. GWENIYN EYANS, Swyddfa'r Geninen," Caernarfon, neu'r Llyfrwerthwyr. The 'Herald' Steam Printing Works, HIGH ST., CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes, Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Catalogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancy. Accuracy, Neatness, Despatch. BOOKBINDING IN ALL STYLES AT THE LOWEST RATES Note the Address:— 'HERALD' STEAM PRINTING WORKS HIGH STREET, CARNARVON