Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU f *> 9 Manchester, Awst 16eg, 1893. W\« NWYL FAM,- Wele finnau o'r diwedcl IL yn cael hamdden i ysgrifenu. Yr oeddych chwi yn rhyw k led awgrymu fy mod yn rhy i &< £ nAI brysur gyda'm llyfr pan gaf awr hamddenol. Ond nid felly; ychydig iawn o hamdden wyf wedi gael hyd yn hyn. Y mae yn Ilawn cystal a darllen llyfr da oael byw mewn teulu fel hwn. Y mae fy meistres yn ddiarhebol am ei gofal am ei phlant, fel un yn ymwybodol o'i gallu i'w tywys yn yr iawn ffordd pan yn blant, ac y mae yn gwneyd felly. Y mae hi yn dysgu y bechgyn a'r genethod fod yn rhaid iddynt fod yn wrol wrth wneyd eu dyledswydd, yn gywir yn eu hymadroddion, ac yn gyd- wybodol yn eu holl weithredoedd, yn onest ac anrhydeddus, yn garedig a siriol, ac yn anhunangar. Ac y mae yn eu dysgu yn yr holl bethau hyn drwy ei hesiampl. Yr ydwyf fi wedi sylwi ar ambell un yn gwneyd rhyw fuss fawr os byddant yn myn'd i wneyd gweithred o garedigrwydd, a dim byd gwerth ei enwi yn y diwedd. Ond fu'm i ddim yn fy lie newydd yma ond ychydig 9 ddiwrnodau cyn i mi weled a chael esboniad ar y geiriau, Na wyped dy law aswy yr hyn a wna dy law ddeheu." Mewn gair, y mae meistres yn wir drugarog wrth y tlawd, ac yn cymeryd pleser mewn bod yn garedig wrth ei chymydogion; ac y mae y rhai sydd yn ei hadnabod yn arfer dyweyd fod bendith yr hwn sydd ar ddarfod am dano yn disgyn ar ei phen, a phobpeth yn llwyddo dan ei Haw. Yr wyf yn gweled fod yn rhaid adnabod gwraig yn ei chartref ei hun i wybod ei gwir werth. Y mae yma amryw wragedd Cymreig yn Manceinion yma yn disgleirio fel yr haul mewn cyfarfodydd te, ond yn ddigon pell ar ol ar eu haelwyd gartref. Yn ol yr hyn a welwyf yma bob dydd, y mae gan bob gwraig ddigon i'w wneyd gartref, pe na bai ond er mwyn dysgu cariad brawdol a chwaerol i'r plant. Dysgir y plant yma o'u mebyd i gymeryd pleser a dyddordeb yn llawenydd y naill y llall, yn gystal ag i gydymdeimlo a'u gilydd yn mhob poen a thrallod. Dysgir iddynt fod y wers salaf ar hunanymwadiad yn well na'r wers oraf mewn pobpeth arall. Dysgir hwynt i ymddiried yn y naill y llall, i gynnorthwyo ac i gysuro eu gilydd, i barchu hawliau eu gilydd, ac i gydgyfranogi yn llwyddiant y naill y llall. Mewn gair, hyffordcla blentyn yn mhen ei ffordd," ydyw holl bleser fy meistres. Ac y mae hyny, yn nghyda hoffder y teulu o gerddoriaeth, yn gwneyd y ty yn hapus i aros ynddo a phryd bynag y byddaf yn ymadael oddiyma, bydd yn anhawdd i mi gael lie mwy cartrefol. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi perswadio fy meistres i ddyfod i un o ymdrochleoedd glanau Goglcdd Cyrnru yr haf nesaf, os byw ac iacli. Beth pe cai unwaith olwg ar lanau dedwydd Clynnog a Dinas Dinlle, ac anadlu awyr godreu yr Ein '? Fe fyddai yn fendith fawr pe gellid perswadio miloedd Man- chester yma ddyfod i dreulio ychydig wythnosau yn Ngogledd Cymru yn ystod misoedd yr haf, er mwyn iddynt gael gwrid newydd yn eu liwynebau. Cefais lythyr oddiwrth Bronwen ddydd Sadwrn diweddaf, ac y mae hi'n dyweyd ei bod hi a Peris yn iach a chysurus. Wedi'r cwbl, bydd yn chwith genyf feddwl ein bod wedi ein gwahanu mor bell oddiwrth ein gilydd. Ond y mae pobpeth er daioni. Y mae rhai teuluoedd yn Nghymru wedi bod yn byw yn yr un cwmwd a'u gilydd am genedlaethau, ac wedi dechreu ymwahanu y mae moroedd a chyfandiroedd rliyng- ddynt a'u gilydd. Digwyddodd i mi daro ar foneddiges mewn restaurant yn Man- chester oedd wedi cysegru ei blynyddoedd i deithio yn ddidor hyd derfyn ei hoes i ym- weled a'i phlant. Yr oedd dwy o'i merched yn Llundain, un mab yn Sydney, un yn Mel- bourne, un yn San Francisco, a'r llall yn New York, a hithan yn teithio wrth ei phwys i ymweled a hwynt. Y mae yn anmliosibl i ni beidio edmygu serch ymlyngar yr hen foneddiges yn myned oamgylch y ddaear i ymweled a'i phlant. Y mae Shakespeare yn son am filwr ieuanc yn rliyfel Caerdroia yn gallu ymryddhau o rwymau cariad, ac ysgwyd serch oddiar ei ysgwyddau—pan oedd yr udgorn yn galw—fel y bydd y llew yn ysgwyd ymaith y gwlith oddiar ei fwng. Felly y mae yn rhaid i'n gwroldeb ninnau orchfygu y teimladau mwyaf tyner a chysegr- edig ni cliawn ni ddim gwneyd Twr Babel o'n serch, i'n cadw yn yr unman ar hyd ein hoes. Efallai fod tuedd myned i eithafion mewn rhai teuluoedd yn y cyfeiriad yna, ond y mae llawer o deuluoedc1 yn y trcfydd mawrion yma a'u plant wedi eu gadael fel cywion yr estrys, heb neb yn eu liarddel nac yn gofalu am danynt, dim ond Un, yr Hwn sydd yn gofalu am aderyn y to. Ond yr ydym ni wedi cael ein magudan ofal tad, yn dyner ac anwyl yn ngolwg ein mam ac am yr hen gartref anwyl, gallaf ddyweyd, Anghofier fi gan bawb drwy'r byd, os byth yr anghofiaf di." Os oes unlle ar y ddaear hon lie y gall cyfeillgarwch parhaol flodeuo fel y rhosyn, a dylanwadau tyner ddisgyn fel gwlith, serch flaguro, a chydgyfeillach syml a didwyll y ddau ryw gynnyrchu hyfrydwch anorchfygol, lie y mae cydym- deimlad didwyll wedi dwfn wreidclio a chyf- newid meddyliau er cynnorthwyo y naill y Hall wedi bod yn hen arferiad gysegredig, ac yn rhwymo y naill y llall wrth eu gilydd mewn anwyldeb cydgordiol, yn nghwmni brodyr a clrwiorydd ar yr aelwyd gartref y mae y baradwys ddaearol hono. Yr oedd Bronwen yn ei lie pan yn ysgrifenu ar photography fel maes newydd, neu fodd- ion i ferched enill bywoliaeth dda drwyddo. Yr wyf wedi gweled amryw o ferched yn y dref hon eisoes yn gwneyd yn dda. Y mae typeivriting hefyd yn dyfod i fwy o fri bob dydd yn mhlith merched; ond byddaf fi weithiau yn meddwl y gallai fingerboard y piano a'r peiriant argraphu yma ddyfod i wrthdarawiad a'u gilydd. Os ydyw bysedd merch yn dyrysu wrth wau hosan, y mae yn rhyfedd os .nad ydyw bysedd y typewriter yn chwareu chant ambell dro ar yr offeryn hwnw. Gyda chofion caredig at bawb, Eich merch, LYDIA. O.Y.—Byddwcli mor garedig a dodi y cyfarwyddiadau amgauedig i Sarah Jones, Llwynybedw, gan fy mod wedi addaw ysgrifenu ati.—L.

[No title]

[No title]