Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Gafaelodd Harri yn y papyrau, a bu yn synfyfyrio uwch eu pan am beth amser. "lYIaent yn ymddangos yu rhai priodol;" meddai o'r diwedd a ydyw'r eyfreithiwr fu yn eu copio yn un y gellir dibynu arno ?" 0, ydyw, fyddaf fi byth yn gwneyd dim busnes a phobl dwyllodrus," atebai y twrnai. Edrychodd Harri arno gyda gwen wawd- lyd, ond ni ddywedodd ddim mewn atebiad i'r sylw. Yn sydyn, fodd bynag. gwelid fod rhyw syniad newydd wedi taraw Harri, oblegid gosododd ddau o'r papyrau ochr yn ochr ar y bwrdd, a syllodd mewn penbleth arnynt. Fedra i yn fy myw wneyd hyn allan," meddai o'r diwedd. Beth sy'n peri penbleth i chwi? 'Does dim posibl i ddim fod yn blaenach na liyn ?" Wel, yn ol y cofrestriadau hyn, yr wyf fi agos iawn i bedair blynedd yn ieuengach na Pyrs. Dywedai mam a nhad wrthyf bob amser nad oedd ond oddeutu blwyddyn rhyngom." Cael eicli camarwain yn fwriadol yr oeddych, mae'n amlwg," atebai'r twrnai, gyda gwen oedd yn dyweyd ei fod ef yn deall twyll a drygioni y byd yn well na Harri. Credodd Harri fod Mr Wynn yn lied agos i'w Ie-fad ei dad a'i fam wedi ei gamarwain yn fwriadol, rliag iddo byth amheu hawl Pyrs i gael ei ystyried yn frawd o waed coch cyfa iddo. Ac yn awr," meddai'r twrnai, dyma fi wedi cyflawni fy rhan, wedi cael digon o brawfion i'cli galluogi i ddifeddiannu Pyrs. Dylech gofio fod yn ddyledswydd arnoch ei droi o Dolgynfi gan gynted ag sydd bosibl, onide pe digwyddai iddo farw tra mewn mcddiant o ran o'r eiddo, byddai gan ei ddisgynyddion hawl gyfreithlon i'r eiddo hwnw. A ydwyf fi i gyehwyn cynghaws yn ei erbyn er mwyn ei ddifeddiannu a'i droi i ffwrdd ?" Rhaid i chwi dalu iddo hefyd yr arian hyny sydd yn digwydd iddo yn awr- oblegid dyma chwi, fel eymunweinyddwr John Harris, wedi dod o hyd i'r mab colledig, ac yn lie bol yr arian yn myn'd i sefydliad dyngarol, rhaid eu talu i Pyrs." Nid oedd yr arian gan Mr Wynn-yr oedd wedi eu gwario ar ei chwarel ac mewn ffyrdd ereill. Mewn gair, yr oedd wedi lladrata yr ari-tn hyny, yn ogystal ac oddeutu hanner y swm fyddai yn digwydd i Maggie cyn pen deng wythnos wed'yn, sef pan ddeuai hi i'w hoed, Ond yr oedd Harri wedi addaw talu iddo, pan sefydlid ei hawl ef i Dolgynfi, swm fyddai bron yn ddigon i wneyd i fyny yr arian wariodd o gyfran Maggie, ac am gyfran Pyrs o arian John Harris, yr oedd gan Mr Wynn ei fwriadau ei hun mewn perthynas i hono, a chawn weled eto beth oeddynt y bwriadau hyny. Felly, yr unig ateb roddodd i Harri oedd y byddai pobpeth yn iawn efo arian Pyrs. Rhaid i'r briodas gymeryd lie cyn y bydd i mi droi Pyrs o Dolgynfi," ebai Harri. Ie, ie, siwr iawn-eieh priodas chwi a- Maggie, debyg gen i ?" meddai Mr Wynn. Nage, priodas Pyrs. Priodas Pyrs ?" Ie—paham ?" "Nid ydych am adael i Pyrs briodi ei hanner chwaer ?" Oad nid yw yr un o'r ddau yn gwybod eu bod yn pertliyn i'w gilydd." "Nac ydynt, ond gwyddom ni," ebai Mr Wynn ac ni fyddai yn iawn, yn ddynol ynom adael iddynt gyfiawni y fatli both gwrthun ac annaturiol." Dim gwahaniaeth mae yn rhaid i ni adael iddynt briodi, ond gwalianaf hwy wrth yr allor. Ni fydd y briodas yn ddim felly ond gweinyddiad y seremoni yn unig." Y nefoedd fawr Nid ydych yn meddwl gadael iddynt briodi, ac wedyn eu gwahanu ar drothwy eu bywyd priodasol ?" Dyna yn hollol yr hyn wyf am wneyd," ebai Harri yn oeraidd. Dialedd eitliafol yw peth fel yna '?" Er's pa bryd y mae genych chwi gyd- wybod mor dyner a hyn, Mr Wynn ?" gofynai Harri yn wawdlyd. Grelwch ef y peth y mynoch-dialgarwch, os mynoch,-ond dyna yn gymliwys yr hyn wyf am wneyd. Yr ydych wedi son am ddynoliaeth Faint o ddyn sydd yn Pyrs ? Fe wyr o'r goreu nad oes ganddo bawl i Dolgynfi, ac eto y mae yn cadw meddiant o'r lie, ac yn fy nifeddiannu fi o eiddo fy nhad. Faint o ddyn sydd ynddo, meddwch chwi ? Onid yspeilydd ydyw- ymhonwr, twyllwr—beth arall ydyw ? Ac am yr eneth yna, fe ddywedodd lionyna wrthyf boreu heddyw y byddai yn well ganddi hi briodi y labrwr mwyaf anwybodus yn sir Gaernarfon na fy mhriodi fi. Wel, fe gaiff briodi Pyrs, ei brawd, a bydd i minnau ddyweyd wrthynt yn union ar ol y seremoni eu bod yn frawd a chwaer. Dyna'r oil!" Yr oedd hyd yn nod Mr Wynn, er mor fydol, dichellddrwg, a chaled oedd ef, wedi synu oherwydd yr arddangosiad yma o'r fath yspryd dialgar methodd ddyweyd dim am enyd, a dygodd yr ymddyddan i derfyn drwy sylwi, Ni feddyliais erioed eich bod chwi yn un mor ddialgar. Yr wyf wedi synu byth atoch. Ond os dyna ei dymuniad, nid yw o un gwahaniaeth i mi-waeth genyf fi i bethau fod felly na pheidio." Cyn bod Harri wedi dyweyd dim mewn atebiad clywyd dwrn drws yr ystafell yn troi, a rhywun yn curo yn drwm o'r tuallan wedi canfod fod y drws wedi cloi. Cododd Harri ac agorodd y drws, a daeth Pyrs i fewn. "Yr oedd Mr Wynn yn dyweyd fod genych fy eisieu i yma. Beth ydyw'r mater yrwan ?" "0, dim, Mr Llwyd, dim ond mater o ffurf," wyddoch, ebai Wynn, gan dynu gweithred mortgage o'i boced, tra yr ysgubai Harri y tystysgrifau cofrestriadol oddiar y bwrdd i'w boced ei hun. Eisieu i ti seinio dy enw yn y fan yna, sydd arnaf," ebai Harri, gan gymeryd y weithred o law Mr Wynn a'i dodi ar y bwrdd. "Chymer hyn ddim eiliad o dy amser." Wedi edrych ychydig ar y weithred, dy- wedodd Pyrs, Gwelaf dy fod am fortgagio y 17, ychwaneg o eiddo. Sawl mortgage wyf wedi seinio eisoes?" Wel, yn wir, nid wyf yn cofio, Mr Llwyd—un neu ddwy, onide ?" ebai Mr Wynn. Yr wyf fi yn cofio, ynta—tair; dyma'r bedwaredd. Y Ddolgoch y gyntaf wed'yn Hafotty'r Mynydd; Ylla'r Prysgwydd, ac mi welaf eich bod am mortgagio Dolgynfi ei hun yn awr." Twt, twb," seinia yn y fan yma, wc1'd di," ebai Harri, gan ddechreu anesmwytho wrth weled cyndynrwydd Pyrs. Tydi hyn yn ddim ond mater o ffurf ?" Aie ? Ai mater o fflIrt yw dy fod yn cymeryd fy eiddo i oddiarnaf fel hyn o ddarn i ddarn, yn fy nifeddiannu o'm hetifeddiaeth ?" Gwylltiodd Harri—" Dy etifeddiaetli di! A fedri di brofi dy hawl iddi'?" Edrychodd Pyrs arno lieb ddyweyd dim; gafaelodd yn y gweitliredoedd oddiar y bwrdd, rhwygodd hwy yn ddarnau, ac wedi eu taflu i'r tan, aeth allan gyda dyweyd, Dyna fy ateb, a dyna i ti fy her." (F to barlbaa).

Advertising