Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DIRGELWGH DOLGYNFI neu Pwy…

News
Cite
Share

DIRGELWGH DOLGYNFI neu Pwy oedd yr Etifedd ? PENNOD XII. BETH YW GWIR GARIAD ? fYN bod Mr Hopcyn wedi eistedd yn ei gadair freichiau ar aelwyd gysurus ei annedd—yr annedd a gedwid mor lanwaith gan Maggie, yr hon a Aveithredai fel house- keeper i'r hen wr byth er pan fu marw Mrs Hopcyn—rai blynydd- au cyn hyn—daeth euro wrth ddrws y ffrynt. Tybiodd Mr Hopcyn mai Mr Wynn oectd yno, wedi troi yn ol ar ol anghofio dyweyd rliywbeth, ond mawr oedd ei ganfu mai Pyrs Llwyd irws. tewn, macbgen i; sat wed '? Weiais i mo- tro byd—lie 'rwyt ti adw?" oedd cyfarchiad j j- null weinidog. 'Rydw i yn bur dda o ran fy iechyd, diolch i chwi, Mr Hopcyn; ond nid mor gysurus o ran fy meddwl." Taw ditha Bedi'r mater, machgen i ? Tyr'd i fewn i'r fan yma-hwda, eistedd yn yr hen gadair siglo yna, gael i mi dy weled di yn iawn. Yrwan, dyna ti-dwed dy hanes wrtha i; pwy sy'n dy boeni di, Pyrs bach ?" Da y gofynasoch pwy ac nid beth, Mr Hopcyn; personau, ac nid pethau, sy'n fy mhoeni fi y dyddiau hyn-wel, bytk er marw nhad, druan." Ie, ie, 'roeddwn i bron meddwl mai felly yr oedd hi arnat, weldi. Wel, gollwng dy galon wrtha i, machgen i, os wyt yn meddu digon o ymddiried yn dy ffrynd, yr hen weinidog. Newydd fyn'd oddiyma mae Mr Wynn, y twrnai." Mi gwelais ef ar y ffordd, ond ddywedodd ef ddim ei fod wedi bod yma ychwaith. Y cwbl ddywedodd wrtha i oedd fod ganddo fusnes o bwys yn Dolgynfi efo Harri, ac y byddai yn angenrheidiol i minnau fod yno cyn y gellid gwneyd y busnes yn iawn, ac felly erfyniodd arnaf frysio yn fy ol adref. Adref I nid yw Dolgynfi fel cartref i mi mwyach; mae pethau yn cymeryd tro rhyfedd iawn acw yrwan, Mr Hopcyn. Ond yr wyf yn gwybod beth yw'r busnes sydd gan Wynn efo Harri, ac yr wyf wedi penderfynu rhoddi pen unwaith ac am byth ar y math hwnw o fusnes." Dyna ti, machgen i-rwyt ti yn ganghen iawn o'r hen foncyff, weldi,—yn wir fab dy dad; hen wr pur agos i'w le oedd dy dad, weldi." Y gwir am dani ydyw hyn, Mr Hopcyn, mae Harri yn gwneyd y lie acw yn an- nioddefol i mi; 'dallaf fi ddim aros acw ddim llawer yn hwy; gwell genyf droi i'r byd fel yr wyf na bod dan y fath rwymau a derbyn y fath driniaeth. Dyna Harri yn mortgagio yr eiddo gan gyfiymed ag y gallo, ac 'rwy'n siwr yrwan mai eisieu codi ychwaneg o arian ar yr eiddo sydd arno fo, a dyna'r busnes sydd gan y Wynn yna i fyny acw heno, a chan fod yn rhaid i'r ddau gael genyf fi seinio fy enw ar y gweithredoedd-am mai fi yw'r mab hynaf-yr oedd Mr Wynn yn crefu genyf frysio yn ol yrwan." r, 0, mi welaf sut y mae hi acw," ebai Mr Hopcyn. Mr Wynn sy'n rhoi yr arian i Harri ar y gweithredoedd, mae'n debyg ?" 11 Ie yr wyf wedi seinio papyrau iddyn nhw ddwywaith neu dair yn barod ddar- llenais i yr un o'r papyrau yn ddigon gofalus i wel'd pwy sy'n rhoddi yr arian-waeth gen i pwy sydd yn eu rhoddi, Harri sy'n cael pob dimai ohonynt, ac y mae yn cyflym roddi yr holl eiddo dan ddyled." Mr Wynn sydd yn rhoddi yr arian, mae'n reit siwr i ti," ebai Mr Hopcyn yn synfyfyriol, ond p'le y mae ef yn eu cael, tybed ? Syrthiodd Mr Hopcyn i synfyfyrdod am enyd, ac am y tro cyntaf erioed daeth y cwestiwn i'w feddwl-tybed fod Wynn yn ofalus o arian Maggie ? Gwelai yr hen wr hefyd fod y twrnai wedi ceisio ei gamarwain ef yn fwriadol mewn perthynas i Pyrs, pan yn dyweyd fod Pyrs yn mortgagio yr holl 11 9 eiddo, pan mewn gwirionedd mai Harri oedd yn gwneyd hyny, fel y gwelai yn awr. Nid oedd dim o'r bydol-ddoeth yn Mr Hopcyn—hen wr syml, diniwed, ydoedd, byth yn meddwl drwg am neb, ond yn tybio fod pawb mor unplyg a gonest ag ef ei hun hyd nes y caffai y prawfion mwyaf pendant i'r gwrthwyneb. 0 ganlyniad, nis gallai yr hen weinidog gymeryd golwg briodol ar yr helynt yma rhwng Harri a Pyrs—nis gallai dreiddio i fewn i'r peth o gwbl, ac nid oedd am foment yn amheu fod dim dirgelwch yn nglyn a hawl Pyrs i gael ei ystyried yn etifedd Dolgynfi. Wedi myfyrio am enyd ynddo ei hun, dywedodd wrth Pyrs, Paid tori dy galon, machgen i; fe gliria petha eto yn y man." Cyn i Pyrs allu ateb, clywai swn cerdded- iad ysgafn o'r tu ol i'w gadair; trodd i weled pwy oedd yno—er ei fod yn adnabod swn y troed yn well na neb arall. Maggie oedd wedi dod i fewn yn ddistaw tra yr oedd yr hen wr yn llefaru, ac mewn moment yr oedd hi a Pyrs yn gafael yn nwylaw eu gilydd yn gynes ac yn dyweyd mwy y naill wrth y Hall drwy eu hedrychiad na thrwy eiriau, fel y bydd cariadon pan fydd rhywun arall yn bresennol-ond waeth tewi ar y pen yna, nid hanes carwriaethol yw hwn. Yr oeddwn i yn meddwl mai yr hen dwrnai drwg yna o Gaernarfon oedd yma hefoch chi o hyd, fewyrth," meddai Maggie —"fewyrth" y byddai hi yn galw Mr Hopcyn erioed, or nad oedd efe mewn gwirionedd yn perthyn dim iddi. "Rwy'n siwr dy fod di yn falch mai rhywun arall sydd yma yn lie Mr Wynn, onid wyt ti?" gofynai Mr Hopcyn, "ond pa'm yr wyt ti yn galw y dyn yn hen dwrna drwg ?" Hen walch drwg ydi o, hefyd," ebai Maggie, yn ol dull arferol y merclied o ym- resymu, yr ydw i yn gwybod hyny oddi- wrth ei edrychiad o." Dyna'r gwahaniaeth mawr sydd rhwng y merched a'r ctynion- o'r galon y bydd y blaenaf yn llefaru, ond y pen fydd yn rheoli ymresymiadau y dynion, i raddau llawer gormod efallai. Twt! twt! ches di ddim erioed yn erbyn Mr Wynn ryw ragfarn ynot ti yn erbyn y dyn yw hynyna. Ond mae'n well i mi eich gadael yn awr, hwyrach efallai fod genych rywbeth i'w ddweyd wrth eich gilydd ar ol bod am gymaint o amser lieb wel'd eich gilydd. Welsoch chi mo'ch gilydd er doe, ai do ? ebai'r hen wr gan chwerthin, codi, a myn'd allan cyn i'r un o'r ddeuddyn ieuanc allu ei attal. Wedi rhoddi digon o amser i'r hen wr gyrhaedd o'r gegin i'r parlwr-nid oedd gan Mr Hopcyn yr un study, fel sydd gan bob mymryn o bregethwr y dyddiau hyn- gwelid Pyrs a Maggie yn dod yn nes at eu gilydd yn sydyn, yn ol hen arferiad dda cariadon er adeg Adda ac Efe gynt, a'r ddau yn ymddangos yn bur gartrefol yn ngliwmni eu gilydd. Wedi'r cwbl ddywed y rhielli bydol a clielyd hyny, dadleuant dros y "doethineb" o briodi eu mheibion a'u mherched gyda phob math o greaduriaid dynol os bydd ganddynt bres," nid oes dim yn y byd hwn tebyg i wir gariad. Y mae yn gwresogi y natur oeraf, yn tynu deu- ddyn at eu gilydd gyda mwy o rym nag a bertliyn i ddeddf atdyniad y cread materol, yn eu cadw yn ffyddlon i'w gilydd pan fydd disgleirdeb yr aur wedi pallu, swyn yr arian wedi darfod, a manteision sefyllfa gymdeith- asol wedi myn'd yn gymhariaethol ddiwerth; yn nghwlwm gwir gariad aiff deuddyn ded- wydd yn mlaen drwy'r byd law yn llaw nes suddo o un olionynt i'r bedd-ac os darfu i chwi sylwi, nid hir y bydd ambell un a adawyd felly heb ddilyn ei gydmar drwy'r lien i'r byd anweledig; ac y mae yn anhawdd meddwl nad yw gwir gariad yn eu hunc drachefn yr ochr draw i'r bedd. Llygedyn o yspryd y nefoedd yw gwir gariad, yn cyn- nyrchu y dedwyddwch tawel a digryn hwnw a bery drwy anffodion, caledi, a thymhestl- oedd bywyd. A dyna'r fath gariad a dynodd Maggie a Pyrs at eu gilydd ac a gadwodd y ddau yn ffyddlon i'w gilydd hyd y foment yr ydym yn eu gweled gyda'u gilydd y noswaith yma. Nid hir y bu'r ddau gyda'u gilydd y waitli hon cyn i Maggie sylwi fod rhywbeth an- arferol, anesboniadwy, a rhyfedd yn edrych- iad ei hoffus Pyrs, ac wedi petruso yn nghylch pa ffordd i ofyn beth oedd y mater, gofynodd, Beth oedd f'ewyrth yn feddwl pan yn dyweyd wrthych am beidio tori eich calon, Pyrs ? Dyna oedd o yn ddyweyd pan oeddwn i yn dod i fewn, ac mi clywais o yn dyweyd hefyd y bydd i bethau glirio yn y man. Pa bethau ?" Edrycliai Pyrs arni fel pe yn methu gwybod sut i ateb, ond ami a rhyfedd yw ffyrdd y merched o gaol allan secrets dynion ■—gwasgodd Maggie ato, a chan bwyso ei phen ar ei fynwes a thynu ei llaw yn garu- aidd ar hyd ei wyneb, dywedodd, Os oes rhywbeth yn eich poeni, Pyrs bach, gadewch i mi gyd-ddwyn y boen."