Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

ATTAL CREULONDEB AT BLANT

News
Cite
Share

ATTAL CREULONDEB AT BLANT Edrych yn y drych hwn dro, Gyr galon graig i wylo."—DEWl WYN. YMAE y Gvmdoitlias or Attal Crcu- lond/b at Blunt wedi bod yn foddion i liniaru poeuau ac 1 sychu dagrau diangourhaid dros 63,940 o blaut o blitli deuddeng miliwa a banner o boblogaeth Prydain Fawr. Ei hamcan ydyw edrych i mown i achosion o greulondeb tuagat blant, a dysgu i rieni anwaraidd a chreulon ymddwyn yn llai barbaraidd tuagat eu plant. Y mae miloedd o blant bychain yn Ynys Prydain, y rhai, bron o'u genedigaeth, sydd yn tynu eu lianadl atynt rhag swn traed eu mam. Y mac niamaii melldigedig yn dianc rhag y crogbrcn drwy araf boenydio eu plant a dyrnodiau ac esgeulusdra. Yn y diwedd, y maent yn cael eu dymuniad, nid yw y gyfraith ond hwyhau gruddfanau y plentyn. Nid oes a fyno'r croghren ond a'r rhai sydd yn rhoddi terfyn buan a dirgelaidd i'r plant bychain diniwed hyny nad oes ar eu rhieni eu heisieu. Gwelir ar ddechreu yr erthygl hon ddarlun o facbgen deng mlwydd oed, fel y darganfyddwyd ef ddwy flycedd yn ol, pan y gellid rhifo ei holl esgyrn ac yr oedd yr ychydig gnawd a adewsid arno wedi ei fritho a briwiau ac arcliollion, newydd a hen, drwy gael ei guro gyda ffon a hen strapiau ar ei wynob a'i gefn, ei dwylaw a'iarddyrnau. Poenydiwyd ef i'r cyflwr hwn gan ei "fam," fel y galwai ef hi, drwy gael ei yru i fyny ac i lawr y grisiau, gyda heiyrn smwddio, un yn mhob llaw o'r boreu gwyn tan y nos hwyr. Yr oedd pob haiarn yn saith pwys. Yr oedd y ddau gyda'u gilydd yn fwy na banner ei bwysi ei hun. Byddai ambelL dro am yn agos i ddeugain awr heb ddim i'w fwyta, a'r liyn sydd fwy an- nyoddefol, dim i'w yfed, ac am bedair awr ar bymtheg olionynt yn myned i fyny ac i lawr y grisiau gyda'r pwysau diclrugareclcl yn ei ddwylaw. Pan, wedi liir ympryd, y gwelai yr ellylles hon yn dda roddi dogn o fwyd iddo, ni chaniateid iddo aros i'w fwyta, ac ni chan- iateid iddo byth gael digon buasai cael ei 11 ddigoni am unwaith yn nefoedd ar y ddaear iddo. Ond gyda'r ychydig a ganiateid iddo, ei frawd fyddai yn ei borthi fel yr oedd yn myned i fyny ac i lawr y grisiau. Os digwyddai Aveled crystyn a'i gymeryd, 1!1 a hithau yn ei weled, curid ef am ladratta. Os cliwenychai dori ei eisiau a bwyd y gath. cospid ef yn chwerwlym, er mwyn ei gadw rhag drygioni." Yr oedd ei dad a'i lysfam yn ddigon da arnynt a clianddyut arian yn y bane. A tlira y byddai y bachgen druan yn dwyn ei benyd o awr i awr, yr oedd y wraig "respectable" a'i poenydiai yn eistedd mewn eadair esmwyth i wrando ar y tegell yn canu. Ond ni fynegwyd yr banner. Wele ddarlun o'r bachgen yn mhen dwy liynedd wedi ei ddarganfyddiad. Wele ddarlun o un allan o saith a gafwyd mown bwthyn byclian yn nglnvr tref Seisnig, yn eistedd yn llonydd mewn budreddi a tlirueni; wedi ei rliwynio mewn cadair fechan, heb un dymuniad am fod yn rhydd. Yr oedd bywyd wedi myned yn rhy bell i unrhyw ddymuniad o'r fatli. Pan gyfodwyd hi i fyny, gwnaeth ryw swn egwan, poenus, ac y mae cwyno, gruddfan, neu ysgrecbian, lieu unrhyw lais dynol yn annigonol i'w osod allan. Ond yr oedd 11 yn ddigon effeitbiol i wneyd i ddyn talgryf wylo'r dagrau. Ond yr oedd y waedd fechan erfyniol hono yn ddigon cynnefin i glustiau y rhai oedd yn perchen arni hi a'r chwech arall, pan y cludid hwy i ffau arall i aros dros nos, ar hen fatresi budron heb na chynfas na chwrlid i'w cysgodi; dim ond ychydig hen garpiau a fuasent wisg i rywun flynyddau yn Nid oedd yno ddim bwyd pan ymwelwyd a'r Ie. Yr oedd raid i ddoln dyddjo laeth barhau am wythnos. Pan ddaeth y meddyg i mewn yr oedd yr arogl yn annioddefol. Gyda phob gofal cyrhaeddadwy bu y bechgyn farw. Efallai mai y ffaith fwyaf arswydus yn yr hanes ydyw yr arwyddair a gafwyd ar y pared. Efe a ddwg yr wyn yn ei fynwes.' Wele uchod ddarlun o'r plentyn dan sylw yn mhen dwy flynedd wedi i'r Gymdeithas gymeryd gofal ohonynt. Ysgrifenydd y Gymdeithas yw y Parch B. Waugh, 7, Harpur-street, Bloomsbury, W.C. Os gwyr rhai o ddarllenwyr Papur Pawb am achosion o greulondeb at blant, nas gellir ymdrin a hwy yn lleol, boed iddynt ysgrifenu ato. A